Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a Grŵp Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid. Un o amcanion strategol y fframwaith yw bod gan anifeiliaid yng Nghymru ansawdd bywyd da.

Ar 12 Rhagfyr 2017 cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno â  Llywodraeth y DU y dylai ddeddfu ar gyfer Cymru a Lloegr i gynyddu’r ddedfryd lymaf am greulondeb i anifeiliaid o chwe mis i bum mlynedd. Dylai’r rheini sy’n euog o achosi’r creulondeb mwyaf i anifeiliaid ddioddef cosbau llym, ac mae’n bwysig cadw trefn ddedfrydu gyson ar draws Cymru a Lloegr gan sicrhau eglurder i’r asiantaethau gorfodi, y Llysoedd a’r cyhoedd.

Ar yr un diwrnod lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar Fil drafft Deddf Anifeiliaid (Dedfrydu a Chydnabod Ymdeimlad).

Yn ogystal â’i helfen ddedfrydu, mae’r Bil drafft yn nodi bod yn rhaid i’r Llywodraeth ystyried anghenion lles anifeiliaid fel bodau ymdeimladol wrth lunio’i pholisïau a’u rhoi ar waith. Ar hyn o bryd, mae’r e hon o’r Bil drafft yn gymwys i Weinidogion y Goron yn unig ond nid i bolisïau datganoledig megis lles anifeiliaid.

Mae’n safbwynt ni ynghylch ymdeimlad yn glir. Rydym yn cytuno’n llwyr mai bodau ymdeimladol yw anifeiliaid, ac rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, i gytuno ar gynnwys Cymru yn elfen hon y Bil, sy’n elfen sensitif. Rwy’n bwriadu rhoi Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ger bron y Cynulliad  a fydd yn rhoi’r ddyletswydd hon ar Weinidogion Cymru ynghyd â Gweinidogion y Goron pan gaiff y Bil ei gyflwyno yn y Senedd.

Bydd swyddogion o Gymru a Lloegr, gan gydweithio â swyddogion yn Lloegr, yn sicrhau bod ymdeimlad anifeiliaid yn cael ei gydnabod yn briodol mewn perthynas â materion datganoledig yn y Bil pwysig hwn.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 31 Ionawr 2018 a hoffwn annog unigolion a chyrff sydd â diddordeb mewn lles anifeiliaid i ymateb. Cewch weld yr ymgynghoriad ar Fil drafft Lles Anifeiliaid (Dedfrydu a Chydnabod Ymdeimlad) yma:

https://www.gov.uk/government/publications/draft-animal-welfare-sentencing-and-recognition-of-sentience-bill-2017