Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae’r datganiad hwn yn amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i ymholiad Comisiynydd y Gymraeg i’r Gymraeg mewn gofal sylfaenol, fel y gwelir yn ei hadroddiad Fy Iaith, Fy Iechyd. Mae copi llawn o’r adroddiad a’i hargymhellion ar gael yn: 

http://www.comisiynyddygymraeg.org/Cymraeg/Rhestr Cyhoeddiadau/Adroddiad Llawn Ymholiad Iechyd.pdf

Rwy’n croesawu ymholiad Comisiynydd y Gymraeg a’i hargymhellion i gryfhau rôl a’r defnydd o’r Gymraeg yn y GIG, yn enwedig mewn gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel sy’n ymateb i anghenion pobl, gan gynnwys iaith.

Mae ‘Mwy na geiriau…’, yn amlinellu fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Mae bellach yn ei ail flwyddyn, ac mae dau gynllun gweithredu yn sail iddo. Mae’r fframwaith yn cydnabod mai dim ond drwy gyfrwng y Gymraeg y gall rhai pobl gyfathrebu a chyfranogi yn eu gofal fel partneriaid cyfartal. Mae’n gosod targed y dylai fod dewis i gleifion agored i niwed, yn enwedig plant a phobl hŷn, gael triniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, heb fod angen iddynt ofyn, drwy ymrwymiad y cynnig rhagweithiol.

Mae adroddiad Comisiynydd y Gymraeg yn ategu ein strategaeth drwy lywio ein camau gweithredu at y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ymateb yn gadarnhaol i argymhellion Comisiynydd y Gymraeg a bydd yn monitro sut maent yn cael eu rhoi ar waith drwy gynllun mewnol manwl. Bydd rhai o’r argymhellion yn cael eu rhoi ar waith mewn cyfnod cymharol fyr, ond gallai gymryd mwy o amser gydag eraill.

Bydd y rhai sydd angen ymateb tymor hir yn cael eu cynnwys yn y gwaith o ddatblygu’r strategaeth i olynu ‘Mwy na geiriau…’ a fydd yn cychwyn ym mis Ebrill 2016.

Parch ac urddas (argymhellion chwech a saith)

Gwraidd yr holl ddadleuon dros wella’r defnydd o’r Gymraeg mewn gofal sylfaenol yw diogelwch cleifion, parch ac urddas. Mae hyn yn arbennig o bwysig i blant a phobl hŷn Cymraeg iaith gyntaf. Os na fydd hyn yn digwydd, gall fod effaith andwyol ar ganlyniadau cleifion oherwydd ei bod yn bosibl mai dim ond yn eu hiaith gyntaf y gall cleifion agored i niwed fynegi eu hunain yn llawn. Dyma oedd y rhesymeg dros ddatblygu ‘Mwy na geiriau…’, a’i ymrwymiad i ddatblygu a deall proses y cynnig rhagweithiol.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ymgorffori’r egwyddor ganolog bod yn rhaid i wasanaethau ystyried materion y Gymraeg wrth lunio unrhyw bolisi – fel y nodir yn adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol. Mae ein prosesau llunio polisi eisoes yn defnyddio asesiadau effaith i ystyried anghenion siaradwyr Cymraeg ac asesu’r effaith arnynt. Byddwn yn atgoffa’n rheolaidd drwy Gylchlythyrau Iechyd y Prif Swyddog Meddygol fod parchu dewis iaith yn fesur ansawdd y mae’n rhaid ei gyflawni.

Mae defnydd o’r Gymraeg yn rhan annatod o fframwaith cynllunio Llywodraeth Cymru ar gyfer GIG Cymru a’r cynllun gofal sylfaenol rydym newydd ei gyhoeddi ar gyfer Cymru, sy’n hybu datblygu clystyrau gofal sylfaenol lleol. Bydd y 64 clwstwr yn tynnu ynghyd yr holl sefydliadau a gwasanaethau iechyd mewn cymunedau lleol i helpu i nodi a diwallu anghenion poblogaethau lleol, gan gynnwys eu hanghenion iaith Gymraeg.

