Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Mae Rheoliad yr UE ar y Pecyn Llaeth yn gam pwysig ymlaen wrth sicrhau rhagor o dryloywder o fewn y gadwyn gyflenwi llaeth. Mae’n galluogi cynhyrchwyr llaeth i sefydlu Cyrff Cynhyrchwyr Llaeth a cheisio cydnabyddiaeth ar gyfer ymgymryd â gweithgareddau penodol, gan gynnwys gofynion adrodd ynghylch cynhyrchu llaeth. Gwnaeth ein hymgynghoriad diweddar wahodd sylwadau ynghylch sut y dylai Llywodraeth Cymru weithredu Rheoliad Rhif 261/2012 yr UE yng Nghymru a hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd am eu cyfraniadau defnyddiol.
Yn sgil yr ymgynghoriad rwyf wedi derbyn y cynnig y bydd yn rhaid i Gyrff Cynhyrchwyr Llaeth, er mwyn cael eu cydnabod yn gyfreithiol, gynnwys o leiaf 10 o ffermwyr llaeth a bydd yn rhaid i’r ffermwyr o fewn y Cyrff hyn gynhyrchu o leiaf 6 miliwn litr y flwyddyn. Mae’n bleser gennyf gyhoeddi y gall cynhyrchwyr llaeth sydd bellach mewn sefyllfa i ystyried sefydlu Corff Cynhyrchwyr Llaeth fynd ati ar unwaith. Ceir rhagor o fanylion ynghylch Cyrff Cynhyrchwyr Llaeth a chofrestru ar wefan Llywodraeth Cymru.
Roeddwn yn falch iawn o weld cod ymarfer gwirfoddol y diwydiant yn dwyn ffrwyth ac fe’i cyhoeddwyd ar 21 Medi 2012. Teimlai pob un a ymatebodd i’r ymgynghoriad y dylid caniatáu amser i’r cod gwirfoddol hwn weithio ac na ddylai contractau fod yn orfodol ar hyn o bryd. Cytunaf â’r farn hon.
Mae’n rhaid i ni anelu at sicrhau bod pob rhan o’r gadwyn gyflenwi elwa’n rhesymol ar eu cyfraniad. Dylai’r cod gwirfoddol ynghyd â’r gwaith i geisio creu contractau prisiau llaeth sy’n fwy tryloyw helpu i wella’r sefyllfa a rhoi rhagor o rym i’r sawl sy’n trafod prisiau wrth gât y fferm. Bydd gwaith Christine Tacon, Dyfarnwr cyntaf y Cod Cyflenwi Bwydydd, yn dechrau o ddifrif a dylai hyn roi sicrwydd i ffermwyr y bydd yr archfarchnadoedd mawr yn eu trin yn deg ac yn unol â’r gyfraith ynghylch cystadleuaeth.
Rwyf wedi cytuno ei bod yn briodol caniatáu dwy flynedd i’r cod gwirfoddol ennill ei blwyf. Wedi hynny byddaf yn comisiynu adolygiad er mwyn asesu pa mor effeithiol yw’r cod ar gyfer cynhyrchwyr a’r gadwyn gyflenwi gysylltiedig. Eto i gyd, rwy’n cadw’r hawl i gynnal yr adolygiad hwn yn gynharach os daw’n amlwg nad yw’r cod gwirfoddol yn llwyddiannus.
Rwyf hefyd wedi sefydlu Tasglu Llaeth Cymru a fydd yn fy nghynghori a’m cynorthwyo wrth i mi ddatblygu gweledigaeth strategol ar gyfer diwydiant llaeth Cymru. Bydd gan y Tasglu ddyletswyddau lu gan gynnwys swyddogaeth bwysig wrth fonitro hynt y cod gwirfoddol.
Bydd y Tasglu yn ystyried yr heriau y mae’r gadwyn gyflenwi llaeth yn eu hwynebu a bydd yn fy nghynghori ynghylch unrhyw strwythurau neu fesurau y mae angen eu cyflwyno. Bydd cyfnod nesaf y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’r Cynllun Datblygu Gwledig yn llywio’r diwydiant wrth i ni nesáu at 2020. Mae’n hollbwysig ein bod yn mynd ati i gryfhau’r diwydiant yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n rhaid i ni gael ein cydnabod fel cynhyrchwyr llaeth o fri ac fel gwlad sy’n prosesu llaeth ar gyfer cynhyrchion uchel eu gwerth y mae pobl yn awyddus i’w prynu a’u gwerthu o fewn marchnad byd eang.
Nid ydym yn agos at lawer o’n defnyddwyr llaeth ac mae llaeth yn gynnyrch drud i’w gludo. Caiff tua hanner llaeth Cymru ei brosesu yng Nghymru ac mae bron y cyfan yn cael ei droi’n gaws. Caiff llaeth hylifol ei brosesu yn Lloegr a bydd peth llaeth yn dychwelyd i Gymru. Rwy’n awyddus i wybod a ydym yn creu’r cynhyrchion llaeth mwyaf priodol a pha gynhyrchion y byddai modd i ni eu datblygu a’u gwerthu. Roedd y neges a ddeilliodd o Uwchgynhadledd Llaeth y llynedd yn gwbl glir: dylem ganolbwyntio ar ddatblygu ein cynhyrchion llaeth ei hunain yn hytrach na’u mewnforio o’r tu allan i’r DU. Mae’n rhaid i ni roi’r gorau i fewnforio cynhyrchion uchel eu gwerth y gallwn ni eu cynhyrchu.
Mae’n rhaid i ychwanegu gwerth at gynhyrchion sylfaenol fod yn flaenoriaeth fawr i ddiwydiant llaeth Cymru. Mae gennym rai cynhyrchwyr rhagorol ac rwy’n awyddus i adeiladu ar y statws PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) sy’n llwyddiannus iawn ar gyfer cig eidion a chig oen o Gymru. Nid yw enw unrhyw gaws o Gymru wedi’i warchod hyd yma. Mae angen i ni newid y sefyllfa hon er mwyn sicrhau cydnabyddiaeth haeddiannol iddynt.
Rwy’n awyddus i ddatblygu sawl agwedd ar y diwydiant llaeth yng Nghymru ac yn benderfynol o sicrhau y bydd y Cynllun Datblygu Gwledig nesaf yn golygu bod gan ein cynhyrchwyr llaeth y dulliau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt. Mae angen iddynt hwy wella eu gallu i gystadlu ac i greu elw ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod system ar waith sy’n deg i bob rhan o’r gadwyn gyflenwi llaeth. Mae’n rhaid i ddiwydiant llaeth Cymru arloesi a chanolbwyntio ar ei farchnad er mwyn fynnu. Gobeithiaf yn fawr y bydd cynhyrchwyr a phroseswyr yn mynd ati’n frwd ac yn bositif i groesawu’r cod gwirfoddol ar gontractau llaeth.