Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, mae Canghellor y Trysorlys wedi cyflwyno ei Gyllideb yr Hydref gyntaf.  

Galwais yn barhaus ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig (DU), cyn y Gyllideb heddiw, i roi'r gorau i'w pholisi diffygiol, a diangen, o gyni cyllidol sy'n niweidio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac ym mhob cwr o’r DU.

Nid yw safbwynt Llywodraeth Cymru yn unigryw wrth iddi alw ar Lywodraeth y DU i bennu cyfeiriad cyllidol newydd. Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi dweud: "Efallai ei bod hi'n amser cyfaddef nad yw’n synhwyrol bellach i wneud ymrwymiad cadarn i gynnal gwarged yn y gyllideb o ganol y blynyddoedd 2020 ymlaen".

Er ein bod ni wedi gweld rhywfaint o leddfu ar ei pholisïau o gyni cyllidol, nid oes unrhyw hwb sylweddol, na rhyddhad, yng Nghyllideb y DU heddiw i wasanaethau cyhoeddus sydd o dan bwysau aruthrol yn sgil y saith mlynedd o galedi cyllidol a orfodwyd arnynt eisoes.

O ganlyniad i'r mesurau cyhoeddodd y Canghellor heddiw y bydd cynnydd yn y cyllid y mae Cymru yn ei gael o’r bloc grant. Fodd bynnag, bydd mwy na hanner o’r cynnydd hwnnw yn cael ei roi ar ffurf cyllid y mae’n rhaid ei ad-dalu i Drysorlys y DU.

Bydd cynnydd o £215m yn ein cyllideb refeniw dros y cyfnod 2017-18 i 2019-20 a bydd cynnydd o tua £1bn yn ein cyllideb cyfalaf rhwng 2017-18 a 2020-21.

Er hynny, mae £650m o’r cyllid cyfalaf hwn ar ffurf trafodiadau ariannol – cyllid cyfalaf sy’n rhaid ei ad-dalu i’r Trysorlys, gyda chyfyngiadau ar y modd y gellir ei wario, yw hwn.  

Bydd y cynnydd bach hwn yn yr adnoddau sydd ar gael i Gymru yn cefnogi ein blaenoriaethau, ond ychydig iawn fydd y cyllid atodol hwn yn ei wneud i leihau’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus y rheng flaen sydd wedi ei chael hi’n anodd ymdopi yn wyneb y toriadau parhaus i’n cyllideb ers 2010-11.

Hyd yn oed gyda'r cyllid atodol hwn, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn dal i fod 5% yn is mewn termau real yn 2019-20 nag ydoedd yn 2010-11, sydd gyfystyr â £900m yn llai i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus.

Er gwaetha'r toriadau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU, mae gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol 8% yn uwch yng Nghymru nag ydyw yn Lloegr – mae’r twf wedi bod yn gyflymach nag unrhyw ran arall o'r DU yn 2016-17. Mae gwariant ar addysg yn dal i fod 3% yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr.

Ochr yn ochr â gweithwyr cydwybodol y sector cyhoeddus a'r Undebau Llafur, mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i gael gwared ar y cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus a darparu mwy o gyllid er mwyn rhoi i weithwyr ar draws y DU y codiad cyflog y maen nhw'n ei haeddu.

Roeddwn i'n glir bod rhaid rhoi cyllid llawn ar gyfer gwneud hyn.

Collwyd cyfle yng Nghyllideb y DU heddiw i wneud hyn ar gyfer pob gweithiwr sector cyhoeddus.

O safbwynt staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), sy’n aros am ganlyniad corff adolygu cyflogau annibynnol, rwy’n disgwyl i’r Canghellor fodloni ei ymrwymiad i ariannu unrhyw argymhellion cyflog yn llawn a rhoi darpariaeth ganlyniadol Barnett lawn.

