Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Heddiw rwy'n cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ‘Datganoli Trethi – Ei gwneud yn bosibl cyflwyno newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru’. Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar roi pwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru i sicrhau y gallant wneud newidiadau, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, i “Ddeddfau Trethi Cymru” ar fyr rybudd mewn amrywiol amgylchiadau.
Dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, mewn partneriaeth ag Awdurdod Cyllid Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu’r trethi Cymreig, sy'n adlewyrchu ein hamgylchiadau neilltuol, yn llwyddiannus. Cyflwynwyd dwy dreth ddatganoledig – y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi – a sefydlwyd Awdurdod Cyllid Cymru diolch i raddau helaeth i'r cyfraniadau gwerthfawr gan ystod eang o randdeiliaid a sefydliadau. Hoffwn ddiolch yn awr i'r rhai a roddodd o'u hamser i ymateb i'r ymgynghoriad technegol hwn, ac am y ddealltwriaeth ddefnyddiol barhaus a ddarperir gan arbenigwyr ac ymarferwyr yn y maes trethi a’r gyfraith.
Croesawaf yr ymateb cadarnhaol cyffredinol i egwyddorion y cynnig deddfwriaethol a nodir yn yr ymgynghoriad hwn. Cydnabuwyd yn gyffredinol fod angen gweithdrefn newydd i alluogi Gweinidogion Cymru i ymateb yn amserol i unrhyw newidiadau i bolisi trethi a wneir gan Lywodraeth y DU sy'n effeithio ar ein trethi datganoledig ac sydd, o ganlyniad, yn cael effaith sylweddol ar adnoddau cyffredinol Llywodraeth Cymru.
Nodaf gyda diddordeb farn ymatebwyr ar Fil Cyllid posibl i Gymru yn y dyfodol, a'r gydnabyddiaeth o’r cynnydd sylweddol a fu yng nghyfrifoldebau cyllidol y Senedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roeddwn yn falch, fodd bynnag, fod ymatebwyr yn cydnabod na cheir digon o newid deddfwriaethol ar hyn o bryd, yn ôl pob tebyg, i gyfiawnhau cyflwyno mecanwaith o'r fath. Cytunaf â'r farn y dylid adolygu'r opsiwn hwn yn barhaus a'i fod yn benderfyniad i'w ystyried gan y Senedd nesaf.
Rwy’n gwerthfawrogi ac yn ystyried safbwyntiau yn yr ymgynghoriad hwn ar ddefnyddio pwerau gwneud rheoliadau i wneud mathau penodol o newidiadau, ac y dylid defnyddio'r pwerau hyn yn gynnil, o dan amodau caeth, ac nid ar gyfer newidiadau polisi rheolaidd. Dros y misoedd nesaf, bydd fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar fireinio'r cynnig deddfwriaethol a bydd hyn yn cynnwys ystyried y mesurau diogelu lliniarol a gaiff eu cynnwys. Er enghraifft, cynigir y bydd ‘pŵer 2’ yn galluogi newidiadau i gael eu gwneud mewn amgylchiadau penodol lle mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny. Fodd bynnag, ni fydd Gweinidogion Cymru ond yn gallu defnyddio'r pŵer pan fydd y Senedd yn cytuno bod yr amgylchiadau sy'n arwain at y newid yn golygu ei bod yn angenrheidiol i'r newidiadau ddod i rym ar unwaith neu'n fuan wedi hynny. Bydd ‘pŵer 2’ hefyd yn destun cyfnod craffu hirach gan sicrhau bod y gwaith craffu yn gymesur â natur y newid sy'n cael ei wneud. Gallai hyn, er enghraifft, alluogi'r pwyllgorau perthnasol i gymryd tystiolaeth ac ysgrifennu eu priod adroddiadau, ac i randdeiliaid gyflwyno tystiolaeth fel rhan o'r broses graffu.
Yn olaf, cytunaf â barn unfrydol ymatebwyr fod diogelu trethdalwyr yn allweddol. Gan gydnabod natur dros dro'r newidiadau hyn i gychwyn, mewn sefyllfa lle nad yw'r Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau, Llywodraeth Cymru yn unig ddylai ysgwyddo'r risg. Byddai hyn yn golygu y caiff trethdalwyr sy'n talu mwy o dreth oherwydd bod y rheoliadau a wrthodir mewn grym ar adeg cyflwyno eu datganiadau hawlio ad-daliad.
Rwy’n ymwybodol bod y gwaith hwn yn amserol oherwydd yn awr, yn fwy nag erioed, mae angen inni ddiogelu refeniw sydd ar gael ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Ar hyn o bryd, bob tro y ceir cylch cyllideb y DU, rydym yn wynebu’r risg y gall newid gael ei wneud sy'n effeithio ar drethi datganoledig. Gallai newidiadau o'r fath arwain at oblygiadau i fusnesau a’r farchnad eiddo, a gallent gael effaith gyllidebol uniongyrchol ar adnoddau. Yn wir, mae hyn yn fwy tebygol erbyn hyn wrth i fesurau adfer ddechrau cael eu gweithredu.
Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.