Skip to main content

Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Ddydd Llun 3 Chwefror, gwnaeth Prif Weinidog y DU araith yn Greenwich, yn amlinellu safbwynt agoriadol y DU yn y negodiadau ar berthynas y DU â'r UE yn y dyfodol.  Cyhoeddodd Llywodraeth y DU Ddatganiad Ysgrifenedig hefyd ar ei hamcanion ar gyfer y negodiadau.

Mae'n ymddangos bod dull gweithredu’r Prif Weinidog yn symud yn bendant oddi wrth yr hyn a nodwyd yn y datganiad gwleidyddol a lofnodwyd â’r Undeb Ewropeaidd, gwta dri mis yn ôl. Yn benodol, mae'n dangos amharodrwydd i ystyried fframwaith eang a chynhwysol sy'n cwmpasu pob agwedd ar ein cysylltiadau yn y dyfodol, gan ffafrio yn hytrach set o gytundebau ar wahân. Mae hefyd yn ymwrthod yn llwyr â gwneud ymrwymiadau ynghylch sefyllfa o chwarae teg a chaniatáu unrhyw rôl i Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’n ymddangos bod y dull gweithredu hwn yn rhoi blaenoriaeth i’r nod gwleidyddol o ddangos bod y DU wedi gwahanu’n llwyr oddi wrth yr UE, a hynny ar draul ffocws pragmataidd a synhwyrol ar yr hyn sydd orau i fuddiannau economaidd y DU. Yn hynny o beth, mae perygl iddo achosi niwed mawr i fasnach hanfodol Cymru ag Ewrop, a fyddai'n cael effaith wirioneddol ar swyddi a busnesau pobl.

Ar yr un diwrnod (3 Chwefror), cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ei chynigion ar gyfer mandad negodi'r UE. Mae hwn yn ailadrodd uchelgais yr UE i gael partneriaeth eang a dwfn â’r DU yn y dyfodol, yn unol â'r Datganiad Gwleidyddol. Mae'r cynnig hefyd yn ei gwneud yn glir y bydd yn rhaid i berthynas o'r fath fod yn seiliedig ar gydbwysedd rhwng hawliau a rhwymedigaethau a sicrhau chwarae teg i bawb.

O’u derbyn fel y maent, mae'r ddau ddatganiad yn awgrymu y gallai fod yn anodd iawn dod i gytundeb cyflym yn y negodiadau sydd ar ddod, er bod Llywodraeth y DU yn benderfynol o ddod â'r cyfnod pontio i ben ar 31 Rhagfyr 2020

Mae safbwynt cychwynnol y DU yn amlwg yn groes i'r blaenoriaethau a gyhoeddwyd gennym ar 20 Ionawr yn ein Papur Gwyn diweddaraf, Y Berthynas rhwng y DU a'r UE yn y Dyfodol: Blaenoriaethau Negodi i Gymru ac nid yw Llywodraeth y DU wedi gwneud fawr ddim ymdrech i ystyried ein safbwyntiau a'n pryderon wrth inni gyhoeddi'r amcanion hyn. Fel Llywodraeth, rydym yn cydnabod y bydd ein perthynas economaidd â'r UE yn y dyfodol yn seiliedig ar Gytundeb Masnach Rydd ond rydym yn parhau i gredu, o gofio arwyddocâd marchnadoedd yr UE i'n busnesau, bod yn rhaid i'r DU geisio cael y mynediad llawnaf at farchnad yr UE, dileu tariffau a lleihau rhwystrau nad ydynt yn dariffau.

Bydd yr wythnosau nesaf yn dyngedfennol o ran datblygu safbwyntiau negodi manwl y DU.  Wrth aros am ymateb pendant gan Lywodraeth y DU i'n cynigion ar gyfer ymgysylltu, bydd Prif Weinidog Cymru a minnau'n parhau i bwyso arni i weithio gyda holl lywodraethau'r DU i gytuno ar fandad sy'n diogelu buddiannau pob rhan o'r Undeb.

Rhannu’r dudalen hon