Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Drwy gydol y pandemig Covid-19, bu GIG Cymru yn gweithio'n hynod o galed i gadw'r feirws allan o'n hysbytai ac i amddiffyn pobl a oedd yn cael gofal o dan amgylchiadau anodd. Fodd bynnag, er gwaethaf gweithdrefnau llym i reoli heintiau, gan fod y feirws hwn yn gallu trosglwyddo mor rhwydd gwelwyd achosion o'r haint Covid-19 nosocomiaidd (sef haint a gafwyd yn yr ysbyty) a, gwaetha'r modd mewn rhai achosion, fe wnaeth pobl ddioddef niwed neu fe fuont farw.

Pan fydd digwyddiadau o'r fath yn codi, mae'n bwysig bod GIG Cymru yn agored gyda'r bobl yr effeithiwyd arnynt a'u teuluoedd, a bod timau clinigol yn cynnal ymchwiliadau i ddarganfod beth ddigwyddodd, pa wersi y gellir eu dysgu a beth sydd angen ei wneud nesaf i leihau'r tebygolrwydd y bydd yn digwydd eto. Mae'n bwysig fod y GIG yn rhannu canlyniadau a chasgliadau'r ymchwiliadau hyn, fel y gellir gwella gofal.

Ym mis Ionawr 2021, cytunodd yr Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol blaenorol i ddarparu £4.54m y flwyddyn, dros ddwy flynedd, i helpu byrddau iechyd, ymddiriedolaethau'r GIG a Gweithrediaeth GIG Cymru i gynnal rhaglen fawr a chymhleth i ymchwilio i achosion o Covid-19 a gafwyd yn yr ysbyty. Hoffwn gydnabod y rhan a chwaraeodd Bereaved Families for Justice Cymru yn y broses o sefydlu'r rhaglen hon.

Rwy'n falch o allu dweud bod y gwaith hwn wedi'i gwblhau, a bod Gweithrediaeth GIG Cymru heddiw wedi cyhoeddi ei Adroddiad Dysgu Diwedd Rhaglen: y Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd.  

Cynhaliwyd ymchwil i fwy na 18,360 o achosion, gan ddarparu adroddiadau i unigolion, anwyliaid a theuluoedd, yn ogystal â chasglu deunydd dysgu gwerthfawr i'r GIG. Drwy gydnabod effaith Covid-19 ar unigolion, teuluoedd, gofalwyr, a staff GIG Cymru, mae’r rhaglen wedi defnyddio dull dysgu sy’n ceisio peidio â bwrw bai ond sy’n cynnig cymaint o gyfle â phosibl i ddysgu a gwella.

Gan ehangu ar y themâu a nodwyd yn yr Adroddiad Dysgu Interim, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023, mae'r Adroddiad Dysgu Diwedd Rhaglen yn tynnu sylw at ddysgu cenedlaethol pellach o ran cyfathrebu â theuluoedd a gofalwyr, cadw cofnodion clinigol, staffio ac adnoddau, cynllunio ar gyfer rhyddhau o'r ysbyty, ac effeithiau amgylcheddau ysbyty.

Yn ogystal â'r dysgu sydd wedi cael ei gasglu drwy brosesau ymchwilio, mae'r adroddiad yn cydnabod meysydd o arfer da a ddaw o bob rhan o GIG Cymru. Mae cydnabod a rhannu arferion da yn hanfodol er mwyn ysgogi gwelliannau o ran ansawdd, diogelwch a phrofiad. Nodwyd enghreifftiau o arferion da mewn nifer o feysydd, megis y tosturi a ddangoswyd gan staff, y ffordd yr ymatebodd sefydliadau'n gyflym i'r pandemig, y cydweithio a gafwyd, a'r nifer o fentrau diogelwch cleifion a roddwyd ar waith.

Mae'r dysgu a'r arferion da sydd wedi dod o'r rhaglen wedi cael eu rhannu mewn amrywiaeth o fforymau lleol a chenedlaethol, a byddant yn parhau i gael eu defnyddio i lywio gwelliannau mewn ansawdd, diogelwch a phrofiad.

Mae'n eithriadol bwysig ein bod yn dysgu o’r ymchwiliadau, ac rwy'n croesawu'r adroddiad terfynol hwn. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y casgliadau hyn yn arwain at newidiadau a gwelliannau ystyrlon yn ansawdd a diogelwch gofal cleifion.

Hoffwn ddiolch i'r holl unigolion a sefydliadau ar draws y GIG yng Nghymru am eu hymrwymiad a'u hymroddiad i'r gwaith heriol hwn. Rwyf hefyd yn talu teyrnged, ac yn diolch, i'r holl deuluoedd a gollodd anwyliaid am eu hamynedd wrth inni weithio i ddod o hyd i atebion iddynt.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.