Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Ym mis Gorffennaf eleni, comisiynais grŵp gweithredu arbenigol i ystyried y camau y mae angen i ni eu cymryd fel cenedl i greu polisi newydd i gyflawni ein nod o roi diwedd ar ddigartrefedd.
Gofynnais i’r grŵp, sy’n cael ei gadeirio gan Jon Sparkes, Prif Weithredwr Crisis, weithio dros gyfnod o 9 mis gan lunio nifer o adroddiadau. Mae’r adroddiad cyntaf bellach wedi cael ei gyflwyno sy’n canolbwyntio ar y camau sydd angen eu cymryd i fynd i’r afael â chysgu allan y gaeaf hwn a’i atal yn yr hirdymor.
Rwy'n hynod ddiolchgar i'r Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd am yr adroddiad cyntaf hwn. Mae'r grŵp wedi gweithio’n hynod gyflym er mwyn cyflwyno argymhellion sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â chysgu allan. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â hyn am eu gwaith, eu hegni a'u hymroddiad.
Tasg Llywodraeth Cymru nawr yw ymateb i'r adroddiad gyda'r un cyflymder ac egni. O gofio hynny, er bod yr adroddiad yn edrych ar fesurau tymor byr a allai gael effaith wirioneddol ar gysgu allan y gaeaf hwn ac yn trafod mesurau mwy hirdymor i atal cysgu allan, mae fy ymateb yn canolbwyntio, yn y lle cyntaf, ar y pethau hynny y mae’r adroddiad yn argymell ein bod yn eu gwneud ar unwaith. Yna byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach i'r mesurau tymor hwy, ochr yn ochr â'r adroddiadau eraill a fydd yn cael eu cynhyrchu gan y grŵp dros y misoedd nesaf, ac yn ymateb yn unol â hynny.
Mae'r adroddiad, a'r ymatebion gan yr unigolion hynny sydd wedi byw drwy'r profiad, yn dweud na allwn gyflawni'r uchelgais o atal digartrefedd heb fynd i'r afael â'r broblem sylfaenol o gael cyflenwad digonol o dai fforddiadwy. Mae'r llywodraeth yn benderfynol o adeiladu tai cymdeithasol ar raddfa fawr ac yn gyflym. Rydym hefyd yn benderfynol o helpu'r rheini sydd angen cymorth i ganfod cartref fforddiadwy ac addas a'u cefnogi i'w cynnal.
Fodd bynnag, nid yw cyflenwad tai yn ateb tymor byr. Fel y nodais yn ddiweddar yn fy natganiad polisi strategol ar atal digartrefedd, mae arnom angen camau gweithredu sydd nid yn unig yn symud ein hadnoddau a'n hymdrechion at atal y broblem sylfaenol a'n camau ataliol eilaidd, ond hefyd yn mynd i'r afael ag anghenion dwys yr unigolion sy'n wynebu argyfwng ar hyn o bryd. Mae'r unigolion hynny sy'n cysgu allan ymysg y bobl sydd fwyaf agored i niwed, a dyna pam fy mod yn derbyn, ac yn bwriadu gweithredu ar holl argymhellion y Grŵp Gweithredu er mwyn gweld camau'n cael eu cymryd ar unwaith.
Gan gydnabod bod cysgu allan yn broblem drwy Gymru gyfan, rwy'n derbyn yr awgrym yn yr adroddiad, sef y dylem ganolbwyntio ar yr ardaloedd hynny lle mae'r nifer uchaf o bobl yn cysgu allan, ond gan beidio eithrio nac anwybyddu'r anghenion mewn rhannau eraill o Gymru. Rwyf hefyd yn cydnabod bod arferion da ym mhob ardal a bod rhai o'r dulliau gweithredu a geir yn yr adroddiad eisoes yn eu lle; nid ydym yn bwriadu dyblygu na disodli'r rhain, ond, yn hytrach, rydym am gydweithio â phob ardal i ychwanegu at yr arferion da hynny, gwella’r ddarpariaeth bresennol, llenwi unrhyw fylchau a chael effaith hynod gadarnhaol mewn amser byr iawn.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at swyddogaeth allgymorth pendant a'r ffaith bod llety argyfwng addas ar gael, a'r rheini o wahanol fathau i fodloni anghenion gwahanol y bobl sy'n canfod eu hunain ar y strydoedd. Mae'n amlwg bod rhaid i hyn fod wrth wraidd ein hymateb.
Er mwyn ymateb yn syth i'r adroddiad hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn:
- Hwyluso ac yn cyllido hyfforddiant ar y cyd i bawb sydd yn darparu ac yn cefnogi gwasanaethau allgymorth yng Nghymru, ond yn enwedig yn y pedair ardal sydd dan sylw. Bydd yr hyfforddiant hwn yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu gwell dealltwriaeth o ddulliau gweithredu o ran allgymorth pendant. Darperir hyfforddiant yn ôl ardal, yn y pedair ardal sydd dan sylw a darperir hyfforddiant pellach mewn lleoliadau drwy Gymru.
- Cyhoeddi canllawiau clir, sydd wedi'u hysgrifennu gan rai sydd â phrofiad o gyflenwi allgymorth pendant, ar yr hyn sy'n cyfrif fel allgymorth pendant yng ngwir ystyr y gair.
