Hannah Blythyn AC, Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol
Yn haeddiannol ddigon, mae Cymru’n enwog am harddwch ei thirweddau. Mae ein cefn gwlad a’n harfordiroedd ysblennydd yn amgylchedd delfrydol ar gyfer gweithgareddau hamdden awyr agored.
Er gwaethaf hyn, rydym yn awr mewn sefyllfa pan mae chwech o bob deg oedolyn ac un o bob pedwar o’n plant o oed dosbarth derbyn yn rhy drwm neu’n ordew. Hefyd, bydd un o bob pedwar yng Nghymru’n dioddef o salwch neu broblemau iechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod eu hoes. Rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i leihau hyn, ac mae’n bwysig inni elwa’n llwyr ar y manteision ehangach a ddaw o du ein hamgylchedd. Mae ein Polisi Adnoddau Naturiol yn dangos y gall atebion sy’n seiliedig ar natur roi hwb i iechyd corfforol a meddyliol. Dyna pam yr ydym wedi ymrwymo fel Llywodraeth i alluogi mwy o bobl i fwynhau ein cefn gwlad yn rhwyddach – a gwneud yn fawr o’r manteision niferus o ran iechyd a llesiant a all ddeillio o fynd allan i’r awyr agored.
Mae cefn gwlad hygyrch yn ategu ein hymdrechion i hybu Cymru fel cyrchfan i dwristiaid a phot mêl i gerddwyr, beicwyr a phobl sy’n chwilio am gyffro. Gyda’r holl ansicrwydd a ddaw yn sgil Brexit, rhaid inni barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i annog ymwelwyr i ddod i Gymru. Mae llwyddiant Llwybr Arfordir Cymru’n dangos yn glir sut y gall hamdden awyr agored helpu i gynnal yr economi, gwella iechyd a meithrin ymdeimlad o falchder cenedlaethol. Rwyf eisiau cynorthwyo ardaloedd gwledig i gael cymaint o refeniw â phosib o dwristiaeth; ond mae cadw’r cydbwysedd iawn yn flaenoriaeth i ni. Ceir cysylltiad clir rhwng gwella mynediad i’r awyr agored ac egwyddor polisi rheoli tir Cymru, sef y dylai ein tir ddarparu nwyddau cyhoeddus i holl drigolion Cymru.
Ar 19 Mehefin 2018 cafodd Crynodeb o’r Ymatebion i ymgynghoriad Bwrw Ymlaen â Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy ei gyhoeddi. Rwy’n ddiolchgar i’r miloedd o sefydliadau ac unigolion a ymatebodd. Derbyniwyd mwy nag 16,000 o ymatebion i’r cynigion ar gyfer mynediad yn unig, ac mae hyn yn arwydd o’r angerdd sydd gan nifer ohonom yng Nghymru tuag at gefn gwlad a hamdden awyr agored.
Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi ymateb y Llywodraeth i’r cynigion mynediad a amlinellwyd ym mhennod 4 yr Ymgynghoriad ar Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. Mae’r mesurau hyn yn dangos ein hymrwymiad i ddiwygio mynediad a darparu ffordd deg a blaengar o symud ymlaen.
Byddaf yn bwrw ymlaen â newidiadau sylweddol i hawliau mynediad ac yn hyrwyddo rhagdybiaeth o aml-ddefnydd heb foduron ar dir mynediad a’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus. Bydd hyn yn rhoi llawer mwy o gyfleoedd i ddefnyddwyr fel beicwyr a marchogwyr gael mynediad i’r awyr agored ger eu cartref, yn unol â’r nodau a bennwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a bydd yn ategu darpariaethau Deddf Teithio Llesol (Cymru) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru).
