Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Medi 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, cyhoeddir yr adolygiad dilynol i adroddiad Ymddiried mewn Gofal 2014, a edrychodd ar ofal ac arferion yn ysbytai Tywysoges Cymru a Chastell-nedd Port Talbot, o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Daeth yr Athro June Andrews a Mark Butler, a gynhaliodd yr adolygiad cychwynnol o ofal yn y ddau ysbyty, yn ôl i Gymru i gynnal yr asesiad annibynnol o gynnydd yn erbyn yr 14 o argymhellion a wnaed yn eu hadroddiad gwreiddiol.

Mae eu hadroddiad dilynol heddiw yn dod i'r casgliad y gall y cyhoedd fod yn dawel eu meddwl bod gofal pobl hŷn a bregus yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot wedi gwella'n sylweddol. Maent hefyd yn cadarnhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi cymryd ei gyfrifoldeb o ddifrif ac wedi gweithredu ag argyhoeddiad. Cymerodd gamau ar unwaith lle oedd angen, ond mae'r adolygiad hefyd yn cefnogi penderfyniad y bwrdd i fabwysiadu rhai dulliau gweithredu ar gyfer y tymor hwy i sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu hystyried ar draws yr holl sefydliad ac nid yn unig yn y ddau ysbyty hyn.

Pan gyhoeddwyd Ymddiried mewn Gofal ym mis Mai 2014, eglurais fod yn rhaid ystyried yr adroddiad yn ei gyfanrwydd. Dylid trin yr adolygiad dilynol yn yr un modd.

Mae'r bwrdd wedi derbyn canmoliaeth am ei ddull gweithredu hyd yma ac am fabwysiadu dull hirdymor o sicrhau “gwelliannau radical”. Mae'r adolygiad wedi gwneud sylwadau am arweinyddiaeth ddewr y bwrdd a’i waith cyfathrebu hyderus, gan dynnu sylw at ei waith gyda chymunedau lleol a'i staff, sydd wedi cael eu siglo nid yn unig gan yr hyn a ddatgelwyd yn Ymddiried mewn Gofal ond hefyd gan bopeth sydd wedi digwydd dros y 12 mis diwethaf.

Yr hyn sy'n bwysig yw bod yr adroddiad yn cadarnhau bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud yn erbyn y pedwar maes gofal lle codwyd pryderon i ddechrau – sicrhau bod digon o ddŵr ar gael, meddyginiaeth, cwynion ac atebolrwydd proffesiynol.

Fodd bynnag, mae'r Athro Andrews a Mr Butler yn glir bod mwy o gynnydd i'w wneud o hyd mewn rhai meysydd pwysig eraill, yn arbennig mewn perthynas â hyfforddiant, ymgysylltu â'r cyhoedd a gwelliannau i amgylchiadau wardiau. Maent yn hyderus y bydd camau yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r meysydd sydd angen sylw pellach; mae'n rhaid i ni sicrhau bod y camau hyn yn cael eu cwblhau.

Maent yn gorffen drwy ddweud: “Rydyn ni wedi nodi nifer o feysydd lle mae angen gwneud rhagor o waith, yn arbennig mewn perthynas â datblygu gwybodaeth lle mae ei hangen neu lle mae problemau’n parhau gyda chyllid cyfalaf, lefel buddsoddiad, dulliau mesur a blaenoriaethu. Ni ddylai’r rhain gymryd unrhyw beth i ffwrdd o’r cynnydd gwych sydd wedi’i wneud hyd yma.”

Bydd Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru, yn pennu ddyddiad newydd ar gyfer cyflawni yn erbyn y materion sydd ar ôl ac ar gyfer monitro cynnydd fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad.

Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd i staff ond ni fyddai'r cynnydd yr adroddir arno heddiw wedi cael ei gyflawni heb eu gwaith caled a'u hymrwymiad. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt am y rhan maent wedi'i chwarae i sicrhau'r gwelliannau hyn. Rwy'n cytuno gyda'r Athro Andrews a Mr Butler sy’n dweud bod cynnydd da i’w weld yma. Maent yn mynd ymlaen i ddweud eu bod yn gobeithio y bydd hyn yn cael sylw eang yn y wasg ac yn cael ei drafod yn wleidyddol mewn modd aeddfed. Rwy'n gobeithio mai dyma fydd yn digwydd.  

Pan gafodd Ymddiried mewn Gofal ei gyhoeddi y llynedd, disgwyliais y byddai pob un o sefydliadau'r GIG yn dysgu gwersi. Mae adroddiad grŵp llywio Ymddiried mewn Gofal, dan gadeiryddiaeth y prif swyddog meddygol a'r prif swyddog nyrsio ar y cyd, hefyd yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae Gwersi yn sgil Ymddiried mewn Gofal: Blwyddyn yn ddiweddarach yn cadarnhau ac yn amlinellu sut y mae'r pedwar argymhelliad Ymddiried mewn Gofal ar gyfer Llywodraeth Cymru wedi cael eu cyflawni - er enghraifft, lansiwyd ymgyrch genedlaethol dros yr haf i sicrhau bod digon o ddŵr yn cael ei roi, a bydd yn cael ei chyflwyno'n genedlaethol o fis Ionawr ymlaen. Mae hefyd yn disgrifio'r gwelliannau a wnaed dros y 12 mis diwethaf, gan gynnwys datblygu yr hyn a ddysgwyd o'r rhaglen ymweliadau dirybudd mewn meysydd fel rheoli meddyginiaeth a'r amgylchedd gofal. Mae hyn wedi cael ei gyflawni drwy ymdrech nifer o weithwyr proffesiynol yn GIG Cymru ac eto, mae'n dangos ymrwymiad staff i ymdrechu i ddarparu'r gofal gorau posibl i bobl Cymru.

Hoffwn ddiolch i’r cymunedau lleol, y cleifion a’r staff yn ysbytai Tywysoges Cymru a Chastell-nedd Port Talbot am weithio gydag aelodau Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i roi argymhellion Ymddiried mewn Gofal ar waith dros y flwyddyn ddiwethaf. Hoffwn ddiolch hefyd i’r Athro Andrews, Mr Butler a’u tîm am ddod ‘nôl i Gymru i gynnal yr adolygiad hwn o gynnydd ar ôl blwyddyn, ac yn olaf diolch i Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol Cymru a’r Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Cymru, am arwain gwaith Llywodraeth Cymru wrth ymateb i Ymddiried mewn Gofal.