- Cydweithio â'r pedair ardal dan sylw i ddod o hyd i fentoriaid i'r rheini sy'n gwneud gwaith allgymorth. Bydd mentoriaid yn gallu cynnig cymorth ac arweiniad er mwyn helpu i sicrhau bod effaith bwrpasol i bob allgymorth.
- Darparu cyllid, pan fydd angen hynny, er mwyn hwyluso penodiad cydgysylltydd allgymorth a rheolwr achos cysgu allan ym mhob un o'r pedair ardal dan sylw. Gwaith y cydgysylltydd fydd sicrhau bod yr allgymorth a ddarperir gan yr ystod o sefydliadau sy'n gweithio ar draws yr ardaloedd, ar ei fwyaf effeithiol ac wedi'i gydgysylltu'n dda. Gwaith y rheolwr achos fydd gwneud y cysylltiadau angenrheidiol ag asiantaethau eraill er mwyn rhoi cymorth i ddatblygu a gweithredu cynlluniau personol ailgartrefu'n gyflym ar gyfer pob unigolyn sy'n cael cymorth.
- Cefnogi dull gweithredu 'cynhadledd achos' dyddiol ym mhob un o'r pedair ardal dan sylw er mwyn adolygu a bwrw ymlaen â chynlluniau unigol sy'n canolbwyntio ar roi cymorth i unigolion i beidio â pharhau i gysgu allan.
- Hwyluso trafodaeth sy'n ceisio sicrhau ymgysylltiad amlasiantaethol priodol gyda'r cynadleddau achos dyddiol er mwyn sicrhau atgyfeiriad brys at wasanaethau sy'n allweddol symud unigolion oddi ar y stryd.
- Cydweithio â gweithwyr rheng flaen i nodi a mynd i'r afael â rhwystrau sy'n atal pobl rhag cael mynediad at gymorth. Gallai hyn gynnwys egluro sut i gymhwyso deddfwriaeth a pholisi a'r defnydd tebygol o gyllidebau personol er mwyn grymuso gweithwyr y rheng flaen fel y gallant ymateb yn syth i anghenion unigol.
- Nodi darpariaeth frys o fewn y pedair ardal sydd o dan sylw gan sicrhau bod cronfa fach ar gael i sicrhau bod darpariaeth amrywiol o ansawdd addas i fodloni anghenion gwahanol poblogaethau sy'n cysgu allan.
- Dod â darparwyr tai at ei gilydd yn y pedair ardal sydd dan sylw er mwyn dod o hyd i dai dros dro a hirdymor posibl a all helpu i fynd i'r afael ag anghenion ailgartrefu’r rheini sy'n cysgu allan.
- Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i gytuno ar set gyffredin o negeseuon am ddigartrefedd a'i rhannu, a rhoi negeseuon clir i'r cyhoedd am sut i helpu pobl sy'n ddigartref ac sy'n cysgu ar y stryd, gan gynnwys sut i gysylltu â gwasanaethau.
- Gwerthuso'r gwaith a wnaed y gaeaf hwn i nodi beth sydd wedi gweithio'n fwyaf effeithiol ac i sicrhau bod ein cynlluniau hirdymor yn cynnwys arfer da a nodwyd.
Bydd Llywodraeth Cymru’n darparu’r cyllid angenrheidiol i weithredu’r camau hyn.
Rwy'n credu'n gryf y gall y camau hyn, o gael eu gweithredu'n gyson gyda chymorth yr holl bartneriaid, gael effaith wirioneddol ar gysgu ar y stryd y gaeaf hwn. Yn ôl fy ngweledigaeth i yw y gallwn gydweithio ag unigolion i gytuno ar gynlluniau ailgartrefu cyflym a chanfod llwybrau priodol i'w helpu oddi ar y stryd ac i lety hirdymor sefydlog gyda’r cymorth priodol i gynnal eu tai yn y dyfodol.
Er bod llawer o'r camau gweithredu yn ymdrin â'r pedwar ardal ffocws, ni ddylai hyn ac ni fydd yn atal ardaloedd eraill sy'n dymuno mabwysiadu'r dulliau gweithredu a nodir uchod. Os felly, bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â hwy i nodi'r camau gweithredu a'r adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer gwneud hynny.
Rwyf yn cydnabod mai dim ond un o'r mathau mwyaf difrifol o ddigartrefedd yw cysgu ar y stryd. Rwyf hefyd yn cydnabod bod y camau hyn ond yn ymwneud â phum argymhelliad cyntaf y Grŵp Gweithredu. Rwy'n hapus i dderbyn yr argymhellion eraill sydd yn yr adroddiad hwn mewn egwyddor ac yn cydnabod y bydd y camau a nodir yma o reidrwydd yn rhedeg yn gyfochrog â gwaith arall. Byddaf yn ymateb i'r argymhellion eraill sydd yn adroddiad cyntaf y Grŵp Gweithredu maes o law. Edrychaf ymlaen at gael adroddiadau pellach ar eu gwaith parhaus er mwyn sefydlu'r dulliau gweithredu hirdymor sydd eu hangen i atal digartrefedd, a lle na ellir atal digartrefedd i sicrhau bod yr achosion yn brin, am gyfnod byr, ac nad ydynt yn cael eu hailadrodd.