Bydd angen i glystyrau ystyried anghenion iaith eu poblogaethau lleol drwy gytuno ar eu cynlluniau, gan gynnwys cyfeirio at lle mae gwasanaethau ar gael yn Gymraeg – gallai hyn fod at wasanaeth cyfagos, ond nid yr agosaf o reidrwydd, a all ddiwallu angen iaith yr unigolyn. Bydd gwahanol faterion yn codi mewn gwahanol rannau o Gymru  yn ôl ffactorau daearyddol a ffactorau demograffeg eraill. Dyna’r rheswm y gall nyrsys practis a derbynyddion chwarae rôl mor allweddol o ran helpu i ddiwallu anghenion iaith pobl.    

Er enghraifft, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, mae therapydd iaith a lleferydd wedi dylunio pecyn cymorth i therapyddion eraill i’w helpu i asesu plant Cymraeg/dwyieithog o dan dair oed. Bellach bydd gan staff y sgiliau i gyflawni asesiad o faterion cynnar sy’n dod i’r amlwg ym maes geirfa.


Ansawdd (argymhellion wyth, naw a 10)

Y gallu i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg yw un o elfennau allweddol darparu gwasanaeth o ansawdd, yn enwedig ar gyfer grwpiau agored i niwed sy’n ei chael yn haws mynegi eu hunain yn eu hiaith gyntaf.

Mae ‘Mwy na geiriau…’ yn sicrhau bod y sector gofal sylfaenol yn deall dewis iaith a’r cynnig rhagweithiol drwy roi arweiniad i bob sector yn y GIG ar yr hyn sydd ei angen. Er mwyn cryfhau hyn, byddwn yn creu pecyn hyfforddi i godi ymwybyddiaeth o anghenion iaith cleifion erbyn mis Mawrth 2015.  Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cydweithio gyda chyrff proffesiynol i gynllunio sut gellir darparu gwasanaethau Cymraeg.

Bydd ymgyrch gyhoeddusrwydd yn cael ei lansio ar y cynnig rhagweithiol erbyn mis Mawrth 2016.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadarnhau’r diffiniad o iaith fel angen, fel sydd wedi’i nodi yn ‘Mwy na geiriau…’, gan egluro na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Wrth ddatblygu’r strategaeth i olynu ‘Mwy na geiriau…’, byddwn yn ymchwilio i ehangu’r diffiniad hwn ac asesu sut gellid cyflwyno hyn i’r holl sectorau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol erbyn diwedd 2016.  

Erbyn mis Mawrth 2015, byddwn yn cyhoeddi ymchwil i brofiad cleifion ar gyfer darparwyr gofal sylfaenol fel rhan o’r pecyn hyfforddi a fydd hefyd yn cynnwys hanesion cleifion. Byddwn yn sicrhau bod staff ar draws y GIG yn ymwybodol o’r cysylltiad rhwng yr iaith ac ansawdd gofal fel rhan o ddatblygu’r strategaeth i olynu ‘Mwy na geiriau…’ erbyn mis Rhagfyr 2016.

Byddwn hefyd yn ceisio adeiladu ar enghreifftiau o arfer da, fel y Prif Swyddog Deintyddol a’i dîm sy’n gweithio’n agos gyda’r Gymdeithas Ddeintyddol, sef gymdeithas weithgar a sefydlwyd ym 1991 o fwy na 60 o ddeintyddion yn gweithio yng Nghymru.


Y cynnig rhagweithiol (argymhellion 13, 14 a 15)

Mae Llywodraeth Cymru yn glir bod yn rhaid adlewyrchu’r cynnig rhagweithiol wrth ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae gennym broses fonitro y byddwn yn adrodd arni drwy adroddiad blynyddol ‘Mwy na geiriau…’.

Am y tro cyntaf, roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2014-15 yn cynnwys dau gwestiwn i siaradwyr Cymraeg am eu defnydd o’r Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol lleol – “Ydy hi'n well gyda chi gyfathrebu â staff iechyd a gofal cymdeithasol yn Gymraeg neu yn Saesneg?” ac “Yn y 12 mis diwethaf, ydych chi wedi cyfathrebu â staff iechyd neu ofal cymdeithasol yn Gymraeg?”.

Rydym hefyd newydd gyhoeddi y byddwn yn newid y ffordd rydym yn cynnal arolygon cartrefi Cymru. Fel rhan o ddatblygu’r cynnwys ar gyfer yr arolwg newydd, byddwn yn ystyried pa wybodaeth y gellid ei chasglu i gefnogi’r cynnig rhagweithiol. Bydd yn bwysig i ystyried cydbwysedd cost yr wybodaeth, ynghyd â pha mor amserol a defnyddiol ydyw, wrth wneud penderfyniadau am ba mor aml y dylid casglu gwybodaeth a pha mor fanwl y dylai fod.

