Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys Ddatganiad yr Hydref, a oedd yn amlinellu’r rhagolygon ar gyfer economi’r DU a chynlluniau trethu a gwario Llywodraeth y DU. Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn crynhoi’r prif oblygiadau i Gymru.

Mae Datganiad yr Hydref yn dangos bod sefyllfa’r economi a chyllid cyhoeddus wedi gwella o’i chymharu â’r hyn a ddisgwylid adeg y Gyllideb ym mis Mawrth. Ond er hynny, mae’r economi yn wannach o lawer na’r hyn a ddisgwyliai Llywodraeth y DU pan lansiodd ei chynllun cyni ariannol ym mis Mehefin 2010. Erbyn 2015/16, mae disgwyl i’r economi fod wedi crebachu bron 7% o’i gymharu â’r hyn a ddisgwylid yn 2010, o’i mesur yn ôl CMC. Mae disgwyl i’r diffyg yn y gyllideb fod bron £60 biliwn yn uwch, ac mae disgwyl i’r ddyled gyhoeddus net fod £135 biliwn yn uwch.

Nid yw Datganiad yr Hydref wedi gwneud fawr ddim i newid y rhagolygon heriol ar gyfer cyllid cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Datganiad hwn, sy’n dilyn bron dair blynedd a hanner o doriadau i’r gyllideb, yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn dal i wynebu penderfyniadau anodd dros ben er mwyn cyflawni ei blaenoriaethau, sef darparu twf a swyddi, trechu tlodi, amddiffyn pobl agored i niwed a sicrhau gwasanaethau o safon uchel i bobl Cymru.

Drwyddi draw, mae graddfa’r gostyngiadau refeniw gryn dipyn yn is na’r rheini oedd yn ein hwynebu yn Natganiad yr Hydref y llynedd. O edrych yn fanwl ar y Datganiad, gwelir ambell gynnydd ac ambell ostyngiad ym mhecyn cyllid Llywodraeth Cymru. Yn benodol, mae gostyngiadau mewn rhai meysydd yn gwneud iawn am y cyllid canlyniadol rydym wedi’i dderbyn ar gyfer addysg, a’r cyhoeddiad am drethi busnes. Newid cynnil iawn i’r gyllideb sy’n cael ei dyrannu inni ar gyfer 2014-15 a 2015-16 yw’r effaith net. Golyga hynny mai ychydig o adnoddau ychwanegol fydd ar gael. Bydd angen i ni, fel Llywodraeth, ystyried y manylion a’r dewisiadau sydd ar gael inni, a byddwn yn ymateb maes o law. Rhaid cael gostyngiad cyfatebol i gyd-fynd â phob cynnydd yn y gyllideb. Ein blaenoriaethau ar gyfer Cymru fydd sail unrhyw benderfyniadau a wnawn.

Roedd Datganiad yr Hydref yn cynnwys sawl cyhoeddiad am Drethi Busnes yn Lloegr – sy’n gyfrifol am gyfran helaeth o’r cynnydd yn ein refeniw. Mae’r cyhoeddiad bod y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach yn cael ei ymestyn yn rhywbeth y bu Gweinidogion Cymru yn galw’n daer amdano. Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i bwyso a mesur y sefyllfa, cyn penderfynu ar y ffordd ymlaen ar gyfer Cymru.

Cynyddwyd y cyfleuster Trafodion Ariannol £5.750 miliwn yn 2014-15 a £38.640 miliwn yn 2015-16.  Er bod hyn yn newyddion cadarnhaol, mae’r ffordd y gellir defnyddio’r cyllid hwn yn cyfyngu arnom. Rydym yn parhau i reoli’r cyfleuster Trafodion Ariannol yng nghyd-destun y rhaglen Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Mae cynigion Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu’r pecyn buddsoddi cyfalaf ychwanegol o £552 miliwn a gyhoeddwyd gennyf ym mis Hydref, i helpu i gyflawni’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Mae hyn ar ben y £65.5 miliwn yn ychwanegol sydd ar gael i’w fuddsoddi eleni. Byddaf yn parhau i ystyried y gwahanol ffyrdd o wneud y gorau o’r adnoddau sydd gennym. Ers cyhoeddi’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, llwyddwyd i ddenu £2 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol yn economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru drwy ein Rhaglen Buddsoddi ar gyfer Cymru o gyllid a dyraniadau arloesol o’r cronfeydd cyfalaf wrth gefn.

£66.7 miliwn fydd cyfanswm y cynnydd i’r gyllideb refeniw yn 2014-15. £9.775 miliwn yw cyfanswm y cynnydd i’r gyllideb cyfalaf, ac mae £5.750 miliwn ohono wedi’i neilltuo ar gyfer Trafodion Ariannol. £74 miliwn fydd cyfanswm y cynnydd i’r gyllideb refeniw yn 2015-16. Ychydig dros £41 miliwn yw cyfanswm y cynnydd i’r gyllideb cyfalaf, ac mae £38.6 miliwn ohono ar gyfer Trafodion Ariannol.

Rydym hefyd yn croesawu’r cyhoeddiad a wnaed ddoe fod Llywodraeth y DU yn cefnogi ariannu cynllun Wylfa Newydd. Mae’r buddsoddiad hwn yn rhan allweddol o ‘Raglen Ynys Ynni’ Cymru. Rydym yn cydweithio â’r holl brif randdeiliaid i ddatblygu gweithgareddau’r gadwyn gyflenwi er mwyn sicrhau bod y cynllun yn dod â’r budd mwyaf i economi Cymru.

Cyhoeddais gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb Derfynol 2014-15 ar 3 Rhagfyr. Seiliwyd y rhain ar ein blaenoriaethau fel Llywodraeth ac roeddent yn adlewyrchu’r penderfyniadau anodd oedd yn ein hwynebu. Nid yw’r cyhoeddiad a wnaed heddiw yn newid y rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus yn sylweddol. Yr un yw ein blaenoriaethau hefyd, a byddwn yn ystyried sut i ymateb i’r cyhoeddiad heddiw er mwyn sicrhau bod economi Cymru a phobl Cymru yn cael y budd mwyaf ohono.