Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidaieth
Ar 17eg Rhagfyr 2018, cyhoeddodd y Gwir Anrhydeddus Chris Grayling AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Bapur Gwyrdd o dan y teitl 'Hedfanaeth 2050 - dyfodol hedfanaeth yn y DU', a nod y Papur yw "sicrhau sector hedfanaeth diogel a chynaliadwy sy'n bodloni anghenion defnyddwyr a Phrydain fyd-eang, allblyg".
Ddechrau Mawrth, estynnodd Prydain rhywfaint ond nid y cyfan o'r ymgynghoriad, felly bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb mewn dau gam.
Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i ymateb i'r cam cyntaf ac wedi rhoi copi o'm llythyr yn llyfrgell yr Aelodau er gwybodaeth. Rwy'n bwriadu ysgrifennu eto erbyn 20 Mehefin, fel cam 2 yr ymgynghoriad, ar sut y mae Papur Gwyrdd Hedfanaeth 2050 yn bwriadu mynd i'r afael â'r Rhwymedigaethau Gwasanaethau Cyhoeddus a byddaf hefyd yn rhoi copi o'r llythyr hwnnw yn y llyfrgell.
Mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd pob agwedd ar hedfanaeth yn natblygiad cymdeithasol ac economaidd Cymru, o ddiwydiannau gweithgynhyrchu mawr i gefnogi twristiaeth a hamdden. Mae Strategaeth Hedfanaeth gynhwysfawr sy'n ystyried yr holl randdeiliaid hyn yn hanfodol.
Yr wyf, unwaith eto, wedi galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei safbwynt o ran datganoli Toll Teithwyr Awyr ac i weithredu cynigion y Rhwymedigaethau Gwasanaethau Cyhoeddus i'r UE a fyddai'n rhoi Cymru mewn sefyllfa well wedi Brexit.