Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf i wedi bod yn diweddaru’r Aelodau ar gynnydd yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol ac mae heddiw’n garreg filltir bwysig gyda chyhoeddi ymateb Llywodraeth y DU i’r Adolygiad a gomisiynwyd yn gynnar yn 2010. Roedd adroddiad terfynol y Panel Adolygu a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2011 yn gosod set eang o argymhellion ynglŷn â sut i adolygu’r system cyfiawnder teuluol. Mae hwn yn faes hynod o gymhleth sy’n croesi ar draws materion sydd wedi’u datganoli a rhai nad ydynt wedi’u datganoli, gan gynnwys cyfraith gyhoeddus a phreifat. Hoffwn ddiolch i’r Panel am eu sylw craff a’u diwydrwydd wrth ymgymryd ag adolygiad mor gynhwysfawr o’r system gymhleth hon, yn ogystal â diolch i bawb a gyfrannodd i’r gwaith ac a ymatebodd yn ystod y broses ymgynghori. Yn benodol hoffwn dalu teyrnged i Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, oedd yn aelod hanfodol o’r Panel Adolygu yn hyrwyddo llais a hawliau plant yng Nghymru.

Rwyf bob amser wedi mynnu mai lles a budd gorau’r plentyn sydd yn dod gyntaf ac rwy’n ymrwymedig i weithredu’r rhannau hynny o’r ymateb sydd wedi’u datganoli i Gymru, yn seiliedig ar ein hegwyddorion ac yng ngoleuni anghenion plant yng Nghymru. Yn benodol, rwy’n disgwyl mai hawliau a lleisiau plant sydd wrth galon y broses. Byddaf yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y System Gyfiawnder Teuluol gyfan er mwyn sicrhau y ceir dulliau cadarn i sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu cynrychioli’n iawn.

Mae gwella diogelu a lles plant a phobl ifanc, yn enwedig gwella cyfleoedd bywyd i blant sy’n derbyn gofal, yn ganolog i’n Rhaglen Lywodraethu a’r fframwaith ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru. Mae hyn yn seiliedig ar bwrpas cenedlaethol cryf a chyfrifoldeb clir i gyflawni, gyda gweithlu proffesiynol cymwys a hyderus yn sail iddo.

Mae’r system cyfiawnder teuluol yn gwneud penderfyniadau sy’n newid bywydau ac sy’n effeithiol ar filoedd o blant a theuluoedd bob blwyddyn, ond fel y mae’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol wedi dangos, mae’n system nad yw’n gweithio gystal ag y dylai ac mae dan straen sy’n cynyddu fwyfwy. Rwy’n falch felly fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod yr elfennau datganoledig allweddol yn cael eu hadlewyrchu yn ymateb cadarnhaol Llywodraeth y DU. dylanwadu ar y broses yn gadarnhaol a’i bod yn gallu ymateb mor gadarnhaol i’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol.  Rwyf wedi trefnu bod yr Aelodau’n cael dolen at yr ymateb, a byddwn yn eich annog chi i’w ystyried. Yn y cyfamser mae rhai meysydd allweddol yr hoffwn dynnu eich sylw atynt sy’n arbennig o berthnasol i Lywodraeth Cymru ac asiantaethau yng Nghymru sy’n symud y cynlluniau uchelgeisiol i wella’r system cyfiawnder teuluol yn eu blaen.

Rwy’n croesawu’r ffaith fod yr Adolygiad wedi cydnabod manteision cadw’r ddarpariaeth cyngor gwaith cymdeithasol annibynnol arbenigol a roddir i’r llysoedd gan Cafcass Cymru, drwy Weinidogion Cymru.  Mae Cafcass Cymru yn rhan bwysig o’r system cyfiawnder teuluol a phob blwyddyn mae’n gweithio gyda thros 8000 o blant a’u teuluoedd ar draws Cymru. Ers arolygiad AGGCC o’r sefydliad yn 2010 a roddodd asesiad boddhaol o’i effeithiolrwydd cyffredinol, mae gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud ac rwy’n hyderus y byddwn drwy Cafcass Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i’r llysoedd wrth ddatblygu’r cynllun strategol uchelgeisiol a lansiwyd gennym ddechrau’r flwyddyn.

