Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru wedi gweithio’n eithriadol o galed gydol y pandemig COVID-19 i wneud popeth posibl i gadw’r feirws allan o ysbytai ac i ddiogelu pobl sy’n derbyn gofal, a hynny’n aml mewn amgylchiadau hynod anodd.

Cafodd mesurau rheoli heintiau trwyadl eu rhoi ar waith ar draws holl leoliadau’r GIG, gan gynnwys mewn ysbytai. Mae cyfarpar diogelu personol rhad ac am ddim wedi bod ar gael i holl wasanaethau’r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol drwy gydol y pandemig.

Cafodd canllawiau eu cyhoeddi a’u diweddaru yn rheolaidd mewn perthynas â chadw pellter cymdeithasol, y gwagle y dylid ei ganiatáu rhwng gwelyau, profi staff a chleifion a gwisgo masgiau. At hynny, cynhaliwyd amryw o wiriadau gan fyrddau iechyd, Arolygiaeth Gofal

Iechyd Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Fodd bynnag, er gwaetha’r ymdrech aruthrol hon ac er bod yr holl fesurau hyn ar waith, cafwyd achosion o unigolion yn dal COVID-19 yn yr ysbyty. Haint a gafwyd yn yr ysbyty sydd i gyfrif am oddeutu 1% o’r holl heintiadau COVID-19. Mae’n drist iawn nodi, mewn rhai achosion, fod rhai unigolion wedi cael niwed neu wedi marw o ganlyniad i ddal COVID-19 yn yr ysbyty.

Mae achosion o haint a gafwyd yn yr ysbyty yn cael eu galw yn heintiadau nosocomiaidd. Mae gan GIG Cymru system ar waith sy’n cofnodi pob achos o haint a gafwyd yn yr ysbyty drwy’r gronfa ddata ICNET – system sy’n gwbl unigryw yn y DU.

Os bydd unigolion yn dal COVID-19 yn yr ysbyty, ac yn cael niwed o ganlyniad, mae’n bwysig bod GIG Cymru yn agored gyda’r unigolion a’u perthnasau. Mae hefyd yn bwysig bod y bwrdd iechyd yn cynnal ymchwiliad i bennu beth sydd wedi digwydd, beth y gellir ei ddysgu a beth sydd angen ei wneud nesaf i leihau’r tebygolrwydd y bydd hyn yn digwydd i unrhyw un arall.

Gan fod cyfraddau trosglwyddo COVID-19 yn y gymuned wedi codi i lefel na welwyd erioed o’r blaen dros yr wythnosau diwethaf – cynnydd a ysgogwyd gan yr amrywiolyn Omicron – rydym wedi gweld cynnydd hefyd yn nifer y derbyniadau i’r ysbyty a chynnydd cysylltiedig yn nifer yr heintiadau nosocomiaidd.

Mae ymchwilio i’r niwed a achoswyd gan drosglwyddiadau nosocomiaidd COVID-19 wedi chwarae rhan bwysig bob amser i ddylanwadu ar y ffordd y bydd canllawiau yn cael eu gweithredu’n lleol. Byddwn yn parhau i roi pwyslais allweddol ar ddysgu o ymchwiliadau o’r fath.

Rwyf wedi cytuno felly i ddarparu £4.54m dros ddwy flynedd i gefnogi byrddau iechyd ac Uned Gyflawni’r GIG i ddatblygu rhaglen o waith ymchwil bwysig a chymhleth i achosion o heintiadau COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty.

Mae GIG Cymru wedi datblygu a chyhoeddi fframwaith cenedlaethol unigryw mewn perthynas â digwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch cleifion o ganlyniad i heintiadau COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty. Mae’r fframwaith yn nodi’r camau gweithredu y dylai byrddau iechyd eu cymryd i ymateb i achosion o heintiadau COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty – wrth adrodd am ddigwyddiadau, ymchwilio iddynt ac wrth rannu gwybodaeth am ddigwyddiadau o’r fath.

Mae byrddau iechyd eisoes wedi dechrau gweithredu’r fframwaith a bydd y cyllid ychwanegol rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn caniatáu i’r gwaith hwn gael ei wneud yn gyflym.

Bydd Uned Gyflawni’r GIG yn goruchwylio’r gwaith o gyflwyno’r fframwaith ac yn cefnogi byrddau iechyd i fynd ati i gwblhau’r gwaith yn gyflymach.