Julie Morgan AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar ran Llywodraeth Cymru, rwy'n croesawu'r Adroddiad Blynyddol gan Gomisiynydd Plant Cymru. Rydym yn cydnabod pa mor eang a phwysig yw'r gwaith y mae'r Comisiynydd yn parhau i'w wneud ar ran ein plant a'n pobl ifanc. Mae'r Comisiynydd yn gweithredu fel hyrwyddwr annibynnol dros hawliau a llesiant plant, sy'n lleisio eu barn ac yn sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed. Mae tanlinellu gwaith y Comisiynydd yn arbennig o bwysig eleni, sy'n nodi 30 mlynedd ers cyhoeddi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP).
Fel llywodraeth, rydym yn falch o'n hanes o hyrwyddo hawliau plant a gweithio i sicrhau bod pob un o'n plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad parhaol i godi ymwybyddiaeth ac ymgorffori hawliau plant mewn polisïau ac arferion yng Nghymru. Mae ein hymrwymiad i hawliau plant wedi cael ei ategu gan waith amrywiol a wneir ar gyfranogiad plant o dan Erthygl 12 o CCUHP, sy'n sicrhau yr ymgynghorir â phlant a phobl ifanc a'u bod yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
Mae cyfranogiad plant a phobl ifanc yn parhau i fod yn allweddol wrth inni ddatblygu a darparu ein deddfwriaeth, ein polisïau a'n rhaglenni. Mae'r gwaith diweddar i gynyddu cyfranogiad yn cynnwys cynnydd tuag at ostwng yr oedran pleidleisio yng Nghymru i 16 oed, sefydlu Senedd Ieuenctid ac ymgynghori'n ffurfiol â phlant a phobl ifanc ynghylch Brexit – Cymru yw'r unig wlad sydd wedi ymgynghori â phlant a phobl ifanc ar y mater hwn o hyd.
Cyhoeddodd Comisiynydd Plant Cymru ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2018-19 ar 4 Hydref 2019. Mae'r adroddiad yn nodi'r gwaith a wnaed gan ei swyddfa rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019. Yn ei hadroddiad, mae'r Comisiynydd wedi cydnabod y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru wrth ddeddfu i ddiddymu cosb resymol. Mae'r Bil hwn yn mynd â'n hymrwymiad i amddiffyn hawliau plant gam ymhellach ac, os caiff ei basio, bydd yn helpu i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru.
Mae Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd yn cynnwys 14 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae'r ddogfen a gyhoeddir heddiw yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru i bob argymhelliad, ochr yn ochr â gwybodaeth am y camau rydym eisoes wedi eu cymryd neu rydym yn bwriadu eu cymryd.
Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cael cyfle i drafod Adroddiad y Comisiynydd yn y cyfarfod llawn ar 10 Rhagfyr 2019 ac rwy'n croesawu ei ystyriaeth o'r adroddiad hwn yn fawr. Fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i gydweithio â'r Comisiynydd ac eraill er budd plant a phobl ifanc drwy sicrhau bod eu hawliau a'u llesiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud.