Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Mae'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yn cynnig cymorth sydd werth tua 300 miliwn ewro y flwyddyn o Ewrop i'r sector amaethyddol yng Nghymru. Mae'r cymorth hwn yn hanfodol bwysig ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru a'r diwydiant yn gweithio ochr yn ochr, trwy ein Fframwaith Strategol ar gyfer Amaeth, i helpu i greu dyfodol cadarn a ffyniannus i ffermio.
Yn ystod cylch diwethaf diwygio’r PAC, mynegodd y Comisiwn Ewropeaidd ei fod yn benderfynol o weld cynnydd yn y canlyniadau amgylcheddol a gyflawnir trwy gymorthdaliadau ffermydd- sef Gwyrddu’r PAC fel y’i gelwir. Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r egwyddor hon yn llawn - fel nifer yn y diwydiant amaeth - y dylai ffermwyr chwarae rhan lawn wrth amddiffyn yr amgylchedd naturiol fel amod o gael symiau sylweddol o arian cyhoeddus.
Mae'n amlwg o'm trafodaethau â chyrff ffermio a rhanddeiliaid amgylcheddol, fodd bynnag, fod y mesurau Gwyrddu sydd mewn lle ar hyn o bryd wedi arwain at gymhlethdod digroeso i ffermwyr a'r Llywodraeth, ac nad ydynt wedi darparu'r buddion amgylcheddol sylweddol y gobeithiwyd amdanynt. Rwyf felly'n falch fod y Comisiynydd Hogan wedi cynnwys edrych ar fesurau Gwyrddu o'r newydd yn rhan o'i agenda i symleiddio’r PAC. Dyma ragor o dystiolaeth fod y Comisiwn Ewropeaidd yn gwrando ar sylwadau’r Aelod-Wladwriaethau ac yn ymateb iddynt, a'i fod yn barod i ymroi'n gadarnhaol i sicrhau bod polisïau'n adlewyrchu ein pryderon a'r canlyniadau amgylcheddol pwysig yr ydym yn dymuno eu gweld.
Rhoddwyd cyfle i Lywodraeth Cymru ei hun gynnig sylwadau ar ymgynghoriad y Comisiwn Ewropeaidd ar Wyrddu’r PAC, yn hytrach nag yn rhan o ymateb ehangach Aelod-wladwriaethau. Mae hyn yn bwysig o ystyried y gwahaniaethau mewn systemau ffermio ledled y DU.
Cyflwynwyd ein hymateb ar 8 Mawrth. Ategwyd ynddo bwysigrwydd sicrhau bod pob elfen o’r PAC yn gallu dangos ei bod yn cynnig gwerth da am arian cyhoeddus. Mae Colofn 1 yn cynrychioli swmp llethol y gwariant ac felly, fod rhaid cyflenwi nwyddau a darparu gwasanaethau ochr yn ochr â'r rhai sydd i'w cyflawni a’u darparu trwy Golofn 2, sy’n llai ei maint. Cred Llywodraeth Cymru fod trawsgydymffurfio o dan Golofn 1 yn arf pwysig er mwyn sicrhau canlyniadau amgylcheddol, a'i fod yn cynnig mwy o fudd posibl na'r mesurau gwyrddu cymhleth eu gweinyddu sy'n berthnasol i'r Cynllun Taliad Sylfaenol.
Mae hefyd yn amlwg fod y rheolau Gwyrddu ledled Ewrop, a hyd yn oed o fewn Aelod-Wladwriaethau, yn cael eu dehongli'n wahanol. Mae hyn yn dangos nad yw'r rheolau presennol mor eglur â'r hyn y mae angen iddynt fod. Mae'r sefyllfa hon yn cynnig risg go iawn fod ffermwyr o wahanol ardaloedd yn yr UE yn wynebu anfantais gystadleuol gymharol - rhywbeth y mae’r PAC wedi cael ei greu yn benodol i'w osgoi. Er mwyn osgoi'r risgiau hyn, mae Llywodraeth Cymru'n credu bod Colofn 2, ar y cyd â throsi Cyfarwyddebau’r GE yn amodau domestig, yn parhau i gynnig y cyfle gorau i gyflenwi nwyddau a darparu gwasanaethau amgylcheddol mewn modd sydd wedi'i weinyddu a'i dargedu'n effeithlon; mewn modd y gellir ei ddeall yn eglur gan ffermwyr, sy'n hollbwysig. Golyga hyn y bydd Colofn 1 yn cadw ei safle fel y polisi dihafal, y byddwn drwyddo yn cynnal ac yn cynyddu cynhyrchiant bwyd, yn cynnig gwerth ychwanegol ac yn diogelu'r amgylchedd trwy’r fframwaith trawsgydymffurfio sy'n llai cymhleth a haws ei ddeall.
