Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ran Llywodraeth Cymru, rwy’n croesawu adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru. Rwy’n cydnabod y gwaith a wnaed gan ei swyddfa, ar ran plant a phobl ifanc y genedl, yn siarad drostynt ac yn gwarchod a hyrwyddo eu hawliau a’u lles.

Rydym wedi a byddwn yn parhau i gydweithio er lles pob un o’n plant a’n pobl ifanc.  Fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i geisio sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru y dechrau gorau posibl mewn bywyd.  Mae’r blynyddoedd cynnar, yn enwedig, yn brif flaenoriaeth ac mae hyn wedi’i bennu o fewn ein Rhaglen Lywodraethu yn ogystal â’n strategaeth cenedlethol ‘Ffyniant i Bawb’.

Cyhoeddodd Comisiynydd Plant Cymru ei Hadroddiad Blynyddol 2016-17 ar 9 Hydref, ac ynddo mae’n adolygu gwaith ei swyddfa yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017.

Mae’r adroddiad yn cynnwys 19 o argymhellion trawsbynciol i Lywodraeth Cymru.  Mae’r ymateb, a gyhoeddwyd heddiw, yn adlewyrchu llais Llywodraeth Cymru ac yn cynnwys ymatebion nifer o Ysgrifenyddion a Gweinidogion y Cabinet.

Bu’r Cynulliad Cenedlaethol yn trafod Adroddiad y Comisiynydd yn ei gyfarfod llawn ar 14 Tachwedd 2017. Rydym wedi ystyried y trafodaethau hynny wrth baratoi ein hymateb. Rydym wedi ymateb i’r 19 o argymhellion yn eu tro; ac yn cyflwyno rhagor o wybodaeth ar y camau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi neu’n bwriadu eu cymryd.

Rwy’n falch ein bod ni fel Llywodraeth wedi gallu derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor neu’n rhannol, holl argymhellion y Comisiynydd Plant namyn un. Credaf fod hyn oherwydd ein bod ni’n parhau i rannu gweledigaeth sy’n rhoi plant wrth galon ein gwaith, yn ogystal â’r nod cyffredin o sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, ar yr amser sydd ei angen, er mwyn eu helpu i gyflawni o’u gorau a byw bywydau iach, hapus a llewyrchus.

Nid ydym wedi derbyn yr argymhelliad ynglŷn â’r cynnig gofal plant. Mae’r cynnig wedi’i gynllunio’n benodol i helpu rhieni i ddychwelyd i’r gwaith trwy gael gwared ar rwystr costau gofal plant ac atal tlodi mewn gwaith, trwy ysgwyddo’r gost bwysig hon. Bydd o leiaf 10 awr yr wythnos o addysg ar gael i bob plentyn 3 a 4 oed o hyd, tan y byddant yn cychwyn addysg llawn amser. Mae’r cynnig gofal plant, fodd bynnag, ymhlith cyfres o bolisïau ehangach sy’n cefnogi rhieni a phlant teuluoedd sydd mewn gwaith a’r rhai hynny nad ydynt yn gweithio.

Mae rôl y Comisiynydd fel llais annibynnol a diduedd dros blant yng Nghymru yn bwysig. Mae cyhoeddi ei hadroddiad blynyddol yn gyfle inni fyfyrio ar ein cyflawniadau hyd yma, a lle gallwn ni wella.  Yn ei hadroddiad, mae’r Comisiynydd wedi pwysleisio rhai o’r meysydd lle bu cynnydd sylweddol trwy gydweithredu, gan gynnwys bwrw ymlaen â Breuddwydion Cudd, gwasanaeth eirioli annibynnol i blant a phobl ifanc, a chynigion i ddileu’r amddiffyniad o gosb resymol.

Er, fel Llywodraeth, na allwn gytuno â’r Comisiynydd Plant ar bob mater sydd dan sylw, rwy’n credu bod gennym lawer o syniadau tebyg, ac awydd i wneud ein gorau glas i blant a phobl ifanc yng Nghymru.


http://llyw.cymru/topics/people-and-communities/people/children-and-young-people/rights/commissioner/?lang=cy&ghdfjksa