Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Ym mis Chwefror, cyhoeddodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) ei Adroddiad ar y Farchnad Adeiladu Tai ym Mhrydain Fawr. Prif ganfyddiad y CMA oedd bod y system gynllunio gymhleth ac anrhagweladwy, ynghyd â chyfyngiadau datblygiadau preifat hapfasnachol, wedi bod yn gyfrifol am y diffyg darpariaeth parhaus o gartrefi newydd.
Cadarnhaodd yr astudiaeth bryderon sylweddol hefyd am gostau rheoli ystadau, gyda pherchnogion tai yn aml yn wynebu taliadau uchel ac aneglur am reoli cyfleusterau fel ffyrdd, draenio a mannau gwyrdd, ynghyd ag ansawdd gwael rhai tai newydd a welwyd gan y nifer cynyddol o adroddiadau manwl dros y deng mlynedd diwethaf.
Ar adeg cyhoeddi,agorodd CMA ymchwiliad newydd hefyd i'r amheuaeth o rannu gwybodaeth fasnachol sensitif gan adeiladwyr tai a allai fod yn dylanwadu ar safleoedd adeiladu a phrisiau cartrefi newydd. Rwy'n croesawu'r ymchwiliad hwn ac yn edrych ymlaen at ei ganfyddiadau.
O ran yr argymhellion a'r opsiynau i'r llywodraeth eu hystyried fel y maent yn berthnasol i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r CMA yn thematig, gan dderbyn yr argymhellion. Rwyf wedi cyflwyno ymateb llawn Llywodraeth Cymru yn Llyfrgell y Senedd er gwybodaeth i aelodau.
Bydd rhai argymhellion yn yr adroddiad yn dibynnu ar gamau i'w cymryd gan Lywodraeth y DU mewn cydweithrediad â'r llywodraethau datganoledig ac rwyf wedi trafod sut y gellir gweithredu'r argymhellion hyn gyda Gweinidogion yn Llywodraethau'r DU a'r Alban yng Nghyngor Iwerddon Prydain ar 19 a 20 Medi. Mae'n bwysig ein bod yn gweithio ar y cyd â'n partneriaid i sicrhau gwell bargen i brynwyr tai.