Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Byddwch yn gwybod bod Bil Arloesi Meddygol yr Arglwydd Saatchi wedi bod yn mynd trwy’r Senedd. Mae gan Lywodraeth Cymru bryderon dwys am y Bil hwn ac mae wedi gofyn i’r darpariaethau o fewn y Bil beidio â bod yn gymwys i Gymru.
Gosodais femorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar 10 Rhagfyr 2014, a chafwyd dadl ar y cynnig perthnasol yn y Siambr ar 3 Chwefror 2015. Roedd consensws trawsbleidiol yn y Cynulliad na ddylem gydsynio i’r Bil fod yn gymwys i Gymru, gyda 54 pleidlais i 0 yn pleidleisio gyda’r Llywodraeth, yn erbyn y cynnig.
O ganlyniad i’r bleidlais honno, ysgrifennais at yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Ansawdd (yr Arglwyddi), Iarll Howe, i gofnodi unwaith eto bryderon Llywodraeth Cymru, ac i gyfleu canlyniad pleidlais y Cynulliad ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol sy’n ymwneud â’r Bil hwn. Hefyd fe wnes i gadarnhau y byddwn yn rhannu’r ymateb oddi wrth Iarll Howe unwaith imi ei dderbyn.
Rwy’n siomedig i gyfleu bod Llywodraeth y DU wedi cadw at ei safbwynt, sef bod y darpariaethau o fewn y Bil yn ymwneud â materion annatganoledig, ‘esgeuluster clinigol a chyfraith camwedd’, yn hytrach na phynciau dan bennawd ‘iechyd a gwasanaethau iechyd’ yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau yn gryf o’r farn bod y darpariaethau yn y Bil yn gymwys i’r ail. Fodd bynnag, mae hyn bellach yn amherthnasol yng nghyd-destun y Bil hwn gan ei fod wedi rhedeg allan o amser seneddol a gau fod y senedd wedi’i diddymu.
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd yn parhau i archwilio’r ffordd orau o annog arloesi meddygol ac mae wedi addo y bydd yn ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau safonau uchel o ofal i gleifion ar ddwy ochr y ffin.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.