Er mwyn bod yn gyflawn, rydym hefyd wedi amlinellu ein pryderon penodol ynghylch y modd y mae Gwyrddu wedi cael ei roi ar waith yn ymarferol pe bai'r Comisiwn Ewropeaidd yn penderfynu cadw rhai elfennau o Wyrddu o fewn Colofn 1. Yn benodol, amlinellodd Ymateb Llywodraeth Cymru'r meysydd allweddol canlynol i'w gwella:
- Tyfu amrywiaeth o gnydau: Mae effaith Gwyrddu, yn y cyd-destun Cymreig, yn heriol iawn i'r sector âr. Ffermydd teulu bychain yw’r rhai â 10-15 hectar o ardal âr fel arfer; unedau da byw glaswelltir yn bennaf sy’n tyfu cnydau âr ar gyfer y cartref, ac yn gwerthu’r rhai sy’n weddill o bosib. Mae Llywodraeth Cymru wedi amlygu bod y ffermydd hyn yn cael eu cosbi am arallgyfeirio ychydig yn lle cynnal system tir pori gyfan, gan wynebu’r gost ddigroeso a diwerth o dyfu cnwd âr gwahanol.
- Ardal â Ffocws Ecolegol (AFfE): Mae’r rheolau ynghylch Ardal â Ffocws Ecolegol hefyd yn destun pryder. Ar hyn o bryd, er mwyn bod yn gymwys fel AFfE, mae angen bod nodweddion yn y dirwedd megis perthi a choridorau o goed, yn gyfagos i dir âr. Os nad tir âr yn gyfan gwbl yw'r fferm, gall hyn fod yn anodd ei gyflawni.
- Effaith ar fesurau amaeth-amgylcheddol a’r hinsawdd: Mae hefyd gan Wyrddu oblygiadau ar allu Llywodraeth Cymru i roi ei brif gynllun amaeth-amgylcheddol a hinsawdd (Glastir) ar waith. Mae ymgorffori opsiynau âr yn ofyniad deniadol iawn o fewn y cynlluniau hyn, yn enwedig er mwyn atal dirywiad y rhywogaethau adar tir fferm prin. Fodd bynnag, gall tyfu amrywiaeth o gnydau fod yn broblem i ffermwyr sy’n rhan o Glastir, yn enwedig y rhai hynny sy'n cynhyrchu ardaloedd bychain o dir âr rhwng 10 a 15 hectar. Mae'r ffermwyr hyn yn aml yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i ardaloedd âr ychwanegol ar gyfer tyfu amrywiaeth o gnydau (er mwyn osgoi ariannu deuol trwy Glastir) a gall hyn eu hatal rhag ymuno â'r cynllun yn gyfan gwbl ar draul y canlyniadau amgylcheddol ehangach o lawer y gallent fod wedi eu cyflawni.
- Gweinyddu: Mae gweinyddu Gwyrddu yn gymhleth i'r ffermwr ac mae ganddo orbenion gweinyddol sylweddol. Mae’r cyfrifiadau lleihau ar gyfer y taliadau gwyrddu hefyd yn anodd eu hegluro, ac felly nid yw ffermwyr yn eu deall yn llawn pan gânt eu cymhwyso. Mae hyn yn cynyddu'r tebygolrwydd o apeliadau, costau ychwanegol ynghyd ag amser o safbwynt y llywodraeth a busnesau fferm.
Disgwylir i’r Comisiwn Ewropeaidd ryddhau canlyniadau ei ymgynghoriad ar ddechrau'r haf, ac edrychaf ymlaen at weld camau cyntaf y cynnydd tuag at fecanwaith cyflawni sy’n fwy syml ac effeithiol, a fydd yn parhau i warantu y gwelir canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol trwy PAC.