Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Heddiw, mae Canghellor y Trysorlys wedi cyflwyno Cyllideb hirddisgwyliedig y DU ar adeg cwbl dyngedfennol i’r economi wrth inni ddechrau cymryd y camau cyntaf sydd eu hangen i ddechrau’r adferiad. Mae’r Datganiad hwn yn rhoi’r diweddaraf i’r Aelodau ynghylch y goblygiadau uniongyrchol i Gymru.
Yn dilyn Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd, mae Cyllideb heddiw yn darparu cyllid ychwanegol i Gymru ar ffurf £735m o refeniw, bron yn gyfan gwbl o ganlyniad i fesurau Covid yn Lloegr. Ar sail tebyg at ei debyg, mae cyllideb graidd Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd yn 2021-22 yn dal i fod 4% yn is y pen mewn termau real nag yr oedd yn 2010-11. Er mai adferiad a fyddai’n cael ei arwain gan fuddsoddiad oedd bwriad y Canghellor methodd â darparu’r ysgogiad cyfalaf ychwanegol oedd ei angen i osod y sylfeini, ac ni chafwyd yr un geiniog yn ychwanegol ar gyfer gwariant cyfalaf yng Nghymru y flwyddyn nesaf.
Mae'r rhagolygon ar gyfer yr economi, er bod y sefyllfa dal yn heriol iawn, yn well nag yr oeddent adeg cyhoeddi rhagolwg diwethaf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ym mis Tachwedd. Serch hynny, erbyn 2026, disgwylir i lefel cynnyrch domestig gros (GDP) fod tua 3.0% yn llai na'r lefel a ddisgwyliwyd cyn y pandemig – mae hyn yn arwydd o gost economaidd y pandemig a’r creithiau y bydd yn eu gadael yn y tymor hir. Bydd grwpiau difreintiedig a phobl ifanc yn arbennig yn cael eu cosbi wrth iddynt geisio sicrhau eu lle yn y farchnad lafur.
Mae'n destun pryder mawr fod disgwyl i gyfradd diweithdra'r DU gynyddu o 5.1% i 6.5% eleni. Rwy’n croesawu'r camau a gymerwyd gan y Canghellor i ymateb i'n galwadau i ymestyn Cynlluniau Cymorth y DU gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws a'r Cynllun Cymhorthdal Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod y Coronafeirws. Fodd bynnag, mae'n hanfodol mai fesul dipyn, a dim ond pan fydd yr adferiad wedi hen gychwyn ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, y caiff y cynlluniau hyn eu dileu.
Er bod y cyhoeddiad i gymell busnesau i symud buddsoddiad a gynlluniwyd ar gyfer y dyfodol ymlaen ac i gyflogi mwy o brentisiaid i'w groesawu hefyd, mae’n destun pryder imi nad oes digon yn cael ei wneud i gymell busnesau'n fwy cyffredinol i gynyddu eu gweithluoedd. Byddai gostyngiad dros dro yng Nghyfraniad Yswiriant Gwladol cyflogwyr wedi eu cymell i wneud hynny ac, yn hyn o beth, collwyd cyfle gyda’r Gyllideb heddiw.
Mae rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dangos y bydd incwm gwario aelwydydd, ar ôl ystyried chwyddiant, yn is eleni na'r llynedd. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi nodi mai rhewi'r lwfans personol yw un o'r ffyrdd lleiaf blaengar o godi treth incwm. Bydd yn llusgo llawer o weithwyr sy’n ennill cyflogau is i mewn i’r system treth incwm dros y blynyddoedd nesaf ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y rhai sy'n ennill y cyflogau uchaf.
Cafodd y cynnydd dros dro mewn Credyd Cynhwysol ei ymestyn. Ond roedd angen llawer mwy na hynny o’r Gyllideb heddiw ar y rheini ar incwm isel sy’n ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Rhywbeth dros dro yw’r estyniad ac felly mae'n creu ansicrwydd aruthrol i aelwydydd yr effeithir arnynt o ran beth fydd eu tynged pan na gynigir y taliadau cynnydd hyn mwyach. Mesur allweddol arall na gafwyd yn y Gyllideb heddiw oedd cynyddu tâl salwch statudol i helpu i reoli achosion pellach o’r feirws, yn enwedig o ystyried y risg a achosir gan amrywiolynnau newydd.
