Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Ym mis Mehefin y llynedd, sefydlais Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardal Twf Lleol Dyffryn Teifi i archwilio sut y gellid defnyddio’r model ardal twf lleol a oedd yn cael ei roi ar waith ym Mhowys yn Nyffryn Teifi. Rwy’n falch o fod yn ymateb yn gadarnhaol i’r adroddiad ac i gyhoeddi fy mod i wedi cytuno i sefydlu Ardal Twf Lleol yn Nyffryn Teifi.
Gofynnais i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ystyried sut i annog a chefnogi swyddi, ysgogi twf economaidd a phrofi gwahanol fathau o ymyriadau a oedd yn ystyriol o amgylchiadau economaidd a heriau twf lleol y Dyffryn, a’r defnydd amlwg o’r Gymraeg.
Cyflwynodd y Grŵp, a gadeiriwyd gan Delyth Humfryes MBE, Cadeirydd Undeb Credyd Gorllewin Cymru, ei adroddiad i mi ym mis Rhagfyr 2013 ynghyd â dogfen ategol yn nodi’r dystiolaeth helaeth a gasglwyd gan y Grŵp. Cyhoeddais Adroddiad y Grŵp a’r ddogfen tystiolaeth ategol ar wefan Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni a gwahoddais sylwadau ar y 26 Argymhelliad a wnaed gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen.
Archwiliais argymhellion y Grŵp gyda Chadeirydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, gyda chyd-Weinidogion a chydag eraill. Roedd rhai o’r argymhellion i gynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro eu datblygu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud yr hyn a all i wella’r amgylchedd cystadleuol i fusnesau ledled Cymru a bydd gan Ardal Twf Lleol Dyffryn Teifi swyddogaeth bwysig i’w chyflawni. Bydd ein hymateb i’r adroddiad hwn yn helpu i greu ysgogiad lleol i gefnogi busnesau yn well ac i annog swyddi a thwf y gellir eu datblygu mewn mannau eraill yn y dyfodol.
Hoffwn ddiolch i Delyth Humfryes, MBE, ac aelodau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen am baratoi adroddiad mor drylwyr, a roddodd lawer i ni ei ystyried ac sydd wedi derbyn cefnogaeth eang o bob cwr.
Mae gwaith ar y gweill erbyn hyn i sefydlu’r strwythur Llywodraethu priodol ar gyfer yr Ardal Twf Lleol a byddaf yn darparu diweddariadau pellach wrth i’r gwaith hwn ddatblygu.