Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 7 Gorffennaf 2015, cyhoeddodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ddatganiad ysgrifenedig am ymchwil a gyhoeddwyd i’r defnydd o gontractau dim oriau mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig.
Fel yr amlinellodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, mae’r gwaith ymchwil yn rhoi darlun pwysig o’r amrywiaeth o amgylchiadau y caiff contractau dim oriau eu defnyddio ynddynt ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Codwyd pryderon penodol ynghylch y defnydd o gontractau dim oriau yn y gweithlu gofal cartref. Roedd y rhain yn ymwneud ag effaith contractau dim oriau ar ba mor atyniadol yw gyrfa ym maes gofal yn y cartref a pharhad y gofal a ddarperir.
Rwyf, felly, yn bwriadu gweithio gyda’r sector i gomisiynu ymchwil, a hynny’n fuan, i ffocysu ar ba mor atyniadol yw gyrfa mewn gofal yn y cartref, a pharhad y gofal a ddarperir. Nid dim ond sut y mae contractau dim oriau’n effeithio ar y materion hyn fydd ffocws yr ymchwil hwn – bydd hefyd yn archwilio materion ehangach yn ymwneud â hyfforddiant, tâl yn y sector, sut y caiff rotâu eu trefnu, a mwy. Yn y pen draw, nod yr ymchwil fydd archwilio sut y mae’r materion hyn yn effeithio ar safon y gofal a ddarperir. Mae hyn yn dangos fy ymrwymiad i alluogi’r gweithlu i ddarparu’r gofal gorau posibl i bobl Cymru.
Caiff y gwaith hwn ei wneud ar yr un pryd ag y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn craffu ar y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru). Bydd rhaid i ran o’r ymateb polisi i’r ymchwil hwn, felly, archwilio sut y gellir defnyddio’r pwerau a ddarperir gan y ddeddfwriaeth honno i gefnogi unrhyw newidiadau sydd eu hangen.
Byddaf yn siŵr o gyhoeddi canlyniadau’r gwaith ymchwil ynghyd â datganiad ysgrifenedig.