Mae'n anffodus bod y Canghellor wedi cymryd tan yn awr i gadarnhau ei gynlluniau ar gyfer ardrethi annomestig. Mae hynny’n golygu ein bod wedi bod yn ansicr ynghylch lefel y cyllid y gallem ddisgwyl ei gael. Mae'r camau hyn wedi bod yn hollbwysig o ran diogelu swyddi a bywoliaeth pobl ac nid wyf yn credu bod y Canghellor wedi mynd yn ddigon pell. Gallaf gadarnhau fy mod yn bwriadu estyn y cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer eiddo sydd â gwerth ardrethol o hyd at £500,000 yng Nghymru am gyfnod o 12 mis. Bydd busnesau yn y sector hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o fwy na £500,000 hefyd yn cael rhyddhad ardrethi o 100% ar gyfer 2021-22. . Mae hyn ar ben y £200m rwyf wedi'i neilltuo yn y gronfa wrth gefn yn y Gyllideb Derfynol ar gyfer cymorth busnes ychwanegol y flwyddyn nesaf, gan adeiladu ar y £2bn a rhagor a ddarparwyd eleni fel rhan o'r pecyn cymorth busnes mwyaf hael yn unman yn y DU.
Rwy'n cydnabod bod llawer o brynwyr tai yng Nghymru, a oedd yn gobeithio elwa yn ystod cyfnod y gostyngiad dros dro yn y Dreth Trafodiadau Tir, wedi wynebu oedi wrth brynu eu cartrefi. Er mwyn rhoi’r amser ychwanegol hwnnw i brynwyr tai allu cwblhau’r broses, rwy'n cyhoeddi y byddaf yn ymestyn cyfnod gostyngiad dros dro y Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru tan 30 Mehefin.
Rydyn ni’n barod i weithio gyda Llywodraeth y DU i ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno porthladdoedd rhydd yng Nghymru, ar yr amod eu bod yn gyson â'n gwerthoedd a'n blaenoriaethau ac yn cael yr un manteision a chyllid â'r rhai yn Lloegr. Mae'r penderfyniad i gyhoeddi'r porthladdoedd rhydd yn Lloegr cyn cwblhau’r trefniadau gyda’r gwledydd datganoledig yn golygu bod risg sylweddol y gallai’r porthladdoedd hyn olygu bod gweithgarwch economaidd yn symud o Gymru i Loegr.
Mae dull ymosodol Llywodraeth y DU o fynd ati i wneud trefniadau yn lle Cronfeydd Strwythurol yr UE drwy ddyrannu cyllid yn uniongyrchol yng Nghymru ar faterion datganoledig drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU (cynllun peilot y Gronfa Ffyniant Gyffredin) a’r Gronfa Codi’r Gwastad (Levelling-up fund) yn gwbl annerbyniol. Mae'n mynnu gwneud penderfyniadau ar faterion datganoledig, a hynny heb fod yn atebol i Senedd Cymru ar ran pobl Cymru. Nid yw wedi cysylltu â ni o gwbl i drafod y prosbectysau a gyhoeddwyd dair wythnos yn unig cyn i’r cronfeydd hyn ddechrau, ac mae'n tanseilio blynyddoedd o waith yr ydym wedi'i wneud gyda rhanddeiliaid i ddatblygu trefniadau buddsoddi rhanbarthol newydd. Yn amlwg, ni fydd pobl Cymru ond yn elwa ar gyfran fach o'r cyllid y byddai Cymru wedi'i gael o gyllid yr UE, gan ddangos eto fethiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi'n ddigonol yng Nghymru.
Er fy mod yn croesawu'r gefnogaeth yn y Gyllideb ar gyfer y Hyb Hydrogen yng Nghaergybi a'r Canolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd ar y ffin rhwng Castell-nedd Port Talbot a Phowys, nid yw’r Gyllideb heddiw yn mynd yn ddigon pell i gydnabod ein blaenoriaethau, gan gynnwys y gwaith tymor hir o adfer tomenni glo a materion eraill ôl-ddiwydiannol. Doedd dim gair ychwaith am gyllid ar gyfer y seilwaith a’r gweithgarwch parhaus y bydd ei angen ar ffin Cymru yn dilyn ein hymadawiad â’r UE.
Ni wnaeth y Canghellor ddim heddiw i leddfu fy mhryderon ynglŷn â’i fwriadau hirdymor, yn ystod y tymor Seneddol hwn yn San Steffan, o ran mynd ati i ailsefydlogi’r economi ac i ddarparu'r cyllid angenrheidiol i helpu ein gwasanaethau cyhoeddus i adfer yn sgil yr argyfwng. Rhaid i Lywodraeth y DU wneud mwy o hyd i ddarparu pecyn cynhwysfawr o fesurau gweithredol ar gyfer y farchnad lafur, gan gynnwys buddsoddiad mwy uchelgeisiol mewn hyfforddiant a sgiliau, sicrhau bod mesurau treth yn rhai blaengar gan gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, a manteisio ar gyfraddau llog isel er mwyn bod yn fwy uchelgeisiol wrth wario ar seilwaith cyfalaf i ysgogi adferiad. Drwy dyfu'r economi y byddwn yn y sefyllfa orau i reoli'r ddyled ariannol. Byddaf yn parhau i ddefnyddio'r dullau sydd ar gael imi i fynd ati yn y modd hwn i sicrhau Cymru sy’n fwy ffyniannus, yn wyrddach ac yn gyfartal.