Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 11 Gorffennaf y llynedd, yn dilyn casgliad Cwest y Crwner i farwolaeth drasig Carl Sargeant, dywedais wrth yr Aelodau fy mod yn credu y byddai’n briodol inni gael cyfnod o adlewyrchu, ac y byddwn innau hefyd yn asesu pa gamau y dylid eu cymryd, mewn ymgynghoriad â’r teulu Sargeant ac eraill perthnasol.

Estynnais wahoddiad i Gadeirydd ACAS Syr Brendan Barber, gan weithredu mewn rhinwedd bersonol, i siarad â’r bobl berthnasol i weld a fyddai’n bosibl dod o hyd i gytundeb ynglŷn â’r ffordd ymlaen. Rwy’n hynod ddiolchgar i Syr Brendan am gytuno i wneud y gwaith hwn. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i deulu’r diweddar Carl Sargeant a’r cyn Brif Weinidog Carwyn Jones am eu hymwneud adeiladol â’r broses.  

O ganlyniad i’w drafodaethau, mae Syr Brendan wedi gwneud dau argymhelliad imi. Y cyntaf yw na ddylai’r Ymchwiliad Annibynnol fynd rhagddo, a’r ail yw y dylai Llywodraeth Cymru dalu’r costau cyfreithiol rhesymol sydd gan y teulu Sargeant yn weddill. Rwyf wedi penderfynu derbyn a gweithredu’r ddau argymhelliad. Rwy’n atodi copïau o’r llythyrau rhwng Syr Brendan a minnau gyda’r Datganiad hwn. Mae’r llythyrau hyn yn amlinellu canlyniadau’r trafodaethau a’i argymhellion ef, ynghyd â’m hymateb innau. 

Rwy’n gwybod y bydd pawb a fu’n rhan o hyn yn awr yn rhannu’r dymuniad i ddod â’r trin a thrafod cyhoeddus ynglŷn â marwolaeth drasig Carl i ben, gan alluogi pob un ohonom i’w gofio fel gŵr, tad, cydweithiwr a chyfaill gwerthfawr.