Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rhaglen Symud Cymru Ymlaen Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i sicrhau “mwy o nyrsys, mewn mwy o leoliadau, drwy gyfraith lefelau staffio nyrsys estynedig.” 

Mae Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan yn arwain y gwaith cychwynnol o ymestyn Deddf 2016, ac mae’r pedair ffrwd waith yn canolbwyntio ar y canlynol: wardiau i oedolion sy’n gleifion mewnol iechyd meddwl; gwasanaethau ymwelwyr iechyd; wardiau cleifion mewnol pediatrig; a gwasanaethau nyrsys ardal.

Mae’r ffrwd waith ar gyfer wardiau cleifion mewnol pediatrig wedi gwneud cynnydd â’r gwaith i’r graddau fy mod i yn awr mewn sefyllfa i ddweud wrth fy swyddogion am ddechrau’r gwaith o ymestyn y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) i wardiau cleifion mewnol pediatrig. Rwy’n gobeithio y bydd yr amserlen yn caniatáu digon o amser i allu ymgynghori ac awdurdodi estyniad a fydd yn cael ei ddeddfu erbyn mis Ebrill 2021.