Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Un o brif bwyntiau ffocws fy Mholisi Adnoddau Naturiol Cymru yw cynyddu effeithlonrwydd adnoddau. Mae ein hadnoddau naturiol yn bwysig i ni i gyd. Mae hyn yr un mor wir heddiw ag ydoedd yn ôl yn 2010 pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth wastraff, Tuag at Ddyfodol Diwastraff. Mae strategaeth wastraff Cymru yn canolbwyntio’n gryf ar reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Gosododd Tuag at Ddyfodol Diwastraff nodau strategol tymor hir Llywodraeth Cymru i leihau gwastraff yng Nghymru 65% erbyn 2050. Gosododd hefyd darged ailgylchu Awdurdodau Lleol, sef 70% erbyn 2025, a gwnaed y targed hwn yn statudol o dan Fesur Gwastraff (Cymru) 2010. Ni yw’r unig weinyddiaeth yn y DU i wneud hyn.

Mae ailgylchu yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant mawr. Mae Cymru, gyda’i chyfradd ailgylchu o 64%, wedi achub y blaen ar wledydd eraill y DU, ac rydym ni o fewn ychydig bwyntiau canran i fod y gorau yn y byd. Rydym ni’n gwneud cynnydd da hefyd o ran cipio deunyddiau i’w hailgylchu o’n haelwydydd, er enghraifft, mae data diweddar a gasglwyd gan Raglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) yn nodi mai cyfradd ailgylchu Cymru ar gyfer poteli plastig o aelwydydd yw 75%, o gymharu â chyfradd ailgylchu o 57% ar gyfer gweddill y DU. Ymrwymiad deiliaid tai o ran ymgysylltu â’r gwasanaethau casglu deunydd ailgylchu cynhwysfawr a ddarperir gan ein Hawdurdodau Lleol sydd i ddiolch am hyn.

Fodd bynnag, fel Llywodraeth, rydym yn derbyn bod angen gwneud mwy i wella ein cyfradd ailgylchu ymhellach ac i fynd i’r afael â sbwriel a’r materion sy’n gysylltiedig â chymdeithas a diwylliant ‘taflu’. Rwy’n cydnabod y ffaith bod sbwriel morol, yn enwedig, yn peri pryder mawr, ac rwy’n cefnogi gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Sbwriel Morol o ran datblygu cyfres o gamau i fynd i’r afael â sbwriel morol yng Nghymru.

Ein prif nod yw atal sbwriel rhag mynd i mewn i’r amgylchedd yn y lle cyntaf. I wneud hyn, rydym yn parhau i ariannu Awdurdodau Lleol a Cadwch Gymru’n Daclus i annog cymunedau ac unigolion i ddangos balchder yn eu hamgylchedd lleol.

Mae angen i ni werthfawrogi’r adnoddau hynny rydym ni’n eu cymryd yn ganiataol yn rhy aml, lleihau’r hyn rydym ni’n ei ddefnyddio ac, os yn bosibl, parhau i ddefnyddio deunyddiau a nwyddau am gyfnod hwy. Rhaid i ni symud oddi wrth y diwylliant taflu sydd wedi dod yn rhy gyfarwydd i ni ac annog ymddygiadau a fydd yn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd.

I ddatblygu’r dull hwn, byddaf yn cyflwyno mesurau ychwanegol i wella effeithlonrwydd adnoddau yng Nghymru. Rwy’n bwriadu gwneud hyn fel rhan o’r gwaith o ddatblygu trywydd ar gyfer economi sy’n defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon, gan adeiladu ar ein llwyddiant o ran ailgylchu a lleihau effeithiau gwaith cynhyrchu a defnyddio ar yr amgylchedd gyda’r nod o symud Cymru yn agosach at economi sy’n meithrin twf economaidd cynaliadwy ac yn creu swyddi yng Nghymru, fel yr amlinellir yn Ffyniant i Bawb.

Fel rhan o’r broses honna, rwyf wedi comisiynu astudiaeth i asesu ymyriadau posibl i gynyddu gweithgarwch atal gwastraff, codi cyfraddau ailgylchu a lleihau sbwriel ar y tir a sbwriel morol. Bydd cynlluniau cyfrifoldeb cynhyrchwyr, megis y cynlluniau sydd ar waith yn y DU ar hyn o bryd, yn cael eu cynnwys yn yr ymchwil. Bydd Cynlluniau Dychwelyd Blaendal yn cael eu cynnwys hefyd. Bydd yr ymchwil hefyd yn asesu effeithiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol posibl cynlluniau ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr (EPR), gan gynnwys unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl. Mae’n hollbwysig i ni sicrhau na fydd penderfyniadau a wneir heddiw yn cael effaith negyddol ar genedlaethau’r dyfodol. Mae hi’n bwysig i ni hefyd ddisgwyl canlyniadau’r astudiaeth yn hytrach nag achub y blaen ar y canlyniad a gwneud ymrwymiadau nad ydynt er lles pennaf pobl Cymru.

Mae Eunomia, ymgynghoriaeth amgylcheddol, wedi ennill y contract yn dilyn proses gystadleuol. Bydd yr astudiaeth, sydd bellach ar waith, yn adrodd yn gynnar flwyddyn nesaf ac rwyf wedi gofyn am i’r ymchwil gynnwys ymgynghoriad cryf â rhanddeiliaid. Bydd yr ymarfer ymgysylltu hwn yn cael ei ystyried ochr yn ochr â chanfyddiadau’r ymchwil pan fyddwn yn ymgynghori ar ein trywydd effeithlonrwydd adnoddau drafft yr haf nesaf.

Mae ein pwerau trethu yn rhan bwysig o’r gwaith o ddatblygu polisi newydd. Mae’r Fframwaith Polisi Trethi a’r Cynllun Gwaith a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cynnwys ymrwymiad i ystyried yr achos dros gyflwyno trethi newydd yng Nghymru, gan archwilio’r elfennau gweinyddol a pholisi a’r mecanwaith ar gyfer newid.

Mae datganoli pwerau trethu yn darparu ystod o gyfleoedd i Lywodraeth Cymru ddatblygu ymagwedd Cymru at drethu, ac mae’n gyfle i adeiladu ar rôl Cymru ym maes ailgylchu a lleihau gwastraff. Yn arbennig, cafodd y syniad o becynnu trethi gefnogaeth gref gan y cyhoedd a rhanddeiliaid yn ystod y drafodaeth ar drethi newydd.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cyhoeddi rhestr fer o drethi newydd posibl ar 3 Hydref, a bydd yn cadarnhau pa un o’r trethi hyn fydd yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth y DU yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Yn y tymor hir, rwyf am sicrhau ein bod ni’n manteisio’n llawn ar y mecanweithiau a’r ysgogiadau polisi sydd ar gael i ni. Hoffwn sicrhau hefyd fod penderfyniadau polisi i’r dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac yn cael eu gwneud er lles ein gwlad hardd, gan wneud Cymru’n lle gwell i bawb.