Mae’r hinsawdd economaidd-gymdeithasol gyfredol yn cael effaith ar deuluoedd yn ein cymunedau lleol a cheir pwysau cynyddol yn y system ‘sy’n derbyn gofal’ sydd wedi gweld cynnydd o 15% dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn yn gosod pwysau pellach ar y system cyfiawnder teuluol, ac felly bydd y diwygiadau a gynigir i gyfraith gyhoeddus yn helpu i leihau’r oedi annerbyniol a galluogi gwell trefn ar gyfer rheoli achosion a chynllunio gofal. Mae’n annerbyniol fod prosesau a gynlluniwyd i amddiffyn rhai o’n plant mwyaf bregus o bosibl yn ychwanegu at y trafferthion y maent yn eu hwynebu.

Bydd cael gweithlu cryf a hyderus yng Nghymru yn allweddol i gefnogi’r gwaith o ddiwygio’r system cyfiawnder teuluol ac yn helpu i yrru’r newidiadau i’r diwylliant a systemau yng Nghymru. Bydd ein hagenda Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy ar gyfer proffesiynoli ein Gweithlu’n cynnwys llwybr gyrfa newydd i weithwyr cymdeithasol ac yn adeiladu ar ein rhaglen hyfforddi genedlaethol i wella sgiliau asesu a rheoli achos y gweithwyr cymdeithasol.

Yn sail i’r agenda hon mae ein hymgyrch i leihau rhai o’r cymhlethdodau o ran arferion gwasanaethau cymdeithasol craidd, gan gynnwys cyflwyno ein Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol a chyflawni ein rhaglen ddeddfwriaethol. Gyda’i gilydd, bydd y rhain yn gwella arferion awdurdodau lleol ymhellach ac yn cryfhau trefniadau achosion cyn mynd i’r llys.

Fel fi, mae’r Aelodau hefyd wedi bod yn bryderus am natur wrthwynebol achosion cyfraith breifat. Rwyf felly’n croesawu cynigion fydd yn cynorthwyo rhieni sy’n gwahanu i weithio gyda’i gilydd i wneud trefniadau ar gyfer bywydau eu plant, gan leihau’r angen i fynd ag achosion o’r fath drwy’r llysoedd, a chanolbwyntio’n glir ar anghenion eu plant. Rwy’n gwbl gefnogol i gynlluniau i’w gwneud yn orfodol i ystyried gwasanaeth cyfryngu ac rydym ni mewn safle da yng Nghymru drwy ein hagenda Hawliau Plant a’n pwyslais ar hawliau a rheolaeth y dinesydd, i gynorthwyo hyn, a fydd yn amlwg er budd y plentyn, gan roi rhagor o lais a rheolaeth i blant a theuluoedd.

Bydd unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth ddatganoledig yn cael eu dwyn ymlaen ar y cyfle cyntaf yng nghyd-destun rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’n cynlluniau blaengar drwy ein Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol i symleiddio trefniadau’n ymwneud â mabwysiadu drwy osod dyletswydd ar y 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ddod at ei gilydd a sefydlu un asiantaeth mabwysiadu. Mae hyn yn ategu cynlluniau Llywodraeth y DU i symleiddio’r broses fabwysiadu a rôl paneli mabwysiadu.

Er bod y Panel Adolygu wedi gwrthod unrhyw ddarpariaeth ddeddfwriaethol i gefnogi rhianta ar y cyd, rwyf i’n nodi cynnig Llywodraeth y DU i ddatblygu datganiad deddfwriaethol yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i blant gael perthynas barhaus gyda’r ddau riant ar ôl gwahanu, lle bo’n ddiogel ac er budd y plentyn. Mae hwn yn faes nad yw wedi’i ddatganoli y byddaf yn parhau i gyfrannu ato a dylanwadu ar ei ddatblygiad i sicrhau bod hawliau’r plentyn yn parhau’n flaenoriaeth.

