Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Heddiw, cyflwynodd Canghellor y Trysorlys Gylch Gwario Llywodraeth y DU yn nodi ei gynlluniau gwario ar gyfer 2020-21 yn erbyn y cefndir o ansicrwydd cynyddol ynghylch Brexit a thystiolaeth bod cyfnod o ddirwasgiad ar fin dechrau yn y DU. 

Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 14 Awst yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru i gynlluniau Llywodraeth y DU i gynnal Cylch Gwario un flwyddyn.

Mae cyhoeddiad heddiw yn darparu, am y tro cyntaf, fanylion ein cyllideb refeniw ar gyfer 2020-21 a fydd yn cynyddu £593m yn uwch na llinell sylfaen 2019-20. Mae hyn yn gynnydd o 2.3% mewn termau real.  Mae'r Cylch Gwario hefyd yn cynnwys cynnydd o 318m i'n cyllideb cyfalaf sydd eisoes wedi'i phennu ar gyfer 2020-21. Bydd ein cyllideb cyfalaf 2.4% yn uwch mewn termau real nag yn 2019-20. 

Ar sail cyhoeddiad heddiw bydd Cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2020-21 2% yn is nag yn 2010-11. Felly, nid yw cyllid ychwanegol heddiw hyd yn oed yn troi ein pŵer gwario ni yn ôl i lefelau degawd yn ôl.

Rydym wedi galw'n gyson am derfyn ar bolisi cyni Llywodraeth y DU ac am gynnydd yn y buddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Er bod cyhoeddiad heddiw'n dangos rhai arwyddion o lacio ar y pwrs cyhoeddus yn y tymor byr, nid yw yn gwneud iawn am bron degawd o doriadau. Nid yw ychwaith yn dod yn agos at ddarparu'r sylfaen gynaliadwy hirdymor y mae ar ein gwasanaethau cyhoeddus ei hangen. Nid ydym yn glir o hyd ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU am Gyllideb yr Hydref.

Mae Llywodraeth y DU yn ymddwyn yn anghyfrifol trwy gyhoeddi cynlluniau gwario ar yr adeg hon yn seiliedig ar ragolygon mis Mawrth a pholisi cyllidol Gweinyddiaeth flaenorol. Mae'r data arolygon diweddaraf yn awgrymu y gallai economi’r DU fod mewn dirwasgiad eisoes. Mae economi lai yn golygu refeniw trethi is ac yn ei gwneud yn debygol y bydd Llywodraeth y DU yn troi yn ôl yn gyflym i bolisi cyni.

Yn wir, pe bai'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cynhyrchu'r rhagolygon economaidd a chyllidol amserol sy'n sail i ddatganiad o'r fath fel rheol, mae'n bosibl mai rhith llwyr fyddai'r  hyblygrwydd y mae'r Canghellor wedi sôn amdano heddiw. Bydd cyhoeddiadau gwario heddiw'n ychwanegu ymhellach at fenthyca ac mae'n bosibl iawn bod rheolau cyllidol y Llywodraeth wedi'u torri. Pen draw hyn yw ei gwneud yn fwy tebygol y bydd cylch arall o gyni yn y dyfodol agos.

Ni allwn fod yn ffyddiog y bydd cyhoeddiadau gwario heddiw'n gynaliadwy. Yn sicr, ni allwn ddibynnu ar y setliadau tymor hir honedig ar gyfer y GIG ac ysgolion, y pennir y goblygiadau ariannu ar eu cyfer mewn gwirionedd ar ôl 2020-21 fel rhan o'r Adolygiad Cynhwysfawr nesaf o Wariant. Y gwir amdani mai bwriad y cyhoeddiad heddiw yw symud y pwyslais i ffwrdd oddi wrth reolaeth Llywodraeth y DU ar Brexit gyfan gwbl gythryblus.

Heddiw Cyhoeddodd y Canghellor swm pellach o £2bn yn 2020-21 ar gyfer cyflawni Brexit. Buom yn glir nad oes modd cyflawni'r cymorth i fynd i'r afael ag elfen hyd yn oed o effaith Brexit heb gynnydd llawer mwy sylweddol mewn gwariant cyhoeddus. Bydd angen cyllid a hyblygrwydd ychwanegol sylweddol er mwyn inni allu ymateb mewn ffordd ystyrlon i her Brexit. Pwysleisiais hyn wrth Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yng Nghyfarfod Pedairochrog y Gweinidogion Cyllid yr wythnos diwethaf. Nid yw'r atebion yr ydym wedi'u cael oddi wrth Lywodraeth y DU yn cynnig unrhyw sicrwydd y byddai'r cyllid y mae arnom ei angen ar gael.

Mae'n glir bod Prif Weinidog y DU yn barod i fynd â'r DU i ymyl y dibyn gyda Brexit heb gytundeb. Byddai gan hyn effaith drychinebus ar Gymru. Yn ôl yr holl dystiolaeth sydd ar gael bydd ymadael â'r UE heb gytundeb yn arwain at arafwch economaidd yn y DU a bydd dirwasgiad hir yn debygol. O dan yr amgylchiadau hynny gwyddom fod economi Cymru'n debygol o fod rhyw 10 y cant yn llai yn y tymor hir. Câi hynny ei adlewyrchu mewn incymau gwirioneddol a fyddai, yn ôl ffigurau heddiw, hyd at £2,000 yr un yn is i bob person nag y byddent fel arall.

Rwyf yn hynod o bryderus bod y Canghellor yn dawedog o ran cyllid i ddisodli Cyllid yr UE i gefnogi ein cymunedau a byd busnes yng Nghymru a hynny ar adeg pan fo llai o 60 diwrnod i fynd tan y diwrnod ymadael. Nid yw'n gallu cynnig unrhyw fath o sicrwydd y bydd Llywodraeth y DU yn cadw at addewidion y Prif Weinidog na fyddwn yn colli ceiniog o'r hyn y byddem wedi disgwyl ei gael o fewn yr UE ac y byddwn, yn unol â'r setliadau datganoli sefydledig, yn cael ymreolaeth i ddatblygu a chyflawni trefniadau i ddilyn yn lle rhaglenni cyllido'r UE. Egwyddorion sydd â chefnogaeth lwyr y Cynulliad yw'r rhain.

Er gwaethaf yr ansicrwydd digynsail, rwyf yn barod yn awr i gyflwyno ein cynlluniau a chyhoeddi Cyllideb Llywodraeth Cymru yn gynt er mwyn rhoi cymaint o sicrwydd â phosibl i'n partneriaid a rhanddeiliaid. Byddaf yn cydweithio â'r Pwyllgorau Busnes a Chyllid cyn gynted â phosibl.

Bydd Cyllideb Llywodraeth Cymru'n seiliedig ar anghenion pobl Cymru a byddwn yn anelu at ddarparu'r setliad tecaf posibl ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae'r ymrwymiad cyson hwn yn cael ei gadarnhau gan y ffaith bod gwariant ar iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru'n parhau i fod dipyn yn uwch nag yn Lloegr a bod toriadau i awdurdodau lleol yn Lloegr wedi bod ddwywaith mor ddifrifol ag yng Nghymru.

Byddaf yn darparu Datganiad Llafar ar 17 Medi ar gylch gwario heddiw a'r camau yr ydym fel llywodraeth yn eu cymryd i ymateb i ddull gweithredu anwadal Llywodraeth y DU o ran cyllid cyhoeddus.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i Aelodau'r Cynulliad. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd o'r toriad, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.