Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Gomisiwn y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr gynnal adolygiad manwl o gyfraith cynllunio yng Nghymru, er mwyn iddo argymell ffyrdd y gellid symleiddio a chydgrynhoi'r ddeddfwriaeth.
Ym mis Mai 2019, cyhoeddais ymateb interim gan y Llywodraeth i'w Adroddiad Cyfraith Cynllunio yng Nghymru. Roedd yr ymateb hwnnw yn canolbwyntio ar Ran 1 o'r Adroddiad a oedd yn ymdrin â barn Comisiwn y Gyfraith ynglŷn â'r angen i symleiddio a chydgrynhoi cyfraith cynllunio, yr achos dros god cynllunio a chwmpas yr ymarferion cydgrynhoi cychwynnol, y gellir ei ddarllen yn: Ymateb dros dro i adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar y Gyfraith Gynllunio yng Nghymru.
Heddiw, rwy'n falch o fod wedi rhoi a chyhoeddi ymateb manwl Llywodraeth Cymru. Mae'r ymateb hwn yn canolbwyntio ar Ran 2 o'r Adroddiad, gan nodi safbwynt y Llywodraeth ar bob un o'r 192 o argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith ar gyfer symleiddio a chydgrynhoi'r ddeddfwriaeth ynglŷn â phob agwedd ar y system gynllunio.
Gallwch weld yr ymateb manwl yn: Ymateb manwl i adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar gyfraith cynllunio yng Nghymru.
Ar ôl ystyried yr argymhellion yn ofalus, rwyf wedi derbyn y mwyafrif ohonynt. Credaf y byddant yn arwain at welliannau i fynd i'r afael â hygyrchedd a chymhlethdod y fframwaith deddfwriaethol presennol sy'n sail i'r system gynllunio, a'r anawsterau sy'n deillio o hynny a all rwystro'r system ar gyfer pob rhanddeiliad, fel y'u nodir yn yr Adroddiad ac y'u cydnabyddir gan y Llywodraeth. Ar gyfer yr argymhellion hynny rwyf wedi'u derbyn mewn egwyddor, er fy mod yn cytuno, ar y cyfan, â nodau'r argymhellion, credaf y bydd angen iddynt gael eu datblygu a'u hystyried ymhellach gan swyddogion yn ystod y gwaith o ddrafftio darpariaethau statudol newydd.
Am fod y mwyafrif o'r argymhellion y byddwn yn gweithredu arnynt yn gyfystyr â mân ddiwygiad technegol i hwyluso'r gwaith o gydgrynhoi a symleiddio'r gyfraith, rhagwelir mai Bil Cydgrynhoi Cynllunio fydd y prif ddull cyflawni ar eu cyfer. Fodd bynnag, y ffurf derfynol ar Reol Sefydlog addas ar gyfer Biliau Cydgrynhoi, sydd wrthi'n cael ei hystyried gan Bwyllgor Busnes Senedd Cymru ar hyn o bryd, fydd yn pennu, yn y pen draw, i ba raddau y gellir gweithredu ar yr argymhellion drwy ymarfer cydgrynhoi.
Mae'n glir bod yr adolygiad a gynhaliwyd gan Gomisiwn y Gyfraith yn darparu sail dystiolaeth fanwl a chadarn i hwyluso'r gwaith o gydgrynhoi a symleiddio cyfraith cynllunio. Ar y sail hon, ac fel y nodir yn natganiad deddfwriaethol y Prif Weinidog ar 15 Gorffennaf 2020, mae'r Cwnsler Cyffredinol a minnau wedi cynghori swyddogion i barhau â'r gwaith o baratoi a drafftio'r Bil Cydgrynhoi Cynllunio, o gofio'r manteision sylweddol y bydd yn eu sicrhau i bob rhanddeiliad a'r angen brys amdano a ddangoswyd gan yr Adroddiad. Bydd hefyd yn ei gwneud yn bosibl i'r Bil ffurfio rhan bwysig o'r rhaglen ffurfiol i wella hygyrchedd cyfraith Cymru sy'n ofynnol gan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, a fydd yn fater i'r Llywodraeth yn ystod tymor nesaf y Senedd.
Ar ran Llywodraeth Cymru, hoffwn ddiolch i Gomisiwn y Gyfraith am y gwaith pwysig a wnaed ganddo a'i gydweithrediad â'r holl randdeiliaid sydd wedi cyfrannu at lwyddiant yr adolygiad hwn o gyfraith cynllunio yng Nghymru. Rwyf hefyd yn falch y bydd yn parhau i weithio gyda ni wrth i'r Bil gael ei baratoi er mwyn inni allu parhau i fanteisio ar ei wybodaeth a'i arbenigedd yn y maes cyfreithiol hwn.