Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Drwy gydol y pandemig COVID-19, gweithiodd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru yn eithriadol o galed i gadw'r feirws allan o'n hysbytai a diogelu pobl a oedd yn derbyn gofal mewn amgylchiadau heriol. Er gwaethaf gweithdrefnau rheoli trylwyr, ac oherwydd bod y feirws yn hynod drosglwyddadwy, cafwyd heintiadau COVID-19 nosocomiaidd (a gafwyd yn yr ysbyty). Yn anffodus, mewn rhai o’r achosion hyn, bu farw unigolion a chafodd eraill niwed.
Pan fydd digwyddiadau fel hyn yn taro, mae'n bwysig bod GIG Cymru yn agored gyda phobl a'u perthnasau a bod timau clinigol yn cynnal ymchwiliadau i bennu beth ddigwyddodd, beth y gellir ei ddysgu a beth ddylai ddigwydd nesaf i leihau'r tebygolrwydd y bydd unrhyw un arall yn cael profiad tebyg. Er mwyn i’r gofal wella yn barhaus, mae'n bwysig bod y timau clinigol yn rhannu canlyniadau’r ymchwiliadau hyn, yn ogystal â’r hyn a ddysgwyd.
Ym mis Ionawr y llynedd, cytunais i ddarparu £4.54m y flwyddyn, dros gyfnod o ddwy flynedd, i gefnogi byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ac Uned Gyflawni GIG Cymru i gynnal rhaglen bwysig a chymhleth o ymchwiliadau i achosion o COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty.
Mae'r gwaith wedi cefnogi sefydliadau GIG Cymru i fynd ati mewn ffordd gymesur i ymgymryd â'u dyletswydd i ymchwilio i ddigwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch cleifion sy’n gysylltiedig ag achosion o COVID-19 yr amheuwyd eu bod wedi’u cael yn yr ysbyty, gan ddangos maint yr her o ganlyniad i’r niferoedd uchel a gofnodwyd yn ystod y pandemig.
Mae'n bleser gennyf ro gwybod fod y gwaith ymchwilio yn mynd rhagddo'n dda. Heddiw (29 Mawrth), mae Uned Gyflawni GIG Cymru wedi cyhoeddi ei hadroddiad dysgu interim cenedlaethol (dolen allanol).
Rwyf wedi bod yn glir ei bod yn hollbwysig dysgu o ymchwiliadau, ac rwy'n croesawu'r adroddiad interim hwn. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y dysgu hwn yn arwain at newid ystyrlon a gwelliannau i ansawdd a diogelwch gofal cleifion.
Fodd bynnag, rhaid peidio â diystyru faint o waith sydd i’w wneud eto. Yn ystod yr ail flwyddyn o gynnal y gwaith hwn, bydd rhagor o wersi i’w dysgu eto yn dod i’r amlwg, a’r bwriad yw cyhoeddi’r adroddiad dysgu llawn terfynol yng ngwanwyn 2024.
Rwy'n ddiolchgar i'r unigolion a'r sefydliadau ar draws y GIG yng Nghymru am fwrw ati â'r gwaith heriol hwn ac am eu hymrwymiad parhaus. Rwy’n ddiolchgar hefyd i’r teuluoedd a gollodd rai annwyl am eu hamynedd wrth inni weithio’n galed i ddod o hyd i atebion iddynt.
Bydd gwaith hefyd yn parhau i nodi pynciau newydd sy'n dod i'r amlwg, ac i ymchwilio i’r pynciau hynny.