Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, blwyddyn ers sefydlu Profi Olrhain Diogelu, mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu £32m yn ychwanegol i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol er mwyn iddynt ymestyn olrhain cysylltiadau hyd at ddiwedd mis Mawrth 2022. Mae hyn yn cynyddu cyfanswm buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn olrhain cysylltiadau yn ystod 2021-22 i £92m.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd heddiw yn lansio strategaeth ddiwygiedig ar gyfer Profi Olrhain Diogelu sy’n amlinellu sut y bydd y gwasanaeth yn addasu ac yn ymateb i’r pandemig yn y misoedd sydd i ddod.

Mae ein gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu yng Nghymru, sy’n cael arian cyhoeddus ac sy’n cael ei gynnal yn lleol, wedi bod yn hynod lwyddiannus.  

Yn ystod y flwyddyn ers ei lansio, mae timau olrhain cysylltiadau lleol ar hyd a lled Cymru wedi ymchwilio i dros 170,000 o achosion positif ac wedi adnabod a chysylltu â bron 360,000 o gysylltiadau agos. Maent wedi cysylltu â 99.7% o’r achosion positif a oedd yn gymwys i’w holrhain a bron 95% o’r cysylltiadau agos a oedd yn gymwys i’w holrhain.

Mae’r gwasanaeth hefyd wedi darparu dros 12,500 o daliadau cymorth hunanynysu i helpu pobl i aros gartref a stopio’r feirws ofnadwy hwn rhag lledaenu.

Mae amcangyfrifon gan Grŵp Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru yn dangos bod y rhaglen Profi Olrhain Diogelu wedi lleihau’r gyfradd R o tua 1.7 i tua 1.3 pan oedd trosglwyddiad y coronafeirws yn uchel cyn y cyfnod atal byr. Yn fwy diweddar, mae cyfraniad y rhaglen wedi bod yn fwy amlwg, gan ostwng y gyfradd R o 1.3 i 0.8.

Wrth i’r cyfyngiadau lacio ac i gyfran fawr o’r boblogaeth gael o leiaf un brechiad Covid, rydym yn symud i gyfnod newydd o’r pandemig. Bydd y gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu yn canolbwyntio ar wella’r gwaith o olrhain cysylltiadau agos pob achos positif ac ar fynd ati’n fwy effeithiol i dorri’r cadwyni trosglwyddo.

Bydd yn gweithio i gryfhau a gwella’r gwaith o olrhain amrywiolynnau sy’n peri pryder a’r camau ar gyfer rheoli a gosod dan gwarantin y bobl sy’n dychwelyd i Gymru o wledydd ar y rhestrau coch ac oren. Bydd y gwasanaeth hefyd yn darparu cymorth mwy addas ar gyfer pobl y mae angen iddynt hunanynysu. 

Diolch i bobl Cymru, rydym wedi llwyddo i reoli nifer yr achosion o’r coronafeirws, ac felly mae timau olrhain cysylltiadau wedi gallu cefnogi’r ymateb ehangach i’r pandemig. Maent wedi helpu i fonitro’r 18,000 o deithwyr sydd wedi dychwelyd o wledydd ar y rhestr oren; maent ar hyn o bryd yn darparu’r Gwasanaeth Tystysgrifau Brechu Cymru dros dro; maent yn cefnogi’r rhaglen frechu arbennig a’r gwaith o gynnal safleoedd profi cymunedol, ynghyd â chynnig cymorth ac arweiniad ychwanegol i fusnesau a chyflogwyr lleol wrth i’r cyfyngiadau lacio.

Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn o £32m yn y gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu, ynghyd â’r strategaeth ddiwygiedig, yn helpu i sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda ac yn barod i wynebu beth bynnag a ddaw dros y misoedd sydd i ddod, ni waeth sut fydd y pandemig yn datblygu yn y dyfodol.