Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 14 Gorffennaf 2015, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru adolygiad annibynnol Dr Margaret Flynn - "Chwilio am atebolrwydd: adolygiad o esgeuluso pobl hŷn a oedd yn byw mewn cartrefi gofal a ymchwiliwyd fel Ymgyrch Jasmine”

Ym mis Medi, gofynnais i bob un o'r byrddau diogelu oedolion newydd yng Nghymru ystyried yr adolygiad a chyflwyno ei ganfyddiadau ar ffurf ymateb ysgrifenedig. Dywedais y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion hyn yn llawn ar wefan Llywodraeth Cymru ochr yn ochr ag ymatebion eraill a gafwyd mewn cysylltiad ag Adolygiad Dr Flynn.

Mater i'r byrddau diogelu oedolion oedd penderfynu ar ba ffurf y byddent yn ymateb, ond gofynnais iddynt roi sylw i'r gwersi allweddol a ddysgwyd o'r adolygiad a'r camau y bydd y bwrdd yn eu cymryd o ganlyniad.

I gefnogi'r cais hwn, cytunais i gyllido cyfres o weithdai ledled Cymru, a oedd yn dwyn ynghyd ymarferwyr, rheolwyr a phobl o bob sector. Trefnodd Llywodraeth Cymru fod Dr Flynn ac aelodau o'r teuluoedd yn cymryd rhan ym mhob un o'r gweithdai hefyd.

Rwyf yn ddiolchgar i gadeiryddion ac aelodau'r byrddau diogelu am y gwaith sylweddol a wnaed ar gyfer yr ymarferiad hwn, ac i'r 600 o unigolion a fynychodd y gweithdai ledled Cymru.

Mae ymatebion pob un o'r byrddau diogelu oedolion wedi dod i law bellach. Maent ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.