Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yr wythnos diwethaf (22 Tachwedd) cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), y prif gorff annibynnol sy’n cynhyrchu ystadegau swyddogol yn y DU, ymchwil i raddau’r gwahaniaethau rhwng cyflogau’r sector cyhoeddus a’r sector preifat ar draws rhanbarthau a gwledydd y DU, gan gynnwys Cymru.

Mae tystiolaeth yr ONS yn cyd-fynd â’r hyn a gyflwynodd Llywodraeth Cymru i’r Cyrff Adolygu Cyflogau. Yn benodol, dywed yr ONS nad oes amcangyfrif pendant o’r bwlch cyflogau rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat, ac nad oes yr un dull yn addas ar gyfer amcangyfrif hynny. Mae hyn yn awgrymu bod yr achos dros gyflwyno cyflogau rhanbarthol neu gyflogau sy’n seiliedig ar farchnadoedd lleol yn y sector cyhoeddus yn hynod wallus.  

Mae prif ganfyddiadau eraill adroddiad yr ONS hefyd yn debyg i’r rheini sy’n deillio o’n gwaith ymchwil ni; er enghraifft, mae tystiolaeth yr ONS a thystiolaeth Llywodraeth Cymru yn dangos bod y bwlch rhwng cyflogau’r sector cyhoeddus a’r sector preifat yng Nghymru yn debyg i’r hyn a geir yn y rhan fwyaf o ranbarthau a gwledydd eraill y DU, ac nad oes gwahaniaeth arwyddocaol rhyngddynt.  Mewn geiriau eraill, nid yw Cymru yn 'allanolyn'.

Gwelir eto fod y gwahaniaeth rhwng cyflogau’r sector cyhoeddus a chyflogau’r sector preifat yn fwy yn achos gweithwyr sydd ar gyflogau is. Felly gallai cyflwyno cyflogau rhanbarthol yn y sector cyhoeddus daro’r rheini sydd ar gyflogau is yn galetach. Mae hynny’n rhywbeth a fyddai’n gwbl annerbyniol i Lywodraeth Cymru.

Mae’r ONS hefyd yn cyflwyno amcangyfrifon o’r gwahaniaethau presennol rhwng cyflogau’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, sydd bron yn ddieithriad yn llai o lawer na’r hyn a geir mewn astudiaethau blaenorol, ac yn sicr yn llai na’r rheini a gyflwynwyd yn nhystiolaeth Trysorlys Ei Mawrhydi. Mae hyn, i raddau, yn adlewyrchu’r ffaith fod yr ONS wedi gallu ystyried amrywiaeth ehangach o ffactorau sy’n effeithio ar gyflogau (gan gynnwys maint sefydliadau mewn rhai modelau). Mae’n debygol iawn mai ein safle yn y cylch economaidd sy’n gyfrifol am y ffaith fod unrhyw fwlch rhwng cyflogau’r sector cyhoeddus a’r sector preifat yn cael ei nodi, gan fod cyflogau’r sector preifat wedi bod yn isel iawn ers blynyddoedd lawer. Mae’n amheus felly a fyddai astudiaeth o gyfnod hwy yn darganfod unrhyw fwlch ystyrlon yn y tymor hir.

Nid yw’r ONS yn edrych ar y gwahaniaethau o ran y bwlch rhwng cyflogau dynion a menywod yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Ond awgryma ein tystiolaeth mai rhan o’r rheswm am y bwlch cyflogau cyffredinol rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat yw bod menywod yn derbyn cyflogau cymharol uwch yn y sector cyhoeddus. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos menywod ar gyflogau isel.

O ystyried popeth felly, mae’r ymchwil newydd hon yn cadarnhau ein barn y byddai polisi cyflogau rhanbarthol neu ar sail marchnadoedd lleol yn y sector cyhoeddus nid yn unig yn gamarweiniol, ond hefyd yn annheg. Byddai’n targedu menywod a’r gweithwyr sydd ar y cyflogau isaf, gan waethygu’r bwlch rhwng cyflogau dynion a menywod. Nid yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw esgus am geisio amddiffyn pobl sydd ar gyflogau isel a hybu cydraddoldeb drwy leihau’r bwlch rhwng cyflogau dynion a menywod, yn hytrach na’i gynyddu, ac rwy’n galw ar Lywodraeth y DU i ymwrthod ar unwaith ag unrhyw awgrym ei bod o blaid polisi mor gamarweiniol a diffygiol.

Mae adroddiad yr ONS ar gael ar ei wefan.