Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, Y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwyf wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad ar Fil drafft Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru).

https://llyw.cymru/bil-addysg-drydyddol-ac-ymchwil-cymru-drafft

Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil fydd y rheoleiddiwr yn y dyfodol ar gyfer sefydliadau addysg uwch a phellach yng Nghymru. Y Comisiwn hefyd fydd y prif gyllidwr ar gyfer addysg drydyddol.

Mae’r Bil drafft yn nodi ein cynigion i greu Comisiwn fydd yn disodli’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) presennol, ac yn rhoi’r adnoddau i ni sicrhau cydberthynas gryf rhwng ddinasyddion, cymunedau, ymchwilwyr a darparwyr.

Bydd y Comisiwn yn gyfrifol am y cynllun prentisiaethau, addysg i oedolion yn y gymuned ac AHO prif ffrwd yn y chweched dosbarth a ddarperir drwy’r awdurdodau lleol, ynghyd ag ymchwil ac arloesi lefel uwch sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Roeddwn wedi gobeithio y byddem wedi cyflwyno'r Bil drwy'r Senedd cyn diwedd tymor y llywodraeth hon. Rwy’n falch ein bod wedi llwyddo, er hynny, i fanteisio ar y cyfle i ymgynghori ymhellach ar y Bil drafft, fel bod y llywodraeth nesaf yn gallu symud ymlaen yn gyflym â’r diwygio hwn sydd mawr ei angen.

Dangosodd yr ymgynghoriad gefnogaeth eang i'r Comisiwn newydd, yn ogystal ag ymatebion sydd wedi ein hysgogi i ystyried ystod o opsiynau polisi a deddfwriaethol.

Mae’r Bil drafft yn rhoi dysgwyr wrth wraidd y diwygiadau ac yn cynnwys darpariaethau penodol i’w hamddiffyn mewn cyfnodau ansicr fel sydd ohoni ar hyn o bryd, ynghyd â chyflwyno gofyniad bod y Comisiwn yn cyhoeddi cod newydd ar gyfer ymgysylltu â dysgwyr wrth lywodraethu a rheoli darparwyr.

Roeddwn yn hynod falch o dderbyn sylwadau cadarnhaol ynghylch parodrwydd rhannau gwahanol o’r sector i gydweithio mewn ymdrech i ddarparu’r cyfleoedd a’r dewisiadau gorau i ddysgwyr, adeiladau ar bartneriaethau presennol ac annog hyd yn oed mwy ohonynt. Rwyf hefyd yn croesawu ymroddiad y rhanddeiliaid i chwarae rhan llawn yn y broses oweithredu, er enghraifft wrth gydnabod yr angen  i gymryd rhan llawn yn natblygiad y Cytundebau Deilliannau er mwyn iddynt fod yn effeithiol.

Roedd yn braf gweld y gefnogaeth i barhad a datblygiad y gwaith ar y Genhadaeth Ddinesig. Rwy’n credu y bydd y diffiniad eang ar flaen y Bil yn rhoi ffocws statudol ar y mater allweddol hwn am gyfnod hir. Roeddwn hefyd yn falch o weld bod y rhan fwyaf o’r ymatebwyr o’r farn y byddai’r Bil drafft yn cael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg, ac roedd cefnogaeth eang i ddyletswyddau arfaethedig y Comisiwn mewn perthynas ag addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg.