Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, mae Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi Datganiad y Gwanwyn – datganiad sydd wedi’i roi yn wyneb argyfwng costau byw cynyddol sy'n cael effaith ddifrifol ar aelwydydd, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus.
Ynghyd â Datganiad y Gwanwyn, cadarnhaodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ei bod yn adolygu ei rhagolygon ar gyfer twf economaidd tuag i lawr ac yn adolygu'r rhagolygon ar gyfer chwyddiant tuag i fyny. Nid yw’n argoeli’n dda o hyd ar gyfer cynhyrchiant a disgwylir i brisiau defnyddwyr gynyddu ymhellach.
Bydd safonau byw gwirioneddol yn gostwng o ganlyniad i’r ymchwydd mewn chwyddiant ac yn sgil trethi uwch, gan roi pwysau sylweddol pellach ar gyllidebau aelwydydd. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dweud y byddwn yn gweld, yn 2022-23, y gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw.
Er gwaethaf difrifoldeb yr argyfwng hwn, cynnydd o £27m yn unig a gafwyd yng nghyllid adnoddau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 o ganlyniad i gyhoeddiad y Canghellor heddiw. Gan fod disgwyl i brisiau fod yn uwch yn awr na phan gawsom ein setliad fis Hydref diwethaf, ni fydd ein cyllid yn mynd mor bell. Yn gyffredinol, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru werth tua £600m yn llai dros y 3 blynedd nesaf nag a dybiwyd cyn hyn – mae ein cyllideb wedi cael ei thorri i bob pwrpas.
Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na dwbl yr hyn y mae wedi’i dderbyn ar ffurf cyllid canlyniadol oddi wrth Lywodraeth y DU i gefnogi aelwydydd gyda’r argyfwng costau byw. Yn nwylo Llywodraeth y DU, drwy'r system dreth a budd-daliadau, y mae’r prif ysgogiadau ar gyfer amddiffyn y rhai sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Roedd gan Lywodraeth y DU gyfle heddiw i ymuno â ni i ddarparu ymateb llawn i’r argyfwng i gefnogi’r unigolion hynny sydd ei angen fwyaf – methu wnaeth hi.
Er gwaethaf y rhagolygon economaidd sy’n dirywio, roedd cyllid cyhoeddus y DU yn cynnig cyfle i’r Canghellor weithredu’n fwy pendant oherwydd bod y rhagolygon o ran refeniw trethi yn uwch a’r lefelau benthyca yn is na’r hyn a ddisgwyliwyd cyn hyn. Nid oes modd egluro felly pam nad yw'r Canghellor wedi defnyddio'r pwerau gwario sydd ar gael iddo i fuddsoddi mewn mesurau o sylwedd i gefnogi pobl ar adeg pan fo mwy o angen arnynt nag erioed.
Rwy’n falch bod y Canghellor, mewn ymateb i alwadau gan Lywodraeth Cymru ac eraill, wedi newid ei safbwynt i addasu trothwy Cyfraniadau Yswiriant Gwladol i adlewyrchu’r trothwy treth incwm uwch. Bydd hyn o fudd i'r gweithwyr hynny sydd ar incwm is. Fodd bynnag, mae'n hynod siomedig nad yw datganiad y Canghellor yn gwneud fawr ddim i leddfu'r wasgfa anferth ar yr aelwydydd tlotaf a mwyaf agored i niwed sy'n dibynnu ar fudd-daliadau, ac nad yw ychwaith wedi cymryd camau pellach i leihau biliau ynni. Gyda’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn awr yn rhagweld cyfradd chwyddiant o 7.4% yn 2022, a’r budd-daliadau ond wedi’u codi gan 3.1%, mae’r goblygiadau ar gyfer tlodi a chyfiawnder cymdeithasol yn ddifrifol.
Mae’r mesurau eraill a gyhoeddwyd gan y Canghellor heddiw yn cynnwys gostyngiad yn y dreth tanwydd a mesurau i ddileu treth ar werth ar fuddsoddiadau effeithlonrwydd ynni gan aelwydydd. Ychydig iawn o effaith a gaiff y rhain, yn enwedig ar ein haelwydydd tlotaf, o gymharu â mesurau eraill y gellid bod wedi'u targedu i leihau costau ynni.
Fel y dangosodd dadansoddiad gan Resolution Foundation, mae’r aelwydydd sydd ar yr incwm isaf yn gwario llai ar danwydd ac nid oes ganddynt gymaint o fodd i fanteisio ar gynlluniau arbed ynni newydd. Nid yw Llywodraeth y DU yn cymryd digon o gamau i gymell cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac i feithrin gwydnwch yn ein cyflenwad ynni er mwyn sicrhau parhad a phrisiau sefydlog i ddefnyddwyr, a diogelu ein hynni.
Yr hyn a oedd ei angen heddiw oedd pecyn ysgogi seilwaith sylweddol i roi hwb i’r economi a magu hyder busnesau. Gallai mesurau o'r fath fod wedi cynnwys cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy, gwneud yn iawn am y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi tanariannu’r seilwaith rheilffyrdd yn y gorffennol a mynd i'r afael ag etifeddiaeth y diwydiant glo sydd wedi cael effaith anghymesur ar Gymru.
Ni wnaeth y Canghellor ddim i ennyn hyder yn ei ddull gweithredu tymor hwy dros y tymor Seneddol hwn i sefydlogi'r economi eto a darparu'r cyllid angenrheidiol i ddod o hyd i’r ffordd drwy’r argyfwng costau byw ac i fuddsoddi yn y gwaith o adfer yn sgil Covid.
Mae'r ffaith fod Llywodraeth y DU yn cynyddu ac yn gostwng trethi bob yn ail yn dangos nad oes ganddi ddull cydlynol. Mae'r cyhoeddiad a wnaed heddiw yn golygu bod y newidiadau treth fel petaent yn diddymu ei gilydd o un datganiad i'r llall. Nid yw'r dewis i leihau treth incwm yn y dyfodol wrth godi cyfraddau Yswiriant Gwladol yn gwneud synnwyr. Mae’n rhoi rhyddhad i'r rheini sydd ag incwm heb ei ennill fel y rhai sy'n byw oddi ar renti, ac yn cynyddu'r baich ar weithwyr.
Yn y pen draw, nid yw datganiad y Canghellor yn cyfateb i faint yr her nac yn gwarchod aelwydydd rhag yr argyfwng costau byw. Roedd diffyg tegwch wrth wraidd datganiad y Canghellor heddiw, gydag ychydig iawn o gymorth gwirioneddol i’r rhai sy’n ei chael yn anodd bwydo eu teuluoedd a chynhesu eu cartrefi. Ein blaenoriaeth fel Llywodraeth Cymru o hyd yw amddiffyn pobl Cymru a'u helpu drwy’r argyfwng costau byw, tra byddwn hefyd yn ceisio sicrhau Cymru gryfach, decach a gwyrddach.