Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Duges Caer wedi gwneud penderfyniad unochrog i beidio â derbyn unrhyw atgyfeiriadau dewisol newydd ar gyfer cleifion o Gymru o 1 Ebrill ymlaen. Nid yw’r penderfyniad hwn yn effeithio ar gleifion mamolaeth, pobl sy’n mynd i’r adran damweiniau ac achosion brys a phobl o’r Gogledd sydd eisoes yn aros am driniaeth gan yr Ymddiriedolaeth.
Mae’r penderfyniad yn ymwneud ag atgyfeiriadau ar gyfer pob arbenigedd, gan gynnwys achosion brys lle’r amheuir canser, atgyfeiriadau brys ac atgyfeiriadau cyffredinol sydd wedi’u cynllunio (a elwir hefyd yn rhai dewisol). Mae tua 700 o gleifion yn cael atgyfeiriadau dewisol o Gymru i Ymddiriedolaeth Duges Caer bob mis. Rwyf wedi dweud yn glir bod y camau sydd wedi’u cymryd yn annerbyniol a’u bod yn groes i’r datganiad gwerthoedd ac egwyddorion y cytunwyd arno rhwng y GIG yng Nghymru a’r GIG yn Lloegr, sy’n nodi y byddwn yn gweithredu er budd cleifion bob amser. Mae gan drigolion Sir y Fflint hanes a pherthynas hir gyda’r ysbyty. Mae’r cyllid a geir drwy drin cleifion o Gymru wedi bod yn hanfodol i hyfywedd yr Ymddiriedolaeth ac yn parhau i fod felly.
Mae’r camau unochrog sydd wedi’u cymryd gan yr Ymddiriedolaeth yn gysylliedig â’r newid sylweddol yn 2019/20 i strwythur y system tariffau a chyfraddau sy’n pennu’r symiau sy’n daladwy i ymddiriedolaethau yn Lloegr sy’n darparu triniaeth i gleifion. Yn dechnegol, nid yw’r system dariffau hon yn berthnasol i ofal iechyd trawsffiniol, ond mae wedi’i defnyddio’n sail i daliadau yn y gorffennol, er cysondeb. Mae’r newidiadau i’r gyfradd dariffau y cytunwyd arni gan asiantaethau GIG Lloegr ar gyfer 2019/20 yn cynnwys costau ychwanegol sy’n deillio o gytundebau cyflogau staff – costau na ddylai gael eu talu gan sefydliadau GIG Cymru. Er mwyn cytuno ar yr effaith ariannol ar Gymru, mae fy swyddogion wedi cytuno ar broses o ymgysylltu uniongyrchol gyda swyddogion yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ynghyd â chynrychiolwyr o GIG Cymru a GIG Lloegr. Mae’r trafodaethau wedi bod yn rhai adeiladol, ac mae cynrychiolwyr y GIG yn Lloegr yn ystyried y materion a godwyd gan Gymru cyn cyfarfod arall sydd i’w gynnal yn nes ymlaen ym mis Ebrill.
Yn dilyn penderfyniad Ymddiriedolaeth Duges Caer, gofynnais yn syth i swyddogion gysylltu ag Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU. Rydym wedi gofyn iddynt gymryd camau i liniaru’r sefyllfa, a byddaf yn mynd ar drywydd hyn yn uniongyrchol gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU wythnos yma. Fy mlaenoriaethau yw datrys y mater lleol hwn ar fyrder a sicrhau ein bod yn gallu cytuno ar drefniant cadarn a theg ar gyfer taliadau trawsffiniol - trefniant sy’n rhoi gofal cleifion yn gyntaf.
Mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sicrhau bod trafod a chyfathrebu yn digwydd gyda phartneriaid a bod cleifion yn cael gwybodaeth a chymorth. Mae’r Bwrdd Iechyd yn rhoi systemau a phrosesau dros dro ar waith i wneud yn siŵr bod cleifion yn cael y gofal angenrheidiol.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i’r aelodau. Pe bai aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn ar ôl i’r Cynulliad ailddechrau, byddwn yn hapus i wneud hynny.