Byddaf yn sicrhau bod gwybodaeth am ardaloedd lle y gall y cyhoedd wneud gweithgareddau hamdden awyr agored ar gael yn fwy hygyrch er mwyn cefnogi ymrwymiad Symud Cymru Ymlaen i ‘fynd yn ddigidol o ran ein darpariaeth o wasanaethau llywodraethol’. Bydd hyn o fudd i bobl leol trwy ddangos beth sydd ar gael ar garreg eu drws, yn ogystal ag i dwristiaid sy’n ystyried ble i fynd a beth i’w wneud.
Ceir rhai mân ddiwygiadau technegol – nid ydynt yn ddadleuol ac mae cefnogaeth eang iddynt. Bydd y diwygiadau hyn yn lleihau’r cymhlethdod i ddefnyddwyr a rheolwyr llwybrau ac yn arwain at arbedion ariannol i awdurdodau lleol a thirfeddianwyr. Gellir bwrw ymlaen â’r rhain cyn gynted ag y caiff cyfrwng deddfwriaethol addas ei bennu. Maent yn cynnwys:
Cynnig Mynediad |
|
12 |
Cael gwared â’r anghysondeb sy’n atal digwyddiadau beicio wedi’u trefnu rhag cael eu cynnal ar lwybrau ceffylau |
18 |
Gorfodi’r arfer o gadw cŵn ar dennyn byr o hyd penodol yng nghyffiniau da byw unrhyw adeg o’r flwyddyn |
20 |
Diwygio darpariaethau technegol mewn perthynas â chreu, dargyfeirio a dileu hawliau tramwy |
21 |
Caniatáu mwy o hyblygrwydd mewn perthynas â mesurau rheoli stoc |
22 |
Diwygio’r gofyniad i gynnal adolygiad o fapiau mynediad bob deng mlynedd a rhoi proses o adolygu parhaus ar waith |
25 |
Diddymu rhai rhannau costus ac aneffeithlon o’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy |
27 |
Rôl Fforymau Mynediad Lleol. |
Mae dau gynnig penodol yn yr ymgynghoriad yn ymwneud â hyrwyddo ymddygiad cyfrifol ymhlith defnyddwyr cefn gwlad, gyda chod statudol a chafeat statudol arfaethedig. Hyd nes i ni archwilio sut beth fydd y mynediad newydd, ein bwriad yw adolygu’r rhain, ond gyda golwg ar ddatblygu codau gwirfoddol yn y dyfodol. Eisoes mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddyletswydd i lunio codau cefn gwlad a hyrwyddo ymddygiad cyfrifol, a rhaid i’n partneriaid, fel Awdurdodau Parciau Cenedlaethol barhau i hyrwyddo’r codau hyn ac ymddygiad cyfrifol yn fwy eang. Cydnabyddwn fod mwyafrif llethol y bobl sy’n mynd i gefn gwlad yn ddefnyddwyr cyfrifol.
Natur gymhleth y ddeddfwriaeth bresennol oedd un sbardun pwysig dros ddiwygio. Mae’r ymgynghoriad ar Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, gyda’r ymateb brwd a gafwyd iddo ymhlith y cyhoedd a rhanddeiliaid, wedi dechrau ar y daith i ddatblygu atebion ymarferol i ymdrin â’r materion hyn. Er mwyn datblygu’r syniadau hyn ymhellach, mae’n synhwyrol yn awr sefydlu Grŵp Diwygio Mynediad annibynnol. Wrth greu’r Grŵp hwn, byddaf yn y sefyllfa gryfaf i gymryd camau priodol a doeth. Byddaf yn gofyn i’r Grŵp ystyried yn fanwl sut y dylid rhoi’r newidiadau mwy sylweddol i hawliau mynediad ar waith a sut i symleiddio’r dasg o gofnodi, cynllunio a newid mynediad cyhoeddus. Byddaf yn rhoi’r diweddaraf i randdeiliaid am waith y grŵp wrth iddo fynd yn ei flaen.