Erbyn diwedd 2015, byddwn yn ystyried sut gellir addasu’r data sy’n cael ei gasglu yn y dyfodol drwy’r arolwg neu’r cyfrifiad meddygon teulu blynyddol i asesu canran y gwasanaethau sylfaenol a ddarperir yn Gymraeg i siaradwyr Cymraeg.

Mae holl sefydliadau’r GIG yng Nghymru yn dilyn y cyfarwyddyd yn y Fframwaith ar gyfer Gwella Profiadau Defnyddwyr Gwasanaethau (2013), sy’n gosod yr egwyddorion ar gyfer gwrando ar ddefnyddwyr gwasanaethau ac ymateb iddynt. Mae hyn yn cyfeirio’n benodol at gofnodi adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau Cymraeg eu hiaith ac mae’n berthnasol i bob gwasanaeth, gan gynnwys y rheini yn y gymuned. Caiff adborth ei nodi drwy bwyllgorau ansawdd a diogelwch y byrddau iechyd ac mae’n allweddol o ran penderfynu sut dylid gwella gwasanaethau i ddiwallu anghenion unigolion. Mae Llywodraeth Cymru yn monitro sut caiff y fframwaith hwn ei roi ar waith drwy grŵp cenedlaethol a gefnogir gan y Tîm Gwella 1000 o Fywydau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi datblygu strategaeth benodol i hybu’r cynnig rhagweithiol, sydd wedi gwella dealltwriaeth ymysg y boblogaeth leol.


Cynllunio gwasanaethau (argymhellion dau, 16, 17 a 18)

Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am asesu anghenion iechyd a llesiant eu poblogaethau a chynllunio a darparu gofal i ddiwallu’r anghenion hynny.

Mae fframwaith cynllunio’r GIG, o’i ddiweddaru, a’r cynllun gofal sylfaenol ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn atgyfnerthu’r dystiolaeth mai’r ffordd fwyaf effeithiol o asesu anghenion y boblogaeth leol a chynllunio gofal yw gwneud hynny ar gyfer cymunedau o oddeutu 25,000 i 100,000 o bobl. Mae byrddau iechyd yn datblygu strwythurau cynllunio lleol ar lefel gymunedol – y clystyrau gofal sylfaenol – i gefnogi hyn. Bydd y clystyrau mewn sefyllfa ddelfrydol i nodi anghenion Cymraeg unigolion a chymunedau lleol, gan helpu gofal sylfaenol i ymateb yn fwy effeithiol i’r egwyddorion ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a ‘Mwy na geiriau…’.

Mae fframwaith canlyniadau newydd y GIG 2015-16 yn cynnwys parth ar gyfer gofal unigol, sydd yn ei dro yn cynnwys canlyniad penodol mewn perthynas â chael gofal yn Gymraeg. Rydym wedi sicrhau hefyd bod fframwaith cynllunio y GIG yn cynnwys atodlen o ofynion deddfwriaethol ar gyfer byrddau iechyd, gan gynnwys gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Byddwn yn sicrhau y bydd y cyfrifoldeb am arwain ar y gwaith o wella darpariaeth Gymraeg mewn gofal sylfaenol yn ganolog i rôl newydd yr arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol, a benodir erbyn mis Mawrth 2015.


Deddfwriaeth a pholisi (argymhellion 11, 22 a 23)

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yw’r ddeddfwriaeth gyffredinol a luniwyd fel un pwynt ar gyfer gofynion ynghylch y Gymraeg.

Mae newid yn anochel wrth i ni wneud ein system iechyd a gofal cymdeithasol mor effeithiol â phosibl a rhoi ar waith egwyddorion iechyd a gofal darbodus. Mae asesu a diwallu anghenion Cymraeg pobl yn rhan annatod o’r rhaglen hon o newid a byddwn yn sicrhau, drwy asesiad effaith, y caiff materion y Gymraeg eu hystyried cyn bod unrhyw newid yn digwydd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi memorandwm esboniadol ac asesiad effaith reoleiddiol, gan gynnwys asesiadau effaith statudol penodol, ochr yn ochr â phob darn o ddeddfwriaeth. 

