Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd sy’n creu niwed nad oes modd ei ddirnad ac mae’r dioddefwyr yn byw mewn cymunedau ledled Cymru. Mae Cymru yn parhau i frwydro yn erbyn y drosedd erchyll hon, ac yn cefnogi’r goroeswyr.
Ar Ddiwrnod Atal Caethwasiaeth (18 Hydref), safodd Llywodraeth Cymru yn gadarn gyda pobl a sefydliadau ledled Cymru. Roedd ein adeilad ym Mharc Cathays wedi’i oleuo’n goch i ddangos bod Cymru yn sefyll yn gadarn yn erbyn caethwasiaeth o bob math. Roeddem hefyd wedi cefnogi gweminar â drefnwyd gan BAWSO. Roedd hyn yn cynnwys tystiolaeth rymus a theimladwy gan ddau sydd wedi goroesi caethwasiaeth fodern. Rydym yn falch o gefnogi digwyddiadau o'r fath, gan gydnabod yr effaith hanfodol y maent yn ei chael o ran codi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern a'i effaith ar bobl.
I gyd-fynd â Diwrnod Atal Caethwasiaeth, lansiodd corff safonau cenedlaethol y Deyrnas Unedig, sef y BSI, safon newydd ar gaethwasiaeth fodern i Brydain. Mae fy swyddogion eisoes wedi cael trafodaethau cychwynnol â’r BSI, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â BSI ar sut y gallwn hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o'r safon hon ymysg ein rhwydweithiau yng Nghymru.
Mae caethwasiaeth fodern yn fater a gedwir yn ôl, ond er hynny rydym ni, yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyson o ran defnyddio pob arf a dylanwad posibl i gydweithio yn gadarnhaol ag ystod o bartneriaid er mwyn codi ymwybyddiaeth o risgiau caethwasiaeth fodern a’r arwyddion, mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern pa le bynnag y bo, a darparu cefnogaeth i oroeswyr.
Mae’r gwaith hwn yn cynnwys cydlynu cyfarfodydd cyson o’r Grŵp Arwain Atal Caethwasiaeth Cymru, sydd yn dod â phartneriaid amlasiantaethol ynghyd er mwyn darparu arweinyddiaeth a chydlyniant. Rydym yn parhau i hybu ein Cod Ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, sy’n cefnogi sefydliadau i gael gwared ar gaethwasiaeth fodern ac arferion sy’n camfanteisio ar weithwyr o’i cadwyni cyflenwi. Hyd yn hyn, mae mwy na 470 o sefydliadau wedi cytuno i’r Cod.
Rydym hefyd yn ceisio gweithio mewn ffordd gadarnhaol â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar yr agenda caethwasiaeth fodern. Er hynny, rydym yn pryderu bod yr ansicrwydd gwleidyddol yn San Steffan yn peri oedi wrth ddatblygu’r strategaeth caethwasiaeth fodern newydd i Gymru a Lloegr ac o ran penodi Comisiynydd AtalCaethwasiaeth Annibynnol ar ôl i’r Comisiynydd blaenorol adael ei swydd ym mis Ebrill. Rydym yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig mewn perthynas â’r materion hyn ac eiriol am ddull gweithredu sy’n canolbwyntio ar ddioddefwyr a goroeswyr ar gyfer mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern, lle mae pwysau mawr ar faterion diogelu.