Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, cyflwynodd Canghellor y Trysorlys ei Gyllideb, a hynny ar adeg pan fo gwasanaethau cyhoeddus yn stryffaglu, ac argyfwng costau byw estynedig yn dal i effeithio ar y tlotaf yn ein cymunedau.
Mae economi'r DU yn parhau i fod yn ddisymud, ac mae'r cynnyrch domestig gros y pen wedi mynd ar i lawr ym mhob un o'r saith chwarter diwethaf – cyfnod digynsail o ddirywiad. Bydd incwm aelwydydd yn is eleni nag yn 2019 ac ni fydd yn gwella i lefel Senedd ddiwethaf San Steffan tan ddiwedd 2025. Nid oes dim a ddywedodd y Canghellor heddiw yn newid y ffaith na fydd incwm wedi codi o gwbl mewn termau real yn ystod cyfnod y Senedd.
Yr adeg hon y llynedd, fe wnaeth y Canghellor gyflwyno "Cyllideb ar gyfer twf", ac eto mae'r economi yn llai nawr nag yr oedd bryd hynny. Ychydig iawn oedd yn y Gyllideb hon a fydd yn darparu'r amodau angenrheidiol i hybu cynhyrchiant a chreu amgylchedd ar gyfer buddsoddi i gefnogi safonau byw a gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £168m yn ychwanegol o gyllid adnoddau yn 2024-25. Ni chafwyd newid yn ein setliad cyfalaf. Mae'r cyllid adnoddau ychwanegol yn deillio o benderfyniadau gwario a wnaed yn Lloegr, ac mae'n ymwneud â chyllid ar gyfer cyflogau'r GIG a Gofal Cymdeithasol i Oedolion o fewn llywodraeth leol, sydd eisoes wedi'i gynnwys yn ein cynlluniau gwariant.
Mae ein setliad ar gyfer 2024-25 yn dal i fod hyd at £700m yn is mewn termau real na'r disgwyl adeg yr Adolygiad o Wariant yn 2021, ac mae ein Cyllideb yn 2024-25 £3bn yn is na phe bai wedi tyfu yn unol â GDP ers 2010. Mae gwerth ein cyllideb gyfalaf gyffredinol ar gyfer 2024-25 hyd at 8% yn llai mewn termau real na'r disgwyl adeg yr Adolygiad o Wariant yn 2021.
Nid oedd dim yn Natganiad Hydref y Canghellor ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac unwaith eto nid yw wedi cydnabod eu pwysigrwydd hanfodol yn ei Gyllideb heddiw. O'u hariannu'n iawn, gall gwasanaethau cyhoeddus helpu i hybu cynhyrchiant, ysgogi twf economaidd, helpu i gael pobl i mewn i waith, a'n cefnogi i gyflawni ein targedau sero net.
Wrth baratoi Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, y cytunwyd arni gan ein Senedd ninnau ddoe, rydym wedi gwneud penderfyniadau anodd i flaenoriaethu cyllid ar gyfer y gwasanaethau hynny sydd bwysicaf i bobl, gan gynnwys GIG Cymru. Mewn cyferbyniad â hynny, mae'r Canghellor wedi dewis peidio â chydnabod y pwysau difrifol sy'n wynebu ysgolion, ysbytai a gwasanaethau cyhoeddus, gan eu gadael yn agored i doriadau mewn termau real, ac mae'r gwariant ar y GIG yn Lloegr yn cynyddu 1% yn unig mewn termau arian parod.
Cyn y Gyllideb hon, dywedodd y Canghellor mai ei flaenoriaeth oedd helpu pobl yn sgil pwysau costau byw. Pe bai o ddifrif am hynny, byddai wedi cefnogi’r galwadau a wnaed ers tro gan Sefydliad Joseph Rowntree ac Ymddiriedolaeth Trussell i roi Gwarant Hanfodion ar waith, i sicrhau bod y rhai sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn gallu talu eu costau hanfodol. Yn ogystal, gallai fod wedi cynyddu cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol a chyllid ar gyfer Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai.
Yn hytrach, mae wedi dewis torri 2 geiniog o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogeion. Nid yw’r cam hwn yn targedu’r rhai â’r angen mwyaf; mae’r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus yn nodi y bydd bron i hanner y budd yn mynd i’r 20% o aelwydydd cyfoethocaf, a dim ond 3% o’r budd i’r 20% o aelwydydd tlotaf. Hyd yn oed gyda’r toriad i Yswiriant Gwladol a gyhoeddwyd yn yr hydref, nid yw’r toriadau hyn ond yn gwrthdroi hanner y cynnydd mewn trethi personol a wnaed gan y Llywodraeth hon yn San Steffan.
Ar wahân i ambell i gyhoeddiad bach, nid oedd dim yn y Gyllideb hon i Gymru. Mae ein blaenoriaethau craidd sy'n galw ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi yn niogelwch tomenni glo ac ailddosbarthu HS2 wedi cael eu hanwybyddu unwaith eto. Er gwaethaf y cam unigryw a gymerwyd gan bob plaid yn Senedd Cymru yr wythnos diwethaf i gyflwyno cynnig ar y cyd a phleidleisio'n unfrydol i alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd cyllidebol i Gymru, mae Llywodraeth y DU wedi methu â gweithredu ar y cais syml a rhesymol hwn yn ogystal.
Mae'n destun pryder mawr bod y Canghellor wedi parhau i fwrw ymlaen â thoriadau treth ar draul buddsoddiad cyhoeddus mewn seilwaith, rhywbeth y mae taer angen amdano i gefnogi gwasanaethau allweddol ac ysgogi twf economaidd. Mae mynd yn ôl at sefyllfa o gyni fel hyn yn dangos methiant llwyr i ystyried egwyddorion rheoli cyllid cyhoeddus yn gyfrifol ac yn golygu y bydd angen toriadau anymarferol i wariant, gan storio problemau ar gyfer y dyfodol.
Rydym ar ddechrau blwyddyn olaf ein setliad amlflwyddyn presennol, heb unrhyw arwydd o sut olwg fydd ar ein cyllideb y tu hwnt i fis Mawrth y flwyddyn nesaf. Nid oes gennym unrhyw eglurder ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer adolygiad o wariant i helpu i flaengynllunio ein cyllideb. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n sefydliadau partner i helpu i gynllunio'r gyllideb, a hynny ar gyfer blwyddyn sy'n debygol o fod yn flwyddyn o ansicrwydd cynyddol.
Byddwn yn ystyried yn ofalus oblygiadau Cyllideb y DU a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer ein cynlluniau gwariant a threthiant. Ein blaenoriaethau o hyd yw gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd, a diogelu'r bobl a'r cymunedau mwyaf agored i niwed ledled Cymru.