Mae’n ofynnol i unrhyw ddeddfwriaeth sydd ar y gweill – deddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth – ac unrhyw bolisïau newydd neu ddiwygiedig fynd o’r newydd drwy broses asesu effaith ar y Gymraeg, sy’n rhoi cyfle arall i ystyried yr angen i hybu’r Gymraeg ym mhob cynnig polisi a deddfwriaeth.


Arweinyddiaeth ac atebolrwydd (argymhellion 21 a 27)

Mae dyletswydd ar y system gofal iechyd yng Nghymru i gyflawni ei chyfrifoldebau o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae ‘Mwy na geiriau…’ yn datgan yn glir bod perchnogaeth ac arweinyddiaeth gref ar wasanaethau Cymraeg yn hanfodol os ydym am ddiwallu – gyda’n gilydd – ein gofynion statudol ynghylch y Gymraeg a sicrhau bod modd cyflawni’r amcanion rydym wedi’u gosod o dan y fframwaith strategol ar gyfer iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu Fframwaith Profiad Cleifion Cymru Gyfan, a bwriedir i hyn ategu datganiadau ansawdd blynyddol y byrddau iechyd. Disgwylir i’r rhain adlewyrchu profiadau pawb, gan gynnwys y rheini sy’n cael gofal iechyd yn y Gymraeg.


Cynllunio’r gweithlu (argymhellion tri, 12, 19 ac 20)

Rydym yn ymrwymedig i wella’r data a gesglir ynghylch sgiliau Cymraeg, a fydd yn rhoi darlun mwy eglur i ni o unrhyw fylchau. Bydd angen ystyried yn ofalus sut i lenwi unrhyw fylchau sgiliau a’r adnoddau y mae eu hangen. Byddwn yn gweithio gyda GIG Cymru i weld pa wybodaeth sydd ar gael am anghenion siaradwyr Cymraeg mewn gwahanol leoliadau gofal sylfaenol a lleoliadau daearyddol. Bydd y gwaith hwn yn dylanwadu ar ba gapasiti ychwanegol y gallai fod ei angen.

Ar gyfer meddygon teulu, bydd gwaith y clystyrau gofal sylfaenol yn caniatáu i feddygfeydd teulu gydweithio i sicrhau bod staff Cymraeg eu hiaith ar gael. Y nod yn y pen draw yw sicrhau bod mwy o feddygon teulu Cymraeg eu hiaith ar gael. Yn y tymor byr, rydym eisiau sicrhau bod mwy o aelodau Cymraeg eu hiaith o’r gweithlu gofal sylfaenol ar gael yn yr ardal glwstwr.  
  
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wrthi’n trafod gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru a yw’n bosibl bod holl staff fferyllfeydd yn gwisgo bathodynnau i ddangos eu bod yn siarad Cymraeg – fel y mae nifer eisoes yn ei wneud.

Rydym yn paratoi arwyddion dwyieithog, a fydd yn cynnwys logo'r GIG, i’w dangos ar safleoedd fferylliaeth. Bydd deunydd hyrwyddo pellach fel gwybodaeth i gleifion a thaflenni darpariaeth gwasanaethau yn cael eu cyflwyno er mwyn gwella’r profiad i gleifion Cymraeg iaith gyntaf. Mae’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol eisoes wedi ymrwymo i ymchwilio i hyn, ynghyd â mentrau penodol eraill mewn perthynas â ‘Mwy na geiriau…’  

Bydd angen i’r gwaith o reoli sgiliau iaith y gweithlu gofal sylfaenol gael ei hysbysu gan gyflwyno Cofnod Staff Electronig 2, gydag anogaeth i bob aelod o staff gofnodi lefel eu sgil. Bydd hyn yn rhoi darlun cywir i’r GIG o sgiliau iaith, gan alluogi byrddau iechyd i ddatblygu amserlen a chynllun i lenwi unrhyw fylchau mewn gofynion sgiliau iaith.


Addysg a hyfforddiant (argymhellion 26, 32 a 33)

Mae’n rhaid i addysg a hyfforddiant fod yn gam allweddol at ddiwallu anghenion iaith siaradwyr Cymraeg mewn gofal sylfaenol.

Byddwn yn gweithio â byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd y GIG i sicrhau bod eu dadansoddiad o anghenion iechyd poblogaethau lleol yn pwyso a mesur gofynion Cymraeg presennol ac yn y dyfodol. Dylai GIG Cymru, mewn partneriaeth â chomisiynwyr a darparwyr addysg, adolygu’r trefniadau presennol a nodi pa gamau pellach y mae angen eu cymryd i gyflwyno rhaglenni hyfforddiant a all adlewyrchu’r anghenion hyn.

