Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
O 1 Ionawr 2022, mae Sgrinio Serfigol Cymru wedi ymestyn y bwlch rhwng profion sgrinio serfigol arferol o dair blynedd i bum mlynedd. Mae'r newid hwn yn berthnasol i bobl â cheg y groth sy'n 25 i 49 oed - os na chanfu feirws papiloma dynol yn eu prawf sgrinio serfigol. Y rheswm am y newid yw'r ffaith bod y prawf sgrinio presennol yn fwy cywir na'r prawf sgrinio blaenorol. Golyga hyn y bydd y bwlch rhwng profion sgrinio ar gyfer y grŵp oedran hwn yr un fath ag ydyw ar gyfer pobl rhwng 50 a 64 oed.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu Cwestiynau Cyffredin sy'n helpu i esbonio'r rhesymeg y tu ôl i'r newid a'r hyn y gall pobl yn y garfan gymwys ei ddisgwyl bellach. Gallwch weld yr wybodaeth honno ar ei wefan.
Nid yw sgrinio serfigol yn brawf ar gyfer canser; mae'n brawf ar gyfer y feirws sy'n ei achosi. Mae’r feirws papiloma dynol (HPV) yn feirws cyffredin iawn y bydd gan y rhan fwyaf o bobl ar ryw adeg yn ystod eu bywyd. Ond dim ond mathau penodol o HPV sy'n achosi canser ceg y groth. Ers mis Medi 2018, mae Sgrinio Serfigol Cymru wedi defnyddio prawf sgrinio serfigol mwy sensitif fel mater o drefn sy'n chwilio am y 14 math o HPV risg uchel sy'n achosi 99.8% o’r achosion o ganser ceg y groth. Mae'r prawf hwn yn helpu i atal mwy o achosion o ganser na'r profion cytoleg sylfaenol blaenorol gan ei fod yn nodi pobl sy’n wynebu risg o gael canser ceg y groth. Mae hyn yn caniatáu i newidiadau i’r celloedd gael eu canfod a'u trin yn gynharach
Hoffwn bwysleisio bod y newid hwn wedi'i wneud oherwydd bod y prawf sgrinio presennol yn fwy cywir na’r prawf blaenorol. Felly, mae angen prawf sgrinio llai aml ar y rhai nad oes ganddynt HPV.
Bydd y rhai y nodir bod ganddynt HPV yn cael apwyntiadau dilynol, naill ai drwy gael eu cyfeirio i gael archwiliad pellach mewn clinig colposgopi mewn ysbyty, neu drwy wahoddiad am brawf pellach ymhen blwyddyn, os na chafodd unrhyw newidiadau i'r celloedd eu canfod yn eu sampl.
Os bydd HPV yn cael ei ganfod, gall gymryd sawl blwyddyn cyn i'r celloedd ddechrau newid i rywbeth sy'n peri pryder.
Gwnaed y newid i’r blwch rhwng profion sgrinio yn unol â chyngor annibynnol ac arbenigol Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU. Gwnaeth y Pwyllgor hwnnw yr argymhelliad ar gyfer ymestyn y bwlch rhwng profion ym mis Chwefror 2019 ar ôl cynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Felly, dyma'r argymhelliad cyfredol ar gyfer y DU sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Cafodd y newid ei roi ar waith yn yr Alban ym mis Mawrth 2020. Mae'r newid yn cael ei wneud yng Nghymru bellach gan fod y dystiolaeth wedi dangos ei bod yn ddiogel i ymestyn y bwlch rhwng y profion sgrinio ar sail y ffaith bod y prawf sgrinio’n fwy effeithiol.
Nid yw'r prawf sgrinio serfigol yn briodol i bobl sy'n dangos symptomau o ganser ceg y groth, gan nad yw'n brawf ar gyfer canser. Os oes gan unrhyw un symptomau posibl o ganser ceg y groth, yna dylent siarad â'u meddyg teulu a fydd yn ystyried yr angen i’w cyfeirio i gael archwiliad cyflym.
Ers 2008, mae merched 12 neu 13 oed wedi cael cynnig y brechlyn HPV ledled y DU i helpu i ddiogelu rhag canser ceg y groth. Mae ymchwil galonogol wedi dangos bod y brechlyn wedi arwain at ostyngiad o tua 90% yn nifer y bobl sydd â chelloedd cyn-ganseraidd. Mae'r cyfuniad o imiwneiddio a phrofion sgrinio serfigol yn cynnig yr amddiffyniad gorau posibl rhag canser ceg y groth, a disgwyliwn weld gostyngiad sylweddol mewn achosion o ganser ceg y groth yn y dyfodol agos.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Pe bai'r aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn fodlon gwneud hynny.