Yn ogystal â'r toriadau difrifol a pharhaus mewn gwariant cyhoeddus sydd wedi’u hachosi gan bolisi Llywodraeth y DU o gyni cyllidol, drwy ei rhaglen ar gyfer diwygio lles, mae wedi braenaru'r tir ar gyfer achosi caledi pellach i'r aelodau mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

Mae ymchwil gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi dangos bod hyn yn cael effaith andwyol yng Nghymru, ac effaith negyddol uniongyrchol ar dlodi plant. Rydym wedi galw ers amser ar Lywodraeth y DU i roi'r gorau i'w rhaglen diwygio lles niweidiol ac oedi cyn cyflwyno Credyd Cynhwysol i sicrhau bod y system yn gallu darparu'r cymorth y mae teuluoedd yn ddibynnol arno yn brydlon.

Methodd y Gyllideb hon ag ymateb i alwadau gan amrywiol sefydliadau, gan gynnwys Cyngor ar Bopeth a Chomisiynydd Plant Cymru, i wneud hynny. Mae’r mesurau ychwanegol i reoli hawliadau newydd yn gam yn y cyfeiriad cywir, ond nid ydynt yn mynd i’r afael â’r ffaith bod hawlwyr Credyd Cynhwysol yn aros am chwe wythnos neu fwy ar gyfer eu taliad cyntaf.

Mae'r Gyllideb hefyd yn cynrychioli cyfle wedi'i golli i ddarparu mwy o fuddsoddiad mewn seilwaith i gefnogi'r economi yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd.

Galwasom ar Lywodraeth y DU i ymrwymo i brosiectau seilwaith pwysig yng Nghymru, gan gynnwys morlyn ynni'r llanw ym Mae Abertawe. Gofynnwyd iddi hefyd fynd i'r afael â'r diffyg buddsoddi parhaus a hanesyddol yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru – diffyg sy’n cael mwy o ergyd wedi ei phenderfyniad i ganslo gwaith trydaneiddio'r brif linell rhwng Abertawe a Chaerdydd.

Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cam â Chymru unwaith eto drwy fethu â buddsoddi yn y prosiectau allweddol hyn.

Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cadarnhau bod economi'r DU wedi arafu'n sylweddol ac mae ei rhagolygon twf wedi'u hadolygu tuag at i lawr unwaith eto. Yn fy llythyr at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ddiweddar, anogais Lywodraeth y DU i wrando ar y Gronfa Ariannol Ryngwladol a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a manteisio ar gyfraddau llog isel a buddsoddi yn y seilwaith economaidd.

Rydym yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth y DU i’r negodiadau ffurfiol ar fargen twf Gogledd Cymru a’i hymrwymiad i ystyried cynigion ar gyfer bargen twf i Ganolbarth Cymru.  

Y Gyllideb y DU heddiw yw'r gyntaf o dan y fframwaith cyllidol y cytunwyd arno i reoli'r broses o ddatganoli pwerau treth.

Cafodd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 ei pharatoi gan ddefnyddio'r wybodaeth economaidd o Gyllideb y Gwanwyn y DU, gan gynnwys rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Mae rhagolygon newydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cael effaith ar yr addasiad grant bloc a'n rhagolygon refeniw treth ein hunain, sy'n defnyddio amryw o benderfynyddion economaidd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Bydd Prifysgol Bangor yn craffu yn awr ar sut yr ydym wedi ymgorffori'r wybodaeth newydd hon yn ein rhagolygon treth fel rhan o'i rôl i ddarparu sicrwydd annibynnol bod ein rhagolygon treth yn briodol, a chraffu arnynt. Bydd asesiad y Brifysgol yn cael ei gyhoeddi ynghyd â’n Cyllideb derfynol ar 19 Rhagfyr.

Rydym wedi dewis trywydd gwahanol yng Nghymru, gan droi cefn ar gyni cyllidol i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rhag yr effeithiau mwyaf andwyol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith Cyllideb y DU heddiw ar ein cynigion ni ein hunain, sy'n canolbwyntio ar yr ymrwymiad i Symud Cymru Ymlaen a sicrhau ffyniant i bawb yn y cyfnod anodd ac ansicr hwn.