Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Heddiw, cyflwynwyd Cyllideb y DU gan Ganghellor y Trysorlys, Rachel Reeves – y Canghellor benywaidd cyntaf yn hanes Prydain. Dyma’r camau cyntaf tuag at drwsio'r difrod a achoswyd i'n gwasanaethau cyhoeddus a'n cymunedau dros gyfnod o 14 blynedd, gan Lywodraethau blaenorol y DU.
Bydd y mesurau a gyhoeddwyd gan y Canghellor, gan gynnwys y rheolau cyllidol a'r polisïau treth newydd, yn dechrau adfer twf yn ein heconomi, yn darparu sylfaen fwy sefydlog ar gyfer cyllid cyhoeddus ac yn ailfuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn cydnabod na all y sefyllfa y mae Llywodraeth newydd y DU wedi'i hetifeddu gael ei gwrthdroi mewn un gyllideb yn unig. Bydd yn cymryd amser i gyllid cyhoeddus adfer. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi nodi, yn y tymor hwy, y dylai buddsoddiad ychwanegol, diwygio’r system gynllunio a darparu mwy o sefydlogrwydd helpu i hybu twf.
Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £774m yn ychwanegol o gyllid adnoddau, a fydd yn cynnwys cost cytundebau cyflog y sector cyhoeddus y cytunwyd arnynt eisoes yn y flwyddyn bresennol, a £49m o gyllid cyfalaf ychwanegol yn 2024-25. Bydd cynnydd pellach o £695m yn y cyllid adnoddau a £235m yn y cyllid cyfalaf yn 2025-26. Mae ein setliad cyffredinol ar gyfer 2025-26 yn fwy nag £1bn yn uwch nag y byddai wedi bod o dan Lywodraeth flaenorol y DU. Gyda'i gilydd, bydd ein setliad ar gyfer 2024-25 a 2025-26 yn cynyddu tua £1.7bn o'i gymharu â'r hyn y byddai wedi bod.
Mae'r Canghellor wedi gwrando ar yr hyn sydd ei angen ar Gymru. Mae hi wedi cydnabod bygythiad posibl tomenni glo segur i ddiogelwch a bydd yn darparu £25m yn 2025-26, ochr yn ochr â'r buddsoddiad parhaus gan Lywodraeth Cymru. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU cyn ail gam yr Adolygiad o Wariant, i sicrhau bod anghenion Cymru ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn cael eu hystyried yn llawn ac i helpu i wneud y tomenni hyn yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Rwyf hefyd yn croesawu cyhoeddiad y Canghellor y bydd Llywodraeth y DU yn trosglwyddo'r gronfa fuddsoddi wrth gefn yng Nghynllun Pensiwn y Glowyr i Ymddiriedolwyr y cynllun. Mae hwn yn fater ag arwyddocâd penodol i lawer o gymunedau yng Nghymru.
Mae’r Gyllideb heddiw yn fuddsoddiad i’w groesawu yng Nghymru – yn ei phobl, ei chymunedau, ei busnesau lleol a’i gwasanaethau cyhoeddus. Byddwn yn parhau â’n trafodaethau â Llywodraeth y DU ynglŷn â chyllid teg ar gyfer y rheilffyrdd a hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol wrth inni agosáu at ail gam Adolygiad o Wariant y DU yn y gwanwyn.
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau heddiw y trefniadau trosiannol ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Byddwn am ddatblygu model ôl-2026 ar gyfer y tymor hwy ar y cyd â Llywodraeth y DU a’n partneriaid yng Nghymru. Model sy’n dychwelyd ymreolaeth dros benderfyniadau i Lywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi mewn ysgogwyr twf strategol fydd hwn.
Cafodd newidiadau i gyfraddau preswyl uwch treth dir y dreth stamp (SDLT) yn Lloegr a Gogledd Iwerddon eu cyhoeddi gan y Canghellor hefyd. Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried y sefyllfa o ran y dreth trafodiadau tir yng nghyd-destun y Gyllideb Ddrafft sydd ar ddod.
Bydd y Gyllideb yn cael ei chyhoeddi ar 10 Rhagfyr. Bydd yn canolbwyntio ar ein blaenoriaethau ni, gan sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i gyflawni i Gymru.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd yr aelodau yn awyddus imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.