Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddwyd Adolygiad Annibynnol Dr Mike Shooter o Rôl a Swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru ar 10 Rhagfyr 2015 ac roedd yn gwneud nifer o argymhellion.

Yn dilyn fy natganiad ar 15 Gorffennaf 2015, ac ar ôl ymgysylltu â'r Comisiynydd Plant, mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein hymateb terfynol i'r argymhellion a wnaed ar gyfer Llywodraeth Cymru.  Oherwydd hyd a lled yr adolygiad a'i gasgliadau, rydym wedi cymryd gofal mawr i sicrhau bod pob argymhelliad wedi cael ei ystyried yn ofalus. Mae sawl trafodaeth wedi'i chynnal rhwng Gweinidogion a chyda'r Comisiynydd ac rwy'n hapus â'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn.  

Ar ran Llywodraeth Cymru, hoffwn ddiolch i'r Comisiynydd am y ffordd gadarnhaol y mae hi wedi ymateb i'r lliaws argymhellion a wnaed ar ei chyfer hi a'i swyddfa.  Rwy'n falch ei bod wedi gweld yr argymhellion yn ddefnyddiol yn ystod ei blwyddyn gyntaf fel Comisiynydd.

Roedd argymhellion hefyd ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac rwyf wedi ysgrifennu at y Llywydd i dynnu ei sylw atynt.  

Bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi'r cyntaf o'i Chynlluniau Gwaith tair blynedd cyn bo hir, sydd wedi ei lywio gan sylwadau plant a phobl ifanc.