Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ddechrau mis Mai traddodais ddatganiad llafar ar adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg, Gwaith Teg Cymru, a gyhoeddwyd ar 3 Mai.  Dywedais y byddwn i'n rhoi ymateb y Llywodraeth ar ôl i Weinidogion ystyried a thrafod yr adroddiad a'i oblygiadau i'w portffolios â'u swyddogion – roeddwn ni’n gobeithio gwneud hyn erbyn diwedd mis Mehefin. 

Gwnaeth y Comisiwn gyfanswm o 48 o argymhellion ar draws wyth maes gweithredu. Roeddent yn cynnwys chwe argymhelliad â blaenoriaeth â'r nod o ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r agenda gwaith teg, a gosod y cyfeiriad a'r sylfaen ar gyfer mynd â'r gwaith yn ei flaen. Roedd yn bleser gennyf gadarnhau yn fy natganiad llafar y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn y chwe argymhelliad â blaenoriaeth. Dyma nhw:

  • Argymhelliad 1: Bydd pob Gweinidog a swyddog Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am waith teg
  • Argymhelliad 2: Bydd y diffiniad o waith teg yn cael ei fabwysiadu a'i ddefnyddio ar draws Llywodraeth Cymru wrth iddi hyrwyddo gwaith teg
  • Argymhelliad 10b: Bydd canfyddiadau'r Comisiwn yn cael eu defnyddio i arwain y gwaith o ddatblygu'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol arfaethedig
  • Argymhelliad 26: Bydd y canfyddiadau hefyd yn arwain y ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn hybu'r undebau llafur a chydfargeinio
  • Argymhelliad 35: Bydd strwythur yn cael ei sefydlu o fewn Llywodraeth Cymru i gydlynu a hyrwyddo gweithgareddau gwaith teg – bydd y Gyfarwyddiaeth Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg newydd o fewn Swyddfa'r Prif Weinidog a Brexit
  • Argymhelliad 42: Bydd Gweinidogion yn monitro'r cynnydd y mae gwaith teg yn ei wneud o fewn eu meysydd i lywio adroddiad blynyddol gan Lywodraeth Cymru ar Waith Teg Cymru.

Mae gwaith teg yn cyd-fynd â'r traddodiadau sydd wedi'u hen sefydlu yng Nghymru o gydsafiad a chydlyniant cymunedol. Mae'n hanfodol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, y tlodi a'r heriau mewn perthynas â llesiant rydym yn eu hwynebu yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Rwy'n credu bod y Comisiwn wedi datblygu argymhellion y gellir eu cyflawni sy'n darparu ffordd ymlaen ymarferol i roi Gwaith Teg Cymru ar waith.

Gwnaethom benodi'r Comisiwn Gwaith Teg i ystyried ein partneriaid cymdeithasol a gweithio gyda nhw i wneud argymhellion ar y ffordd y gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo ac annog gwaith teg yng Nghymru. At ei gilydd cytunir bod y Comisiwn wedi paratoi adroddiad gwych y chymesur, a hoffwn i unwaith eto ddweud diolch ar ran Llywodraeth Cymru i aelodau'r Comisiwn am eu hymroddiad, eu harbenigedd a'u cyfraniadau sylweddol. I'r Cadeirydd, Yr Athro Linda Dickens, Sharanne Basham-Pyke, Yr Athro Edmund Heery a Sarah Veale. Rydym hefyd yn ddiolchgar i'r Athro Alan Felstead a oedd yn cefnogi'r Comisiwn fel y Cynghorydd Arbenigol Annibynnol.  

Roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig i'r Comisiwn fod yn annibynnol o'r Llywodraeth er mwyn iddynt fod yn wrthrychol ac yn rhydd i ddisgrifio'r sefyllfa fel yr oedd. Cafodd yr adroddiad ei ddrafftio gan y Comisiwn, heb unrhyw fewnbwn o ran golygu gan Lywodraeth Cymru.

Gwnaethom ofyn am sylwadau gan ein partneriaid cymdeithasol er mwyn cynnwys eu safbwyntiau yn Ymateb y Llywodraeth, ac mae'n bleser gennyf ddweud bod yr adroddiad wedi caei ei groesawu gan y partneriaid hynny. 

Mae TUC Cymru wedi dweud eu bod wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd i wneud Cymru yn Genedl Gwaith Teg drwy bartneriaeth gymdeithasol, a bod Adroddiad y Comisiwn yn gyfraniad pwysig at gyflawni'r nod hwnnw.   

Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain o'r farn bod Gwaith Teg Cymru yn adroddiad sydd wedi'i amseru'n dda ac ynddo dystiolaeth dda, a fydd yn helpu i lywio camau nesaf Llywodraeth Cymru, ond fe hoffent weld rhagor o waith yn cael ei wneud mewn rhai meysydd gweithredu.  

Mae Ffederasiwn Busnesau Bach wedi croesawu'r adroddiad. Fel sefydliad y bydd gan ei aelodau rôl allweddol i'w chwarae yn y gwaith o gyflawni'r agenda hon, roeddwn i’n falch o weld y ffordd roedd casgliadau'r comisiwn yn ystyried profiadau byw llawer o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, a'r potensial yn y rhan hon o'r gymuned fusnes i roi gwaith teg ar waith. Er bod y Ffederasiwn Busnesau Bach wedi croesawu holl ganfyddiadau'r Comisiwn at ei gilydd, fel y mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, mae'n teimlo bod nifer o feysydd a fydd angen rhagor o waith ac eglurhad.

Felly, mae'n bleser gennym ddweud y byddwn ni'n derbyn, mewn egwyddor, y 42 o argymhellion eraill. Nawr mae angen inni edrych ar fanylion yr argymhellion er mwyn deall yr effaith y byddant yn ei chael ar y gwaith o ddatblygu a chyflawni  polisïau, ac oherwydd ehangder yr argymhellion a'r ffordd maent yn gorgyffwrdd, ystyried eu heffaith gronnus a sut byddant yn gweithio gyda'i gilydd.

Byddwn ni hefyd yn gweithio i roi'r eglurder y mae ein partneriaid cymdeithasol yn ei geisio a gweithio gyda nhw i ddatblygu dull y cytunir arno i gyflawni Gwaith Teg Cymru. 

Y cam cyntaf yw sefydlu Cyfarwyddiaeth Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg – rydym wrthi'n gwneud hyn. Un o amcanion cyntaf y Gyfarwyddiaeth newydd, pan fyddwn ni wedi'i sefydlu, fydd datblygu strategaeth a chynllun gweithredu ar gyfer argymhellion y Comisiwn – byddwn yn rhannu'r rhain â chi maes o law. Yn y cyfamser, ac yn unol ag Argymhelliad 41, byddwn ni’n adrodd ar ein cynnydd cyn diwedd y flwyddyn hon.