Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n croesawu’r adroddiad ‘Hwyluso’r Drefn’ gan Gareth Williams. Mae’n argymell ffordd symlach a gwell o weithio i reoleiddwyr a ffermwyr yng Nghymru.  Rhaid canmol Gareth am fynd i’r afael mor eofn â’r pwnc ac am gynnig amrywiaeth o atebion ymarferol i ymdrin â rhai o’r prosesau a’r rheoliadau mwyaf beichus.  

Gellid dadlau bod ffermio’n unigryw o safbwynt lefel ei ddibyniaeth ar arian cyhoeddus, yn bennaf ar ffurf cymorth y PAC.  Rheoliadau, rheolau ac atebolrwydd yw’r pris i’w dalu am arian cyhoeddus, ond nid yw hynny’n golygu bod yn rhaid i’r broses reoleiddio fod yn gymhleth, yn rhwystr i ddatblygiad busnesau na rhoi pwysau diangen ar feddwl y derbynnydd.

Mae Gareth wedi cael hyd i lawer o reoliadau sydd wedi llwyddo i adlewyrchu sefyllfa benodol Cymru, sydd wedi ennyn cefnogaeth y cwsmeriaid ac sy’n ei gwneud hi’n hawdd iddynt gadw at y rheolau.  Mae’r Gwasanaethau Cysylltwyr Fferm, Cyswllt Ffermio a swyddfeydd blaen y Swyddfeydd Rhanbarthol i gyd yn cael eu canmol yn hyn o beth a rhaid datblygu eu gwaith da.

Ond gwaetha’r modd, mae llawer o feiau yn y broses reoleiddio y mae’r Llywodraeth a’i hasiantaethau yn ei rhedeg, gan gynnwys diffyg cyfathrebu â chwsmeriaid, archwiliadau ailadroddus, cofnodi ailadroddus a rhwystrau i’r farchnad da byw ac i arallgyfeirio ar ffermydd.  Y beiau hyn yw’r rhai yr ydym am geisio’u taclo ac rwyf am wneud hynny mewn partneriaeth go iawn â’r diwydiant ffermio.

Rwyf am i’r ddwy ochr ddod i ddeall y rheoliadau hanfodol lawer yn well a thargedu archwiliadau a rheolau lle bo’u hangen fwyaf.  Y wobr i ffermwyr sy’n ymddwyn yn gyfrifol ac yn unol â’r rheoliadau fydd llai o archwiliadau a llai o reolau, lle bo’r rheoliadau’n caniatáu hynny.

Mae Gareth wedi gweld bod angen mwy o gydweithio rhwng y Llywodraeth, ffermwyr, undebau’r ffermwyr a’r asiantaethau.  Rwy’n croesawu ei argymhelliad i ddefnyddio grwpiau cynghori fydd yn rhoi eu sylw i faterion llosg ac yn cyflwyno’u hargymhellion yn uniongyrchol i mi.

Mae Hwyluso’r Drefn yn cynnig 74 o argymhellion yr wyf am weithredu arnyn nhw.  Mae amserlen dynn, sef gwyliau’r haf, ar gyfer yr 20 cyntaf, ond rwy’n hyderus y gallwn wneud llawer o waith trwy gydweithio i ddechrau cyfnewid y cymhleth am y syml, y dryslyd am y clir a gorfodaeth am rannu cyfrifoldebau a gweithredoedd.

Rwyf am sicrhau yn awr bod gennym broses glir ac agored ar gyfer rhoi canfyddiadau’r adroddiad hwn ar waith.  Byddaf yn arwain trafodaeth am yr adroddiad yn y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mawrth, 7 Chwefror ac yn cynnal cyfarfod â rhanddeiliaid a phartneriaid ddeuddydd yn ddiweddarach ar ddydd Iau, 9 Chwefror.  Mae’n dda iawn gen i glywed bod Gareth Williams wedi cytuno i gadw golwg ar y ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi’r adroddiad ar waith.  Rwy’n gobeithio’n fawr bod y mesurau hyn yn dangos i Aelodau fy ymrwymiad i fynd â’r broses yn ei blaen, i fod yn drylwyr ac i sicrhau bod atebolrwydd yn rhan annatod o’r rhaglen.