Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, gwnaeth Canghellor y Trysorlys Ddatganiad yr Hydref ar y rhagolygon ar gyfer economi’r DU a chynlluniau trethi a gwariant Llywodraeth y DU. Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn amlinellu’r goblygiadau i Gymru.

Rydym yn croesawu’r dyraniadau net ychwanegol o £113.2 miliwn o refeniw ac £8.8 miliwn o gyfalaf i linell sylfaen Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16. Mae’r dyraniad hwn yn mynd rywfaint o’r ffordd tuag at wneud yn iawn am y niwed y mae pobl Cymru a gweddill y DU eisoes wedi’i ddioddef yn sgil y toriadau difrifol yn y ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ond mae ein cyllideb yn dal yn 9% yn llai, mewn termau gwirioneddol, nag oedd yn 2010-11.

I Gymru, mae Datganiad yr Hydref yn golygu mai cyfanswm y cynnydd refeniw fydd £1.3 miliwn o refeniw yn 2014-15. Yn 2015-16, cyfanswm y cynnydd refeniw fydd £113.2 miliwn, a chyfanswm y cynnydd cyfalaf fydd £8.8 miliwn, y mae £2.3 miliwn ohono ar gyfer Trafodion Ariannol. Mae’r rhain yn adlewyrchu ein cyllid canlyniadol drwy Barnett yn sgil penderfyniadau Llywodraeth y DU, ond mae gan Lywodraeth Cymru ddisgresiwn ynghylch sut rydym yn gwario adnoddau yn unol â’n blaenoriaethau.

Rwy’n cyhoeddi y prynhawn yma y bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu’r cyllid canlyniadol refeniw iechyd o £70 miliwn i GIG Cymru.

Ddoe, cyhoeddais gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb Derfynol 2015-16.  Cafodd y rhain eu llywio gan ein blaenoriaethau ac maent yn adlewyrchu’r penderfyniadau anodd yr oedd angen inni eu gwneud.  Mae’r pwyslais a roddir ar dwf a swyddi yn ein cyllideb wedi cael effaith wirioneddol ar economi Cymru, yn enwedig i bobl ifanc. Rydym wedi gorfod ymdopi â thoriadau rheolaidd i’n cyllideb, ynghyd â chynnydd mewn galw, sydd wedi rhoi pwysau ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Yn ein Cyllideb, ein nod oedd lleddfu’r pwysau hyn drwy ganolbwyntio fwyfwy ar iechyd a pharhau i amddiffyn cyllidebau ysgolion. Bydd y buddsoddiad ychwanegol o £225 miliwn yn GIG Cymru i ni ei gyhoeddi yn y Gyllideb Ddrafft hon, ynghyd â’r £200 miliwn ychwanegol yn 2014-15 a’r £70 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw, yn helpu GIG Cymru i wneud y diwygiadau a’r newid sylweddol y mae eu hangen i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Rydym yn llwyr ddeall yr heriau y mae’r GIG yn eu hwynebu yng Nghymru; mae’r un heriau i’w gweld ar draws y Byd Gorllewinol ac yn cael eu hadlewyrchu yng nghyhoeddiad Llywodraeth y DU heddiw.  

Rwy’n credu, drwy fuddsoddi mewn iechyd ac ysgolion, ein bod yn amddiffyn y gwasanaethau sydd wir o bwys i bobl Cymru ac sy’n cefnogi pobl sy’n agored i niwed.  

Am y tro cyntaf ers llawer o flynyddoedd mae Datganiad yr Hydref wedi cynyddu’r buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac rwy’n falch bod Llywodraeth y DU yn mynd ati o’r diwedd i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a hynny yn unol â’r dull gweithredu sydd eisoes yn rhan annatod o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y gyllideb. Byddwn yn ystyried sut i ymateb i’r cyhoeddiad heddiw er mwyn sicrhau’r manteision gorau posibl ar gyfer economi a phobl Cymru.

Prin y bydd y dyraniad cyfalaf bach ychwanegol yn Natganiad yr Hydref yn helpu i wneud yn iawn am y gostyngiad yn llinell sylfaen cyfalaf Llywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU ers 2009-10. Er gwaethaf y gostyngiad hwn, rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar wneud y gorau posibl o’r cyfleoedd a’r manteisio a ddaw drwy fuddsoddiadau yn seilwaith Cymru i gefnogi twf a swyddi. Ers ei lansio yn 2012, drwy gyfuniad o ddyraniadau cyfalaf ychwanegol a chynlluniau cyllid arloesol, mae’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru (WIIP) wedi sicrhau buddsoddiad ychwanegol o fwy na £3.5 biliwn yn economi Cymru.

Rwy’n croesawu cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU y bydd yn dechrau cynnal trafodaethau agosach â Tidal Lagoon Power Ltd i ddarganfod a yw’r prosiect morlyn llanw ym Mae Abertawe yn bosibl ac yn cynnig gwerth am arian i ddefnyddwyr yn y DU.  Rydym yn cydnabod bod gan brosiect morlyn llanw Bae Abertawe y potensial i gefnogi twf economaidd a swyddi.  Dyna pam yr ydym yn darparu cyllid trafodion ariannol gwerth £1.25 miliwn yn 2014-15, yn amodol ar ddiwydrwydd dyladwy, fel benthyciad masnachol i gefnogi’r datblygiad.

Mae camau pwysig i’w cymryd tuag at ddatganoli trethi i Gymru.  Rwy’n falch bod  Datganiad yr Hydref yn cadarnhau ein bod wedi sicrhau bargen deg ar Ardrethi Annomestig ac mae’r rhagolygon cyntaf ar gyfer trethi i Gymru yn gam pwysig ymlaen wrth inni baratoi at gyhoeddiad ar Ddydd Gŵyl Dewi ynghylch cyllid tecach. Er bod newyddion da yn Natganiad yr Hydref, mae llawer i’w wneud o hyd i sicrhau setliad cyllid teg a chynaliadwy i Gymru.