Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Rhagfyr 2018, cyhoeddwyd crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad yn amlinellu ein cynigion ar gyfer ad-drefnu trefniadau darparu ac ariannu dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru. Cawsom ymateb da i’r ymgynghoriad, ac roedd hi’n glir bod dysgu oedolion yn hynod bwysig i nifer o bobl. Roedd hi’n glir hefyd pa mor gymhleth ac amrywiol yw’r sector.

Rwyf wedi neilltuo amser dros y misoedd diwethaf i ystyried pob un o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ac i feddwl sut y mae’n cyd-fynd â’m huchelgeisiau ehangach ar gyfer addysg yng Nghymru. Mae’r datganiad hwn yn amlinellu ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad a’n camau nesaf.

Yn gysylltiedig â’r gweithgarwch hwn, ac fel y nodwyd yn y Cytundeb Blaengar rhwng y Prif Weinidog a minnau ym mis Rhagfyr, rydym wedi ymrwymo i archwilio sut y gallem gyflwyno hawl newydd i ddysgu gydol oes yng Nghymru. Rwyf eisiau i bawb yng Nghymru gael cyfle i ddysgu gydol eu bywydau. Mae dysgu oedolion yn y gymuned yn rhan o’r uchelgais hwn.

Mae’r sector gymunedol eisoes yn gwneud llawer y gallwn ni fod yn falch ohono. Does dim ond angen i chi edrych ar y Gwobrau Ysbrydoli i weld effaith y gwaith mae’r sector hwn yn ei wneud. Mae’n cyflawni ar draws amrywiaeth eang o bynciau a lefelau. Gall dysgwyr ddilyn cyrsiau mewn ysgolion, mewn canolfannau cymunedol, mewn Colegau AB, mewn Prifysgolion neu gartref. Mae’n sector sy’n ymateb i anghenion dysgwyr ac yn darparu mewn lleoliadau lle gall dysgwyr, gyda llawer ohonynt ymhlith yr oedolion mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, deimlo’n ddiogel.

Ond nid yw’r ddarpariaeth yn gyson, ac nid yw’n deg ledled Cymru. Y gwir yw bod ein dysgwyr yn wynebu loteri cod post ar hyn o bryd lle mae’r ddarpariaeth sydd ar gael iddynt yn dibynnu ar ble maen nhw’n byw.

Mae hyn yn annerbyniol. Er mwyn cynorthwyo datblygiad hawl i ddysgu gydol oes, rhaid i mi gychwyn trwy sicrhau bod y systemau hynny sydd eisoes ar waith yn galluogi dysgwyr, ble bynnag y maent, i gael mynediad cyfartal at ein darpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned.

Ar ôl ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i mi, rwyf wedi penderfynu mai’r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau tegwch yw trwy gorff cenedlaethol canolog sydd â throsolwg strategol dros ddysgu oedolion yn y gymuned ledled Cymru ac sy’n gallu sicrhau cynnig cyson a theg i bawb. Ond nid yw hyn yn rhywbeth y gellir ei wneud dros nos. Felly, rwy’n gofyn i’m swyddogion ddatblygu dysgu oedolion yn y gymuned mewn dau gam pwysig.

Bydd cam un yn canolbwyntio ar gynllunio ac ariannu darpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned ledled Cymru. Byddwn yn:

  • Cyflwyno model ariannu diwygiedig sy’n sicrhau bod cyllid yn cael ei ddosbarthu’n deg ledled Cymru – gan ystyried dwysedd poblogaeth ac anfantais economaidd ac addysgol.
  • Gwella’r gwaith o gynllunio darpariaeth i sicrhau bod y ddarpariaeth yn cyd-fynd â chynlluniau AB ehangach, gyda ffocws ar flaenoriaethau dysgu oedolion mewn perthynas â darpariaeth sgiliau hanfodol.
  • Ad-drefnu partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned i sicrhau eu bod yn cyfateb i Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol. Bydd hyn yn darparu ffocws mwy cadarn ar ofynion economaidd a chymdeithasol y wlad, gan gyfrannu at waith darparwyr eraill mewn Addysg Bellach ac Uwch.

Bydd y camau gweithredu hyn yn ein helpu ni i fynd i’r afael â phroblemau’n ymwneud â thegwch o ran cyllid a darpariaeth ac yn darparu sail gryfach ar gyfer datblygu corff strategol cenedlaethol.

Bydd cam dau yn canolbwyntio ar ddatblygu Corff Strategol Cenedlaethol ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru. Byddwn yn:

  • Dysgu gan sefydliadau cenedlaethol presennol, gan gynnwys y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, er mwyn ystyried sut y bydd y Corff Cenedlaethol yn gweithio.
  • Cynnal astudiaeth ddichonoldeb i bennu a fyddai darparwr presennol yn addas i gyflawni’r rôl hon yn y dyfodol.
  • Gweithio gyda’r sector i ddatblygu’r cylch gwaith ar gyfer y Corff Cenedlaethol, gan sicrhau ei fod yn cefnogi’r ddarpariaeth bresennol, yn adeiladu ar arfer da ac yn datblygu trosolwg strategol sy’n annog a chryfhau’r cyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr ledled Cymru.

Ymhen amser, bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros ddysgu oedolion. Unwaith i Gorff Cenedlaethol ar gyfer dysgu oedolion gael ei sefydlu, bydd yn cael ei ariannu a’i fonitro, a bydd y CTER yn sicrhau ei ansawdd yn unol â’r cynigion ar gyfer pob SAB arall. 

Rwy’n gwybod y bydd hyn yn cychwyn cyfnod cythryblus, ond rwy’n ffyddiog y bydd y newidiadau rwy’n eu cyflwyno’n sicrhau bod gennym ni sector dysgu oedolion yn y gymuned sy’n barod i wynebu’r unfed ganrif ar hugain yn hyderus a darparu’r hawl i ddysgu gydol oes y mae ein pobl yn ei haeddu.