Bydd cylch gwaith y grŵp yn cynnwys:
Cynnig Mynediad |
|
10 |
Llwybrau aml-ddefnydd (gan ganiatáu beicio a marchogaeth ar lwybrau troed) |
11 |
Lleihau’r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â thir mynediad agored
Byddwn yn codi’r cyfyngiadau ar feicio a marchogaeth, barcuta a pharagleidio, ymdrochi, neu ddefnyddio cwch neu hwylfwrdd ar gyrff dŵr naturiol. Byddwn yn cadw’r cyfyngiadau ar gyrff dŵr artiffisial, gemau wedi’u trefnu a gwersylla. |
13 |
Ymestyn tir mynediad i’r arfordir a chlogwyni |
17 |
Galluogi gwyriadau a gwaharddiadau dros dro ar draws tir mynediad |
19 |
Yr achos dros gael un map digidol statudol o’r holl hawliau tramwy, yr holl dir mynediad cyhoeddus a’r holl Lwybrau Cenedlaethol dynodedig |
23 |
Cynlluniau mynediad integredig |
24 |
Creu math newydd o hawl dramwy gyhoeddus, llwybrau beicio |
Mae mynediad i ddyfroedd mewndirol wedi bod yn bwnc llosg ers tro, gyda mwy a mwy o adroddiadau am densiwn ac, mewn ambell achos, gelyniaeth agored rhwng gwahanol ddefnyddwyr. Ar hyn o bryd ni cheir deddfwriaeth o unrhyw fath, na phrin unrhyw gyfraith gyffredin, yn ymwneud â’r math hwn o fynediad. Ers 2009, mae Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo cytundebau mynediad gwirfoddol ac wedi cefnogi’r defnydd o gytundebau mynediad a chyfleoedd eraill ar ddyfroedd mewndirol trwy gynllun cyllido Sblash. Fodd bynnag, mae’r gwrthdaro rhwng grwpiau defnyddwyr gwahanol yn parhau, ac ychydig yn unig o gytundebau mynediad gwirfoddol sydd ar waith.
Nod ein cynigion ynghylch mynediad i ddŵr yn yr ymgynghoriad ar Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy oedd datrys yr anghytundeb a’r gwrthdaro. Llwyddodd yr ymgynghoriad i ddenu’r daliadau cwbl wrthgyferbyniol sydd wedi rhwystro pob ymdrech hyd yn hyn i leihau’r gwrthdaro rhwng y defnyddwyr. Mae’n eithriadol o siomedig nad yw’r partïon yn barod i gynnig unrhyw gyfaddawd. Mae’n amlwg, felly, na fydd cyflwyno cynigion ar gyfer mynediad i ddŵr ar eu pen eu hunain yn datrys y sefyllfa bresennol. Yn awr, mae’n amser inni ehangu’r drafodaeth a gofyn beth y mae Cymru ei eisiau gan ei dyfroedd mewndirol a’r rôl sydd gan hawliau mynediad o ran cyflawni hyn.
Ymhellach, byddaf yn gofyn i’r Fforwm Mynediad Cenedlaethol roi blaenoriaeth arbennig yn 2019 i osod y sylfaen ar gyfer cael gwell deialog am faterion yn ymwneud â dyfroedd mewndirol. Rwy’n annog rhanddeiliaid yn gryf i ddod o hyd i ateb ymarferol ar y cyd. Nid wyf wedi diystyru cyflwyno deddfwriaeth ar fynediad yn y dyfodol, yn enwedig os na fyddaf yn fodlon fod cynnydd rhesymol wedi ei wneud o fewn 18 mis.
Bydd y dull yr wyf wedi’i amlinellu’n helpu i sicrhau dyfodol disgleiriach i fynediad yng Nghymru, er mwyn i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol allu parhau i fwynhau ymweld â thirweddau trawiadol Cymru. Rwyf wedi ymrwymo i wella cyfleoedd i’r cyhoedd gael mynediad i’r awyr agored at ddibenion hamdden, gan leihau’r baich ar awdurdodau lleol a thirfeddianwyr a diogelu’r amgylchedd naturiol, nodweddion o bwysigrwydd diwylliannol ac arferion rheoli tir a dŵr.