Neidio i'r prif gynnwy

Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i gynyddu cyfranogiad democrataidd a sicrhau bod mwy o bobl yn cymryd rhan weithredol yn y broses wleidyddol – boed hynny trwy bleidleisio neu sefyll mewn etholiad. 

Mae hyn yn cynnwys camau amrywiol megis gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed a’i gwneud yn ddyletswydd statudol i ddarparu cymorth ariannol i gynorthwyo pobl anabl â’r costau ychwanegol o sefyll am swydd etholedig. A’r wythnos hon, fe wnaethom gyhoeddi'r Canllawiau Amrywiaeth a Chynhwysiant i helpu pleidiau gwleidyddol i annog pobl o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli i gynnig eu henwau fel ymgeiswyr. Mae'r Canllawiau yn annog pleidiau gwleidyddol i lunio strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant o leiaf chwe mis cyn etholiadau'r Senedd  yn 2026 ac i gasglu a chyhoeddi gwybodaeth ddienw am amrywiath ymhlith ymgeiswyr y Senedd yn dilyn yr etholiad. 

Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, rwy'n awyddus i sicrhau ein bod yn deall unrhyw rwystrau sy'n atal pobl rhag cymryd rhan mewn democratiaeth leol.  Dyna pam rwyf wedi comisiynu Alma Economics i gynnal ymchwil i effeithiau dylanwadau economaidd-gymdeithasol ar gyfranogiad democrataidd yng Nghymru. Nod yr ymchwil yw gwella'n dealltwriaeth o'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cymryd rhan mewn democratiaeth, a sut y gellid mynd i'r afael â'r rhwystrau hynny yn y dyfodol. Bydd hefyd yn ystyried sut mae ffactorau o'r fath yn effeithio ar bobl sy'n sefyll am swydd etholedig mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru. 

Mae'n bosibl y bydd yr ymchwil yn ystyried sut mae cyfyngiadau ariannol, diffyg mynediad at wybodaeth wleidyddol, agweddau cymdeithasol, a gwahaniaethu yn gallu rhwystro neu atal unigolion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel neu grwpiau ymylol rhag ymgeisio am swyddi etholedig. 

Trwy nodi'r rhwystrau hynny a mynd i'r afael â nhw, gallwn greu amgylchedd sy'n annog ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol i sefyll mewn etholiadau, gan arwain at strwythur llywodraethu sy'n fwy cynrychiadol ac effeithiol yn y pen draw.  Mae hyn hefyd yn unol â dechrau'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, a ddeddfwyd yn 2021, i annog gwell gwneud penderfyniadau a chyflawni canlyniadau gwell i'r rhai sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol.

Mae'n bwysig bod yr ymchwil yn gallu elwa ar gynifer o safbwyntiau â phosibl. Felly, bydd yr ymchwilwyr yn mynd ati i ymgysylltu â phobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd, gan gynnwys aelodau o'r cyhoedd, sefydliadau'r trydydd sector, ac aelodau etholedig. 

Rwy'n gwybod bod llawer o Aelodau yn rhannu fy mhenderfyniad i sicrhau bod pawb, waeth beth fo'u cefndir neu’u hamgylchiadau, yn cael y cyfle i gymryd rhan lawn mewn democratiaeth. Hoffwn annog yr Aelodau sydd â diddordeb mewn rhannu eu sylwadau a'u profiadau er budd yr ymchwil hon i gysylltu ag Alma Economics yn uniongyrchol er mwyn cofrestru eu diddordeb mewn cymryd rhan. 

Dyma’r manylion cyswllt:

Eleni Kotsira eleni.kotsira@almaeconomics.com

Rwy'n edrych ymlaen at rannu canlyniadau'r ymchwil gyda'r Aelodau yn nes ymlaen yn y flwyddyn.