Bydd yr her enfawr o fynd i’r afael â materion yn y system cyfiawnder teuluol yn golygu bod angen arweinyddiaeth ar bob lefel, ar draws Cymru ac o fewn y DU. Bydd creu Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Interim yn darparu gwell arweinyddiaeth a chydlynu ar draws asiantaethau cyflawni’n genedlaethol ac yn lleol a bydd gennym ni gynrychiolaeth allweddol o Gymru ar y Bwrdd hwn. Bydd yn cael cefnogaeth bwrdd pobl ifanc, gyda chynrychiolaeth o Gymru a Lloegr, a fydd yn cefnogi eu gwaith ac yn sicrhau bod lleisiau plant a’u dyheadau a’u teimladau yn cael eu hystyried. Byddaf yn sicrhau bod cysylltiadau priodol hefyd yn cael eu gwneud gyda’n Fforymau Partneriaeth ac Arweinyddiaeth Llywodraeth Leol.

Mae’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol wedi sefydlu platfform ar gyfer trafod a chysylltu yng Nghymru; rydym eisoes yn dechrau clywed deialog newydd rhwng y patneriaid datganoledig a’r rhai sydd heb eu datganoli ynghylch sut y gall asiantaethau gydweithio’n fwy effeithiol er lles ein plant. Rwyf wedi dweud hyn lawer gwaith, ond wnaf i ddim ymddiheuro am ddweud eto bod maint a daearyddiaeth ein cenedl yn rhoi cyfleoedd arwyddocaol inni allu gwneud gwahaniaeth uniongyrchol a chadarnhaol ar gyfer ein plant a’n teuluoedd.

Cyflawni yw neges allweddol Prif Weinidog Cymru. Rwyf innau’n awyddus i fwrw ymlaen yn bersonol â’r agenda hon yng Nghymru. Rwyf am i’r drafodaeth a gychwynnodd gyda chomisiynu’r Adolygiad hwn barhau ac ymestyn. Felly, byddaf yn sefydlu Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol newydd yng Nghymru sy’n dod â’r bobl allweddol ynghyd, fel bod gennym gymuned leol o ddealltwriaeth a diben cyffredin i wella gwasanaethau cyhoeddus a chanlyniadau ar gyfer plant a theuluoedd yng Nghymru. Bydd y rhwydwaith hwn yn rhoi cefnogaeth a gwybodaeth bellach i waith y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol ac i gyfraniad y cynrychiolwyr Cymreig sy’n eistedd arno.

Bwriadaf gyhoeddi cylch gorchwyl ar gyfer y Rhwydwaith yn ystod yr wythnosau nesaf, a’r pryd hynny hefyd byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y camau nesaf ynglyn a’r camau gweithredu sydd o fewn cylch gwaith Llywodraeth Cymru.

Mae angen i ni adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i ddechrau i gyflawni’r gwelliannau y byddai Llywodraeth Cymru yn dymuno eu gweld, fodd bynnag, er bod rhai newidiadau yn rhai a fydd yn ymddangos ar unwaith, bydd eraill, gan gynnwys newidiadau deddfwriaethol (datganoledig a heb eu datganoli) yn cymryd amser hirach i’w gweithredu.

Mae ein hymrwymiad i hyn yn glir a byddwn yn gweithio’n gydweithredol o fewn y Llywodraeth a chyda phartneriaid, trwy ein Rhwydwaith newydd, i gyflawni’r agenda uchelgeisiol hon, gan sicrhau bod llais clir Cymreig i’w glywed o fewn y system. Mae cyhoeddi ymateb Llywodraeth y DU yn nodi dechrau’r daith a gallwn adeiladu ar y seiliau rydym ni eisoes wedi’u gosod i gynyddu’r cyfleoedd i Gymru. Yn y pen draw rydym ni’n gweithio i sicrhau system sy’n symlach ac yn fwy uniongyrchol  i rieni; sydd wedi’i mireinio ac yn llai dwys o ran adnoddau i weithwyr proffesiynol; ac yn bwysicaf oll yn darparu system gyflymach i blant sy’n cydnabod, yn gwrando ac yn ymateb i’w hanghenion a’u pryderon, yn amddiffyn eu lles ac yn sicrhau eu diogelwch; ac un sy’n eu helpu i fwynhau eu plentyndod yn yr amgylchedd mwyaf sefydlog.

Rwyf i’n gadarn fy marn fod cyflawni’r gwaith hwn yn rhan hanfodol o’m rhaglen Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, a byddwn yn rhoi rhagor o fanylion ynghylch cynigion Llywodraeth Cymru cyn hir.