Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, mae Canghellor y Trysorlys wedi cyflwyno ei Gyllideb Wanwyn olaf, a oedd yn cynnwys gwerth £200m o gyllid ychwanegol i Gymru dros gyfnod o bedair blynedd.
Cyn cyhoeddi'r Gyllideb heddiw, ysgrifennais at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i fynegi'r ffaith fy mod yn parhau i bryderu ynghylch bwriad Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â gwerth £3.5bn o doriadau i wariant cyhoeddus yn 2019-20.
Er bod y Gyllideb heddiw'n cynnig rhywfaint o seibiant oddi wrth y toriadau niferus i'n cyllideb a gafwyd dros y blynyddoedd diwethaf, mae'n bosibl y bydd hyn yn cael ei wrthbwyso gan y toriadau sydd i ddod, a allai olygu gostyngiad pellach o £175m yn y cyllid sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru mewn blwyddyn unigol.
A ninnau mewn cyfnod o ansicrwydd, rydym wedi gofyn dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU ddarparu'r ysgogiad cyllidol sydd ei angen i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus a buddsoddi rhagor er mwyn gwella hyder economaidd.
Mae Cyllideb y Gwanwyn heddiw yn cynnwys £149m o gyllid refeniw ychwanegol rhwng 2017-18 a 2019-20 a £52m o gyllid cyfalaf ychwanegol i Gymru dros y pedair blynedd hyd at 2020-21.
Bydd y dyraniadau ychwanegol hyn yn ein helpu i ddiwallu ein blaenoriaethau. Fodd bynnag, nid ydynt yn gwneud llawer i liniaru'r pwysau ar ein cyllideb yn y tymor hir. Bydd Cyllideb Cymru 8% yn llai mewn termau real yn 2019-20 nag ydoedd yn 2010. Mae hynny cyn ystyried unrhyw doriadau pellach yn 2019-20. Cadarnhaodd y Canghellor heddiw na fydd y cyni cyllidol yn ysgafnu yn y dyfodol agos.
Ym mhob rhan o'r DU, hyd at diwedd tymor y senedd hon, rhagwelir y bydd gwariant y pen ar wasanaethau cyhoeddus dydd-i-ddydd, wedi'i addasu yn ôl chwyddiant, yn gostwng tua 4%. Mae hyn yn ychwanegol at y toriad o 13% a gafwyd ers 2009-10.
Mae'r rhagolwg economaidd yn parhau i awgrymu bod cyfnod heriol o'n blaenau, ac mae'n golygu sawl blwyddyn arall o gynnydd bach iawn mewn enillion i'r mwyafrif o weithwyr. Disgwylir y bydd cynnyrch domestig gros y pen yn cynyddu ar gyfradd flynyddol gyfartalog o tua 1% dros y blynyddoedd nesaf. Mae hynny o gymharu â chyfartaledd o tua 2.5% cyn yr argyfwng.
Mae'n golygu bod y duedd o ganlyniadau gwael iawn ers yr argyfwng ariannol ac ers i Lywodraeth y DU gyflwyno mesurau cyni cyllidol yn parhau. Cynyddodd cynnyrch domestig gros ar gyfradd flynyddol gyfartalog o 0.2% yn unig rhwng 2007 a 2016.
Nid yw rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o leihad yn y swm y mae'r llywodraeth yn ei fenthyca, o gymharu â'r swm adeg Datganiad yr Hydref, yn adlewyrchu unrhyw welliant sylweddol o ran rhagolygon economaidd y DU. Yn hytrach, mae'n ganlyniad i ffactorau untro ac effeithiau amseru.
Ar y cyfan, nid yw Cyllideb y Gwanwyn yn darparu llawer ar gyfer pobl Cymru.
Mae’r ffigurau twf siomedig yn adlewyrchu polisi cyni parhaus Llywodraeth y DU a’i effaith niweidiol ar yr economi. Roedd cyfle heddiw i newid cyfeiriad a rhoi’r buddsoddiad y mae gwir ei angen yn economi’r DU a Chymru, ond unwaith eto mae’r cyfle wedi’i golli. Ar adeg ansicr, dyma’r amser i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn ein heconomi er mwyn sicrhau cadernid economaidd.
Yng Nghymru, rydym wedi ceisio amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, gymaint â phosibl, rhag effaith cyni. Mae ein dull gweithredu o ran cyllido'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol wedi bod yn gytbwys. Er gwaethaf y toriadau i'n cyllideb, mae gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru'n parhau i fod 6% yn uwch nag y mae yn Lloegr. Rwy’n falch bod y Canghellor yn dilyn ein hesiampl ac yn blaenoriaethu cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol.
Rydym wedi gwrando ar bryderon busnesau bach a chymryd camau gweithredu i gefnogi’r rhai y mae ailbrisiad annibynnol Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi effeithio arnynt. Rydym wedi sefydlu dau gynllun pwrpasol - y cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol a chynllun rhyddhad ardrethi’r stryd fawr - i gefnogi trethdalwyr ledled Cymru o Ebrill 1, 2017. Mae hyn yn ychwanegol at ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach - cynllun sy’n werth £100m. O ganlyniad, caiff tri chwarter o fusnesau bach gymorth i dalu eu biliau yn 2017-18.
Rydym wedi buddsoddi £20m yn y cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol a chynllun rhyddhad ardrethi’r stryd fawr; pe baem yn atgynhyrchu’r cymorth ychwanegol ar gyfer ardrethi busnes a gyhoeddwyd gan y Canghellor heddiw, byddai’n dod i ychydig dros £12m – byddai hynny’n cyfateb i ostyngiad o bron £8m ar gyfer busnesau bach yng Nghymru. Fodd bynnag, byddwn yn astudio’r cynlluniau ar gyfer Lloegr gyda diddordeb pan welwn y manylion.
O ran ein huchelgeisiau ehangach i Gymru, rydym wedi dweud ers tro fod bargen ddinesig Rhanbarth Bae Abertawe yn barod i gael ei llofnodi. Rydym yn croesawu’r datganiad yn y Gyllideb bod cynnydd da yn cael ei wneud o hyd, ond mae hi bellach yn bryd i Lywodraeth y DU gyflawni ei hymrwymiad a phennu manylion terfynol y fargen.
Rhaid i Lywodraeth y DU gadarnhau hefyd y caiff y gwaith o drydaneiddio prif linell reilffordd y Great Western i Abertawe ei gyflawni yn unol â’r addewid ar ôl i’r llinell i Gaerdydd gael ei thrydaneiddio.
Bydd Cabinet Llywodraeth Cymru yn mynd ati nawr i ystyried y dyraniadau ychwanegol a amlinellwyd gan y Canghellor. Bydd yn gwneud hynny yng nghyd-destun ein blaenoriaethau - a nodwyd yn Symud Cymru Ymlaen - ac ochr yn ochr â manylion llawn Cyllideb y Gwanwyn heddiw.