Julie James AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio
Roedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn cynnwys darpariaethau i fynd i'r afael â sawl mater penodol ynghylch y trefniadau ymarferol ar gyfer partneriaethau rhannu swydd. Roedd y rhain yn cynnwys trefniadau pleidleisio yn y cabinet, trefniadau cworwm ar gyfer cyfarfodydd lle'r oedd partneriaid rhannu swydd yn bresennol a rheolau ynghylch nifer yr aelodau cabinet a ganiateir pan oedd y cabinet yn cynnwys trefniadau rhannu swydd.
Mae'n ddyddiau cynnar, ond mae diddordeb wedi bod, ac yn parhau i fod, yn y trefniadau hyn ledled Cymru. Y pwynt allweddol yw bod y ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn bosibl i brif gynghorau unigol roi trefniadau ar waith i gefnogi amrywiaeth, hybu mwy o gysylltiad â gwaith y weithrediaeth a sefydlu llwybrau dilyniant gyrfa. Mae nifer y prif gynghorau a fydd â threfniadau yn eu lle yn debygol o amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau unigol pob cyngor.
Mae Deddf 2021 yn darparu i drefniadau rhannu swydd gael eu hymestyn i rolau anweithredol uwch megis cadeiryddion pwyllgorau.
Mae ymgynghoriad wedi'i gyhoeddi heddiw i edrych ar safbwyntiau am y canlynol:
- y trefniadau presennol ar gyfer aelodau gweithrediaeth ac a oes materion sydd wedi codi wrth gymhwyso'r trefniadau hyn y mae angen eu hystyried ymhellach;
- ymestyn y darpariaethau i rolau nad ydynt yn rhan o'r weithrediaeth, gan gynnwys nodi materion y bydd angen mynd i'r afael â hwy os dilynir y dull hwn.
Mae rhannu swydd yn un agwedd ar ein dull o ymdrin ag amrywiaeth ac yn un a all gynnig cyfleoedd sylweddol.
Anogir aelodau i rannu eu barn am y materion hyn fel rhan o'r broses ymgynghori.