Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn yr ymgynghoriad ar ddiwygiadau i Reoliadau Dŵr Ymdrochi 2013, rwy'n falch o gyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru heddiw ac ailddatgan ein hymrwymiad i ddiogelu a gwella ansawdd ein dyfroedd ymdrochi.

Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd eu barn, eu syniadau a'u harbenigedd. Mae'r adborth a gafwyd gan y cyhoedd, cynrychiolwyr o'r sector hamdden, sefydliadau cadwraeth amgylcheddol, tirfeddianwyr, y diwydiant amaethyddol, busnesau ac awdurdodau lleol wedi bod yn amhrisiadwy wrth lunio'r diwygiadau pwysig hyn. Mae wedi chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod ein dull gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn adlewyrchu anghenion cymunedau, busnesau a rhanddeiliaid amgylcheddol ledled Cymru wrth foderneiddio rheoliadau dŵr ymdrochi.

Bydd symud ymlaen gyda rhaglen o ddiwygiadau ystyrlon yn moderneiddio'r fframwaith rheoleiddio, yn cryfhau mesurau diogelu, ac yn darparu mwy o hyblygrwydd i addasu i anghenion lleol. Drwy gael gwared ar ddad-ddynodi awtomatig, byddwn yn sicrhau bod ymdrechion hanfodol i wella ansawdd dŵr yn parhau lle bo angen, yn hytrach na chael eu hatal yn rhy fuan. Bydd cyflwyno asesiadau dichonoldeb ar gyfer gwella ansawdd dŵr yn ein galluogi i fabwysiadu agwedd fwy rhagweithiol tuag at sicrhau safleoedd ymdrochi diogel a chynaliadwy. Yn ogystal, bydd symud dyddiadau'r tymor ymdrochi o reoliadau sefydlog i ganllawiau hyblyg yn galluogi addasiadau lleol, gan sicrhau bod ein polisïau'n cyd-fynd ag anghenion amgylcheddol a hamdden sy'n newid.

Ochr yn ochr â'r diwygiadau craidd hyn, byddwn yn gweithredu naw diwygiad technegol a gynlluniwyd i foderneiddio arferion, symleiddio prosesau rheoleiddio, a sicrhau bod y Rheoliadau Dŵr Ymdrochi yn parhau i fod yn addas at y diben gan hefyd leihau beichiau diangen. Bydd y diweddariadau technegol hyn yn gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd rheoli ansawdd dŵr, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i welliant parhaus.

Mae gweithredu'r diwygiadau hyn yn llwyddiannus yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth agos â Defra, cyrff rheoleiddio, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau trosglwyddiad llyfn ac i ddatblygu canllawiau clir sy'n adlewyrchu natur unigryw ac amrywiol dyfroedd ymdrochi Cymru. Bydd y newidiadau deddfwriaethol angenrheidiol yn cael eu datblygu drwy Offeryn Statudol, a disgwylir i'r diwygiadau ddod i rym yn hydref 2025.

Yn ogystal â'r diwygiadau uniongyrchol, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i archwilio cyfleoedd pellach i wella. Roedd yr ymgynghoriad hwn a'n hymgynghoriad diweddar ar safleoedd dŵr ymdrochi newydd ar gyfer 2025 yn rhoi adborth gwerthfawr ar newidiadau posibl yn y dyfodol gyda'r mewnwelediadau hyn yn llywio ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer rheoli dŵr yng Nghymru.

Mae Cymru'n gartref i rai o'r traethau glanaf a harddaf yn Ewrop, ac mae nofio awyr agored yn parhau i dyfu mewn poblogrwydd. Mae'n hanfodol bod ein dull o reoli dŵr ymdrochi yn adlewyrchu'r brwdfrydedd cynyddol hwn wrth fynd i'r afael â'r heriau ehangach a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd a gwytnwch y sector dŵr. Mae'r diwygiadau hyn yn gam ymlaen pwysig, ond maent yn rhan o ymdrech ehangach i wella ein dull llywodraethu dŵr, cryfhau mesurau diogelu amgylcheddol, a sicrhau'r safonau uchaf o ansawdd dŵr am genedlaethau i ddod.

Drwy weithio ar y cyd ar draws llywodraethau, rheoleiddwyr a chymunedau, gallwn gyflawni newid parhaol. Mae ein hymrwymiad i ddiogelu a gwella adnoddau naturiol Cymru yn parhau'n gyson, ac edrychwn ymlaen at barhau â'r daith hon gyda'n gilydd gan adeiladu dyfodol lle gall pawb fwynhau dyfroedd ymdrochi glanach, mwy diogel a chynaliadwy ledled Cymru.