Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU ei bod am gynnal ymchwiliad i'r digwyddiadau a berodd i bobl gael eu heintio gan hepatitis C a/neu HIV drwy waed neu gynhyrchion gwaed a gyflenwyd gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae llawer o’r bobl yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan hyn, ynghyd â'u teuluoedd a chynrychiolwyr, wedi ymgyrchu'n hir ac yn galed i gael ymchwiliad o'r fath.

Mae'r Adran Iechyd wrthi'n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i gael barn pobl ynghylch cwmpas a fformat yr ymchwiliad. Mae'r ymgynghoriad hwn ar agor ar hyn o bryd, tan 13 Hydref. Mae'n hollbwysig bod cynllun, proses, cyfansoddiad, ac amserlenni'r ymchwiliad, yn ogystal â'r dull o’i weithredu, yn ennyn hyder y rhai y mae am eu gwasanaethu. Er y bydd pob ymateb i'r ymgynghoriad a ddaw o Gymru yn mynd yn uniongyrchol i'r Adran, rwy'n awyddus i sicrhau bod lleisiau pobl Cymru yn cael eu clywed. Felly mae swyddogion o Lywodraeth Cymru wedi cyfarfod â chynrychiolwyr y rhai y mae'r digwyddiadau hyn wedi effeithio arnynt, sef Hemoffilia Cymru a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Hemoffilia a Gwaed Wedi’i Heintio, i glywed eu barn. Rwyf felly wedi ysgrifennu i’r Adran i ategu eu sylwadau ac i nodi fy nisgwyliadau. Mae’r neges yn gwbl glir: rhaid i'r ymchwiliad fod yn drylwyr er mwyn dod o hyd i'r holl wirionedd ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd. Rhaid gofyn sut y caniatawyd i’r fath beth ddigwydd a beth oedd rôl y cyrff cyfrifol. Er mwyn cyflawni hyn i gyd, rwy'n credu nad oes dewis ond cynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.