Bydd canlyniad yr adolygiad cyfredol o fuddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant iechyd proffesiynol, dan arweiniad Mel Evans, yn dylanwadu ar y camau y byddwn yn eu cymryd ar y cyd. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £350m y flwyddyn yn y maes hwn a bydd yr adolygiad, a fydd yn adrodd flwyddyn nesaf, yn ystyried a yw’r trefniadau presennol yn cynnig gwerth am arian i Gymru ac a oes gan yr unigolion sy’n ymgymryd â’r rhaglenni hyn y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad priodol ar ôl eu cwblhau. Bydd hefyd yn ystyried lefel bresennol y ddarpariaeth Gymraeg.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cyflwyno strategaeth sgiliau iaith gyfan gwbl integredig sy’n defnyddio meincnod o’r boblogaeth leol i benderfynu ar nifer “ddigonol” o siaradwyr Cymraeg y mae ei hangen mewn timau neu wasanaethau. Mae’r bwrdd iechyd wedi nodi bylchau mewn sgiliau ac wedi sefydlu cynlluniau gwella i gau’r bylchau sgiliau mewn timoedd.  


Systemau gwybodaeth (argymhellion 28 a 29)

Mae systemau clinigol meddygon teulu yn cofnodi manylion dewis iaith cleifion, sy’n galluogi rhannu’r wybodaeth gyda darparwyr gofal iechyd eraill.

Rydym yn cynnal adolygiad o’n Strategaeth e-Iechyd a Gofal, a bydd y gofyniad hwn yn cael ei ystyried yn y rhaglen honno. Rydym hefyd yn diweddaru Fy Iechyd Ar-lein i alluogi pobl i nodi eu dewis iaith wrth gofrestru.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi lansio gwasanaeth atgoffa cleifion am wybodaeth allweddol drwy neges destun i geisio lleihau nifer yr apwyntiadau cleifion allanol sy’n cael eu colli. Mae’r system ddwyieithog newydd yn atgoffa pob claf am ei apwyntiad.


Ymchwil a data (argymhellion pedwar, pump, 24, 25, 30 a 31)

Rydym yn ymrwymedig i wella’r ffordd y caiff anghenion siaradwyr Cymraeg eu cofnodi ar draws ein gwasanaethau gofal sylfaenol.
 
Bydd ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn paratoi ac yn cyhoeddi crynodeb o ddata Cymraeg sylfaenol i ddarparwyr gofal sylfaenol ei ddefnyddio i gynllunio gwelliannau i wasanaethau. Bydd hyn yn cynnwys dadansoddiadau manwl o ddata ardal fach o’r Cyfrifiad a dadansoddiad daearyddol o gwestiynau Arolwg Cenedlaethol Cymru, ynghyd ag unrhyw ddata perthnasol arall, erbyn diwedd 2015.

Bydd y data Cymraeg sylfaenol hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio trafodaethau gyda’r byrddau iechyd ar ddatblygu rhaglenni gwella i sicrhau canlyniadau i ddefnyddwyr Cymraeg eu hiaith.

Mae’r Archwiliad Hanfodion Gofal blynyddol, sy’n cael ei ymestyn i leoliadau cymunedol, yn gofyn a yw cleifion yn gallu cyfathrebu â staff nyrsio yn Gymraeg yn y maes clinigol os mai dyna yw eu dymuniad. Mae cwestiwn chwech o ‘gwestiynau craidd’ ar brofiad defnyddwyr gwasanaethau GIG Cymru, a ddefnyddir mewn lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd, yn gofyn i gleifion os ydynt yn gallu siarad â staff yn Gymraeg os oes angen iddynt wneud hynny.

Bydd timau ymchwil Gwasanaeth Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gydag adrannau perthnasol Llywodraeth Cymru, ac asiantaethau eraill fel sy’n briodol (gan gynnwys y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd), i nodi blaenoriaethau ymchwil a’u hymgorffori yn y broses cynllunio tystiolaeth at y dyfodol, gyda’r nod o brif-ffrydio’r Gymraeg mewn ymchwil cynllunio’r Gymraeg a gofal iechyd sylfaenol fel ei gilydd.