Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwithio gyda’r Senedd i ailflaenoriaethu busnes y Llywodraeth er mwyn adlewyrchu natur ddigynsail yr argyfwng coronafeirws (COVID-19). Mae’r datganiad gwn yn cael ei gyhoeddi i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau, ond bydd datganiadau ysgrifenedig COVID-19 yn parhau i gael eu cyhoeddi fel blaenoriaeth.

Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef Diwygio ac Ailbrisio'r Dreth Gyngor yng Nghymru: effaith ar wahanol gynghorau a mathau o aelwydydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar yr adroddiad hwn, fel rhan o'n cyfres ymchwil i helpu i feddwl am ddyfodol drethiant lleol yng Nghymru.

Bydd yr ymchwil hon yn ein helpu i ddeall effeithiau posibl ailbrisio eiddo domestig, pe bai ymarfer o'r fath yn cael ei gynnal yng Nghymru.

Mae'n bleser gennym fod wedi cydweithio gyda sefydliad mor uchel ei barch i edrych yn ddyfnach ar anghenion a gofynion penodol y dreth gyngor yng Nghymru. Un ffrwd waith mewn rhaglen ehangach o ddiwygiadau i drethiant lleol a’r system gyllid llywodraeth leol yn ehangach yw'r ymchwil hon. Cyhoeddais ddiweddariad ar gynnydd y rhaglen waith ar 5 Tachwedd, a gellir gweld hwn drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

https://llyw.cymru/diwygio-cyllid-llywodraeth-leol-diweddariadau-blynyddol