Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau wedi nodi'r cyhoeddiad diweddar gan yr Ymchwiliad Annibynnol Cwnsler y Frenhines fod ei waith wedi'i ohirio er mwyn disgwyl am ganlyniad yr Arolwg Barnwrol a gychwynnwyd gan deulu'r diweddar Carl Sargeant.

Mae llawer iawn o ddiddordeb yn y broses hon, ac mae hynny’n gwbl briodol. Mae'r hyn a allaf ei ddweud wrth yr Aelodau'n gyfyngedig o ystyried yr Arolwg Barnwrol, ond rwy'n teimlo ei bod yn bwysig ac yn briodol rhoi diweddariad mor llawn â phosibl i’r Aelodau ar y mater hwn. Mewn perthynas â'r Arolwg Barnwrol, rydym wedi cadarnhau’n flaenorol y byddwn yn herio'n gryf yr holl seiliau y cafodd ei gyflwyno arnynt a bydd y broses gyfreithiol yn awr yn dilyn ei hynt.

Bu'r broses o sefydlu'r Ymchwiliad Annibynnol hwn yn un cymhleth, a bu'n rhaid ystyried nifer o ffactorau rhyng-gysylltiedig, gan gynnwys y gofyniad diamod i gadw cyfrinachedd yr achwynwyr.

Cyhoeddais Ymchwiliad Cwnsler y Frenhines ar 10 Tachwedd 2017 gan ddefnyddio fy mhwerau o dan adrannau 48 a 71 o Ddeddf Llywodraeth Cymru. Yn dilyn hyn, rhoddais gylch gwaith pendant i'r Ysgrifennydd Parhaol wneud trefniadau gweithredol i fwrw ymlaen â hyn ar y sail na fyddai'n ymchwiliad cyhoeddus, ac y byddai’n rhaid i gyfrinachedd yr achwynwyr gael blaenoriaeth. Nodais yn glir, ar y sail hon, y dylai'r ymchwiliad gael ei gynnal hyd braich oddi wrthyf fi a'm swyddfa.

Drafftiwyd Protocol Gweithredol gan yr Ysgrifennydd Parhaol a'i thîm cyfreithiol a oedd yn diwallu'r cylch gwaith yn llawn. Roedd hefyd yn cynnwys mesurau diogelu sylweddol i sicrhau cyfrinachedd y tystion a'r wybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Ymchwiliad. Rhoddwyd rhestr fer o dri Chwnsler y Frenhines uchel eu parch o'r tu allan i Gymru i’r teulu Sargeant a gofynnwyd i'w dewis cyntaf, Paul Bowen CF, gynnal yr ymchwiliad ar sail y Protocol Gweithredol fel y'i drafftiwyd. Dywedodd Mr Bowen CF nad oedd dim yn ei rwystro rhag ymgymryd â'r rôl, yn seiliedig ar y Protocol Gweithredol.

Er mwyn bod yn dryloyw, cafodd y protocol ei ddosbarthu gan yr Ysgrifennydd Parhaol i holl Aelodau'r Cynulliad ym mis Ionawr. Yn unol â'i gylch gwaith fel cadeirydd yr ymchwiliad, aeth Mr Bowen CF ati i drafod cylch gorchwyl arfaethedig ei ymchwiliad â'r teulu Sargeant. Drwy Mr Bowen, gofynnodd y teulu am gael gwneud diwygiad i'r telerau er mwyn egluro cwmpas yr ymchwiliad, a chytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol â hynny.

Ar wahân, gofynnodd Mr Bowen CF am gyfres o newidiadau sylweddol i’r Protocol Gweithredol. Fel Cadeirydd yr Ymchwiliad, roedd hawl ganddo ef wneud hynny wrth reswm. Roedd y newidiadau arfaethedig yn mynd ymhell tu hwnt i’r cylch gwaith roeddwn i wedi’i roi i’r Ysgrifennydd Parhaol, ac felly eglurodd hithau yn glir wrth Mr Bowen CF nad oedd ganddi’r awdurdod i gytuno arnynt, ac y byddai’n rhaid iddi eu cyfeirio yn ôl ataf i fel y Prif Weinidog.

Yn dilyn trafodaethau dwys ac adeiladol rhwng Mr Bowen CF a’r Ysgrifennydd Parhaol, gan gynnwys y cyngor cyfreithiol allanol a gafodd Llywodraeth Cymru, cefais gyngor ffurfiol ar y newidiadau arfaethedig. Cytunais â’r rhan fwyaf o geisiadau Mr Bowen, gan gynnwys disgresiwn i’r cadeirydd alluogi i aelodau’r teulu Sargeant a’u cynrychiolwyr cyfreithiol fod yn bresennol yn ystod y cwestiynau, ar yr amod y byddai sicrwydd ynghylch cyfrinachedd yr achwynwyr ac unrhyw dystiolaeth a allai olygu bod perygl iddynt gael eu hadnabod.

Wedi dod i gytundeb ynghylch y Protocol Gweithredol ar ei newydd wedd, dywedais wrth yr ymchwiliad y byddwn yn sicrhau fy mod ar gael ar gyfer sesiynau tystiolaeth lafar ar unrhyw adeg. Awgrymodd Mr Bowen gyfres o ddyddiadau ar gyfer y rhain i’w cynnal ym mis Medi ond awgrymodd y teulu Sargeant, fodd bynnag, na fyddai eu bargyfreithiwr ar gael ar gyfer y dyddiadau hyn, ac felly byddai’n rhaid dod o hyd i ddyddiadau diweddarach.  

Ar 25 Mehefin, derbyniom lythyr protocol cyn-gweithredu oddi wrth cyfreithwyr y teulu Sargeant yn dweud eu bod yn bwriadu mynd ar drywydd Adolygiad Barnwrol mewn perthynas ag elfennau o’r Protocol Gweithredol. Ysgrifennodd Mr Bowen CF at yr Ysgrifennydd Parhaol ym mis Gorffennaf i ddatgan, yng ngoleuni ansicrwydd a achoswyd gan yr Adolygiad Barnwrol, ei fod yn gofyn yn ffurfiol am estyniad i’r amserlen chwe mis ar gyfer cyflwyno ei adroddiad sydd wedi’i nodi yn y Protocol Gweithredol, a chytunwyd ar hyn.  

Cyhoeddodd Mr Bowen CF, yn amodol ar ganlyniad yr Adolygiad Barnwrol, ei fod yn bwriadu cynnal sesiynau tystiolaeth ym mis Mawrth neu Ebrill y flwyddyn nesaf. Rwyf innau wedi dweud bob amser y byddaf yn sicrhau fy mod i ar gael i roi tystiolaeth ar unrhyw adeg, a bydd hyn yn parhau wrth gwrs wedi i’m cyfnod fel Prif Weinidog ddod i ben.  

Rwy’n gobeithio bod y datganiad hwn yn ddefnyddiol i Aelodau o ran egluro rhywfaint o’r cefndir i’r sefyllfa bresennol. Rwy’n cydnabod nad oes unrhyw un am weld yr oedi hwn. Mae’n cael effaith ar bawb sydd ynghlwm wrth yr achos trasig hwn, yn enwedig teulu Carl. Myfi fy hun gyhoeddodd bod angen yr ymchwiliad hwn a fy nymuniad i, gymaint ag unrhyw un arall, yw y byddai’r broses hon wedi dod i’w therfyn erbyn hyn. Fodd bynnag, mae’n rhaid gwneud pethau’n iawn ac mewn ffordd sy’n sicrhau bod pob unigolyn a gyflwynodd gŵyn yn cael aros yn anhysbys.